Ewch i’r prif gynnwys

OPT032: Glawcoma 3 (Uwch)

Mae'r modiwl hwn yn dilyn OPT009, OPT010 ac OPT031, ac ef yw’r modiwl olaf yn y gyfres yn ymwneud â glawcoma.

Nod y modiwl hwn yw rhoi'r wybodaeth, y sgiliau a'r profiad sydd eu hangen arnoch i ddarparu naill ai gwasanaeth glawcoma cymunedol cynhwysfawr, neu i weithio gyda lefel uchel o ymreolaeth o fewn clinig is-arbenigol glawcoma gofal eilaidd. Ar ôl ei gwblhau, dylech fod yn gymwys i wneud penderfyniadau rheoli priodol sy'n seiliedig ar dystiolaeth mewn ystod eang o gyflyrau sy'n gysylltiedig â glawcoma gan gynnwys gwybodaeth gynhwysfawr o’i ddiagnosio a’i drin a'r gallu i ganfod newid clinigol.

Bydd gofyn i chi drefnu lleoliad clinigol mewn clinig glawcoma gofal eilaidd, gan nodi mentor offthalmolegydd sy’n arbenigo mewn glawcoma i'ch cefnogi. Os ydych yn ceisio Diploma Proffesiynol y Coleg mewn Glaucoma, bydd gofyn i chi gasglu tystiolaeth o fod wedi gweld o leiaf 250 o gyfnodau gofal cleifion yn ystod eich lleoliad. Cesglir y dystiolaeth hon ar ffurf cofnodlyfr clinigol i'w gyflwyno ar ddiwedd y modiwl. Dylech fod yn ymwybodol bod yn rhaid i achosion ar gyfer y Diploma fod yn ychwanegol at unrhyw achosion a gyflwynwyd yn flaenorol fel rhan o Dystysgrif Broffesiynol Uwch y Coleg mewn Glawcoma.

Mae'r modiwl hwn yn cymryd DAU dymor academaidd i'w gwblhau ac mae dau ddiwrnod cyswllt ar-lein nad ydynt yn olynol; fel arfer bydd y rhain yn cael eu cynnal ym mis Ionawr a mis Mehefin.

Mae'r modiwl hwn wedi'i achredu gan Goleg yr Optometryddion a bydd myfyrwyr sy'n darparu tystiolaeth foddhaol o'r profiad a gafwyd yn ystod eu lleoliad clinigol yn derbyn Diploma Proffesiynol y Coleg mewn Glawcoma.

Mae pwyntiau CET ar gael ar ôl cwblhau elfennau perthnasol o'r modiwl.

Dyddiad dechrauMedi
HydDau dymor academaidd
Credydau20 credyd
RhagofynionOPT009 (neu esemptiad drwy Gynllun Mireinio Atgyfeirio Glawcoma LOCSU/ Glawcoma Cymru), OPT010 ac OPT031
Tiwtoriaid y modiwlAngela Whitaker (arweinydd)
Ffioedd dysgu (2023/24)£1300 - myfyrwyr Cartref
£2430 - Myfyrwyr o'r tu allan i'r UE
*Cysylltwch â ni i gael manylion ffioedd yr UE.
Cod y modiwlOPT032

Ar ôl cwblhau’r modiwl, dylech allu gwneud y canlynol:

  • Gwerthuso a chymhwyso cysyniadau allweddol modern o ddiagnosio trin a monitro gofal glawcoma a gallu eu cymhwyso i heriau o fewn ymarfer cymunedol cynhwysfawr gyda lefel uchel o ymreolaeth neu o fewn clinig is-arbenigol glawcoma gofal eilaidd
  • Mynd i'r afael â budd gwaith tîm rhyngbroffesiynol wrth ddarparu gofal glawcoma, a myfyrio arno
  • Cyflwyno dadleuon cytbwys a gwybodus, gan ymgorffori barn a phenderfyniadau beirniadol mewn asesiadau ysgrifenedig.
  • Myfyrio'n effeithiol ar ddysgu a'i werthuso
  • Asesu arwyddion a symptomau glawcoma a chyflyfrau sy’n gysylltiedig â glawcoma i wneud diagnosis gwahaniaethol ac i raddio opsiynau i’w rheoli
  • Datrys problemau a datblygu, monitro a newid cynlluniau rheoli ar sail tystiolaeth a barn broffesiynol a chlinigol gadarn
  • Myfyrio'n feirniadol ar wybodaeth am faterion cymhleth, dadleuol a/neu gynhennus sy'n ymwneud â gofal glawcoma
  • Archwilio, dadansoddi'n feirniadol, cyfosod a gwerthuso llenyddiaeth, canllawiau a damcaniaethau sylfaenol sy'n seiliedig ar dystiolaeth mewn gofal glawcoma a chymhwyso'r wybodaeth hon i senarios penodol, gan ddangos sut y byddech chi'n pennu'r driniaeth fwyaf priodol ar gyfer claf sy'n derbyn gofal glawcoma.

Dull cyflwyno’r modiwl

Dysgir y modiwl hwn drwy ddarlithoedd ar-lein a gyflwynir drwy Dysgu Canolog, sef system e-ddysgu'r Brifysgol, gydag adnoddau a chyfeiriadau ategol. Bydd byrddau trafod y gellir eu cyrchu trwy Dysgu Canolog yn rhoi llwyfan i chi drafod unrhyw gwestiynau neu ymholiadau a ddaw i fyny drwy gydol y tymor gyda thiwtoriaid y cwrs a'ch cyd-fyfyrwyr.

Bydd gweminar ragarweiniol a dau gyfarfod cynnydd ar-lein gyda thiwtor. Yn ogystal, mae dau ddiwrnod cyswllt ar-lein, y cyntaf gyda gweithdy sgiliau cyfathrebu, trafodaethau achos a chyflwyniadau i gydfyfyrwyr, a’r ail gyda'r asesiadau crynodol.

Dull asesu’r modiwl

Asesiadau ffurfiannol: Cyfarfodydd cynnydd ac adroddiadau achos ffurfiol: Bydd myfyrwyr yn cymryd rhan mewn dau gyfarfod cynnydd un-i-un gydag asesydd trwy gyswllt fideo yn ystod y modiwl. Bydd myfyrwyr yn cyflwyno un adroddiad achos ac un ddogfen fyfyrio cyn pob cyfarfod ynghyd â chopi o'r cofnodlyfr clinigol sy'n cofnodi cynnydd eu lleoliad (gweler isod). Bydd yr asesydd yn darparu adborth ffurfiannol ar yr adroddiad achos a bydd yn adolygu'r cynnydd ar leoliad clinigol a chofnodlyfr y myfyriwr. Gall mentor y lleoliad ddewis cymryd rhan yn y cyfarfodydd hyn.

Cyflwyniad i gydfyfyrwyr: Yn dilyn y cyfarfodydd cynnydd, bydd myfyrwyr yn mynd i sesiwn grŵp lle byddant yn cyflwyno un/dau achos i'w cydfyfyrwyr. Byddant yn cael eu holi gan eu cydfyfyrwyr a/neu aseswr a fydd hefyd yn rhoi adborth ar yr achos a'i reolaeth, ynghyd ag ansawdd y cyflwyniad.

Gweithdy cyfathrebu: Fel grŵp, bydd myfyrwyr yn cael cyfle i ymarfer a mireinio eu sgiliau cyfathrebu mewn perthynas â rheoli glawcoma. Bydd myfyrwyr yn cymryd eu tro mewn tasgau gan gynnwys cymryd hanes, esbonio cyflwr a'i effaith, ac egluro triniaeth, gan gynnwys unrhyw risgiau a buddion. Bydd myfyrwyr yn cael adborth gan eu cydfyfyrwyr a’r claf(cleifion), yn ogystal â'u haseswr.

Tiwtorial sy'n seiliedig ar achosion am newidiadau mewn glawcoma: Fel grŵp, bydd myfyrwyr yn cymryd rhan mewn tiwtorial sy'n seiliedig ar achosion ar ganfod dilyniant glawcomataidd gan ddefnyddio dyfeisiau delweddu a phrofion gweithrediad y golwg. Bydd y sesiwn gwbl ryngweithiol hon yn cael ei harwain gan diwtoriaid sy’n arbenigo mewn glawcoma.  

Cwestiynau amlddewis (MCQ): Ar ôl pob darlith dysgu o bell, bydd myfyrwyr yn ymgymryd â chyfres o bum cwestiwn MCQ gydag adborth i brofi eu dealltwriaeth eu hunain.

Asesiadau crynodol:

Adroddiadau achos ffurfiol (30%): Dau adroddiad achos ysgrifenedig yr un yn ymdrin â chyfnod o ofal cleifion y mae'r myfyriwr wedi bod yn rhan ohono (pob adroddiad i gynnwys 1500-2000 o eiriau).

Asesiadau gorsafoedd clinigol (30%): Tair gorsaf wedi’u hamseru.

Viva adroddiad achos (40%): Arholiad llafar (viva voce) 45-60 munud gyda dau arholwr ar set o adroddiadau achos ffurfiol a gyflwynwyd yn flaenorol (ar wahân i'r rhai y cyfeirir atynt uchod).

Sgiliau a gaiff eu hymarfer a'u datblygu:

Meistrolaeth mewn sgiliau academaidd

  • datblygu eich gwybodaeth a'ch dealltwriaeth eich hun
  • casglu ynghyd a chyfosod gwybodaeth o sawl adnodd i wella dysgu
  • ysgrifennu'n gryno ac yn glir ar gyfer y gymuned academaidd a chlinigol
  • dehongli data


Meistrolaeth mewn sgiliau generig

  • rheoli prosiectau ac amser
  • gweithio’n annibynnol
  • defnyddio ystod o becynnau meddalwedd TG ac adnoddau ar-lein
  • datrys problemau

Manylion cyswllt

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â ni:

Postgraduate team

School of Optometry and Vision Sciences