Ewch i’r prif gynnwys

OPT026: Llawdriniaeth Cataractau a Phlygiannol

Nod y modiwl hwn yw cynnig dealltwriaeth fanwl i chi o bob agwedd o lawdriniaeth cataractau a phlygiannol, o'r ystyriaethau rhag-lawdriniaethol cynharaf, drwy agweddau technegol y llawdriniaeth ac yn gorffen gyda gofal ôl-lawdriniaethol i achosion arferol a chymhleth.

Modiwl dysgu o bell yn unig yw hwn ac nid oes unrhyw gydran ymarferol iddo.

Dyddiad dechrauMedi
Credydau10 credyd - pwyntiau CET ar gael
RhagofynionDim
Tiwtoriaid y modiwlPaul Cheshire (Arweinydd)
Ffioedd dysgu (2024/25)£670 - Myfyrwyr cartref
£1250 - Myfyrwyr rhyngwladol
Cod y modiwlOPT026

Amcanion dysgu

Ar ôl cwblhau’r modiwl, dylech chi allu gwneud y canlynol:

  • myfyrio'n feirniadol ar wybodaeth am faterion cymhleth, dadleuol a/neu gynhennus sy'n ymwneud â llawdriniaeth cataractau a phlygiannol
  • gwerthuso a chymhwyso cysyniadau allweddol modern o lawdriniaeth cataractau a phlygiannol a gallu eu cymhwyso i heriau yn eich amgylchedd a'ch ymarfer eich hun
  • mynd i'r afael â budd gwaith tîm rhyngbroffesiynol wrth ddarparu llawdriniaeth cataractau a phlygiannol a myfyrio arno
  • archwilio, dadansoddi'n feirniadol, cyfosod a gwerthuso llenyddiaeth, canllawiau a damcaniaethau sylfaenol sy'n seiliedig ar dystiolaeth mewn dulliau archwilio, dulliau llawfeddygol sydd ar gael ar hyn o bryd ar gyfer llawdriniaeth cataractau a phlygiannol (gan gynnwys risgiau posibl) a chymhwyso'r wybodaeth hon i senarios penodol, gan ddangos sut y byddech chi'n pennu'r atebion mwyaf priodol ar gyfer claf sy'n derbyn gofal offthalmig
  • cyflwyno dadleuon cytbwys a gwybodus, gan ymgorffori barn a phenderfyniadau beirniadol mewn gwaith ysgrifenedig

Dull cyflwyno’r modiwl

Dysgir y modiwl hwn trwy ddarlithoedd (Pwerbwynt â sain) a thiwtorialau Xerte a gyflwynir drwy Dysgu Canolog, sef system e-ddysgu'r Brifysgol, gydag adnoddau a chyfeirnodau ategol. Mae gweminar ragarweiniol a gweminar â’r nodweddion allweddol. Modiwl dysgu o bell yn unig yw’r modiwl hwn.

Bydd byrddau trafod ar Dysgu Canolog yn rhoi llwyfan i fyfyrwyr drafod unrhyw gwestiynau neu ymholiadau a ddaw i fyny drwy gydol y tymor gyda thiwtoriaid y cwrs a'u cyd-fyfyrwyr.

Dull asesu’r modiwl

Ffurfiannol

Mae senarios nodweddion allweddol ffurfiannol, lle gall y dysgwr weithio drwy'r achos trwy ateb cwestiynau. Bydd myfyrwyr yn cyflwyno un darn o waith cwrs ysgrifenedig fel asesiad ffurfiannol y byddant yn derbyn adborth ar ei gyfer (1500-2000 o eiriau).

Crynodol

Arholiad ar-lein (100%): Ceir prawf cwestiynau amlddewis a fydd yn asesu dealltwriaeth a chymhwysiad ar draws y maes llafur cyfan. Bydd myfyrwyr yn ei sefyll ar ddiwedd y gyfres o ddarlithoedd.

Y marc llwyddo ar gyfer pob asesiad yw 50%. Rhaid i fyfyrwyr basio'r modiwl yn gyffredinol, a phasio pob elfen unigol hefyd.

Sgiliau a fydd yn cael eu hymarfer a'u datblygu

Sgiliau academaidd

  • Datblygu eich gwybodaeth a'ch dealltwriaeth eich hun
  • Casglu ynghyd a chyfosod gwybodaeth o sawl adnodd i wella dysgu
  • Ysgrifennu'n gryno ac yn glir ar gyfer y gymuned academaidd a chlinigol
  • Dehongli data

Sgiliau cyffredinol

  • Rheoli prosiectau ac amser
  • Gweithio’n annibynnol
  • Defnyddio ystod o becynnau meddalwedd TG ac adnoddau ar-lein
  • Datrys problemau

Cynnwys y maes llafur

Dylai'r disgrifiadau hyn weithredu fel canllaw gyffredinol, a bydd pwyslais penodol yn amrywio gyda phob darlith. Er y bydd pob pwnc yn cael sylw o leiaf unwaith, bydd rhai pynciau yn cael eu hadnewyddu yn ddiweddarach yn y modiwl. Enghraifft yw'r ystod o opsiynau triniaeth sydd ar gael ar gyfer gwahanol raddau o wallau plygiannol. Bydd yr addysgu yn ymdrin â'r canlynol:

  • Cymryd hanes offthalmig perthnasol gan gleifion â chataract a/neu wall plygiannol
  • Archwilio segment flaen cleifion â chataract a / neu wall plygiannol
  • Technoleg delweddu segmentau blaen a thechnoleg ddiagnostig ar gyfer cleifion sydd â chataract a / neu wall plygiannol
  • Perthnasedd canfyddiadau segmentau ôl mewn cleifion â chataract a / neu wall plygiannol
  • Dehongli a chyfosod canfyddiadau clinigol mewn cataract a / neu wall plygiannol
  • Gwneud penderfyniadau clinigol ar gyfer cleifion â chataract a / neu wall plygiannol (arwyddion ar gyfer llawdriniaeth yn ôl buddion yn erbyn risgiau)
  • Llunio cynllun rheoli clinigol
  • Y technolegau sydd ar gael i drin cleifion â chataract a / neu wall plygiannol
  • Y risgiau a’r cymhlethdodau posibl sy'n gysylltiedig â thechnegau llawdriniaeth blygiannol a chataractau
  • Gofal ôl-driniaethol ar gyfer cleifion llawdriniaeth cataractau a phlygiannol
  • Canllawiau clinigol e.e. NICE, SIGN

Dull asesu’r modiwl

Ffurfiannol

Mae senarios nodweddion allweddol ffurfiannol, lle gall y dysgwr weithio drwy achosion trwy ateb cwestiynau.

Ceir hefyd drafodaethau achos ffurfiannol ar y bwrdd trafod grŵp.

Crynodol

Arholiad ar-lein (100%): Ceir prawf ar-lein a fydd yn asesu dealltwriaeth a chymhwysiad ar draws y maes llafur cyfan. Bydd myfyrwyr yn ei sefyll ar ddiwedd y gyfres o ddarlithoedd. Bydd hyn yn cynnwys nodweddion allweddol a senarios rheoli achosion a chwestiynau amlddewis.