Ewch i’r prif gynnwys

OPT031: Glawcoma 2

Mae'r modiwl hwn yn adeiladu ar 'OPT010 – Glawcoma Lefel 1' a Thystysgrif Broffesiynol y Coleg Optometryddion mewn Glaucoma i gefnogi hyfforddiant clinigol wrth ddiagnosio a monitro gorbwysedd ocwlar (OHT) a glawcoma ongl agored cronig (COAG) tybiedig, yn ogystal â’r diagnosis rhagarweiniol o COAG.

Mae gwybodaeth a sgiliau yn cael eu hymestyn i lefel a fydd yn galluogi'r optometrydd, orthoptydd neu'r nyrs i gymryd rhan mewn cynlluniau cymunedol neu mewn ysbyty. Ar ôl ei gwblhau, dylech fod yn gallu gwneud diagnosis a rheoli OHT neu COAG tybiedig yn annibynnol, a gwneud diagnosis rhagarweiniol o COAG yn annibynnol. Mae'r rhaglen hefyd yn datblygu gwybodaeth am therapi meddygol a laser mewn glawcoma ac OHT, ac yn ymdrin â'r egwyddorion sy'n sail i reoli'r cyflyrau hyn ar sail tystiolaeth.

Mae un weminar diwrnod llawn ynghyd â gweminarau gyda'r nos i arwain a chefnogi dysgu a chewch eich cefnogi ymhellach gan diwtorialau ar-lein unigol gyda thiwtor optometrydd sy’n arbenigo mewn glawcoma. Mae un diwrnod cyswllt ym Mhrifysgol Caerdydd, sef yr arholiad gorsaf ymarferol yn ystod yr ail semester.

Mae'r modiwl hwn yn cymryd DAU dymor academaidd i'w gwblhau.

Achredir y modiwl hwn ar gyfer Tystysgrif Broffesiynol Uwch Coleg yr Optometryddion mewn Glawcoma.  Er mwyn ennill y cymhwyster hwn mae'n rhaid eich bod eisoes wedi ennill Tystysgrif Broffesiynol mewn Glaucoma ac yna rhaid i chi basio'r modiwl OPT031 ynghyd â'r cydrannau heb eu pwysoli.

Ochr yn ochr ag astudio OPT031, mae'n ofynnol i chi drefnu lleoliad, neu weithio mewn clinig glawcoma, gyda mentor sydd naill ai'n offthalmolegydd sy’n arbeinog mewn glawcoma neu'n optometrydd gyda'r Diploma mewn Glaucoma, a chofnodi eich cyfranogiad gweithredol a'ch profiad o leiaf 150 o gleifion. Bydd y cofnodlyfr yn cael ei asesu yn ystod y modiwl ac mae'n ddibwysoli, ond mae'n orfodol i gyflawni Tystysgrif Uwch Coleg yr Optometryddion.

Dyddiad dechrauMedi
Credydau20 credyd - Pwyntiau CET ar gael
RhagofynionOPT009 (neu esemptiad drwy Gynllun Mireinio Atgyfeirio Glawcoma LOCSU/ Glawcoma Cymru)
OPT010
Tiwtoriaid y modiwlAngela Whitaker (arweinydd)
Claire Gaskell (arweinydd)
Ffioedd dysgu (2024/25)£1340 - Myfyrwyr cartref
£2500 - Myfyrwyr rhyngwladol
Cod y modiwlOPT031

Ar ôl cwblhau’r modiwl, dylech allu gwneud y canlynol:

  • gwerthuso a chymhwyso cysyniadau allweddol modern o ddiagnosis a monitro OHT a COAG tybiedig, a'r diagnosis rhagarweiniol o COAG a gallu eu cymhwyso i heriau o fewn eich amgylchedd a'ch ymarfer eich hun
  • mynd i'r afael â budd gwaith tîm rhyngbroffesiynol wrth ddarparu gofal llygaid acíwt mewn optometreg a myfyrio arno
  • cyflwyno dadleuon cytbwys a gwybodus, gan ymgorffori barn a phenderfyniadau beirniadol mewn asesiadau ysgrifenedig ac ymarferol
  • myfyrio'n effeithiol ar ddysgu a'i werthuso
  • asesu arwyddion a symptomau OHT, COAG tybiedig a COAG i wneud diagnosis gwahaniaethol ac i raddio opsiynau i’w rheoli
  • datrys problemau a datblygu atebion/cynlluniau rheoli yn seiliedig ar dystiolaeth a barn broffesiynol a chlinigol gadarn
  • myfyrio'n feirniadol ar wybodaeth am faterion cymhleth, dadleuol a/neu gynhennus sy'n ymwneud â gofal glawcoma mewn ymarfer optometrig
  • Archwilio, dadansoddi'n feirniadol, syntheseiddio a gwerthuso llenyddiaeth, canllawiau a damcaniaethau sy'n seiliedig ar dystiolaeth mewn gofal glawcoma a chymhwyso'r wybodaeth hon i senarios penodol, gan ddangos sut y byddech chi'n pennu'r atebion mwyaf priodol ar gyfer claf sy'n derbyn gofal offthalmig

Addysgir y modiwl hwn trwy ddarlithoeddar-lein, gweminarau ac adnoddau ategol a gyflwynir trwy Dysgu Canolog. Bydd byrddau trafod sydd ar gael ar Dysgu Canolog yn rhoi llwyfan i fyfyrwyr drafod unrhyw gwestiynau neu ymholiadau a ddaw i fyny drwy gydol y tymor gyda thiwtoriaid y cwrs a'u cyd-fyfyrwyr.

Mae un diwrnod cyswllt ym Mhrifysgol Caerdydd, sef yr arholiad gorsaf ymarferol yn ystod yr ail semester. Mae presenoldeb yn orfodol, felly cysylltwch â pgoptom@cardiff.ac.uk am fwy o wybodaeth os bydd angen rhybudd ymlaen llaw arnoch i drefnu eich presenoldeb.

Yn ystod y modiwl, byddwch yn cael dau gyfarfod ar-lein gyda thiwtor optometrydd sy’n arbenigo mewn glawcoma ar gyfer trafodaeth fanwl ar sail achosion ar eich adroddiadau achos a’ch cofnodlyfr a gyflwynwyd, i asesu sgiliau cyfathrebu, ac i fonitro ac ategu eich cynnydd cyffredinol.

Sgiliau academaidd

  • Gwella eich gwybodaeth a’ch dealltwriaeth eich hun
  • Casglu ynghyd a chyfosod gwybodaeth o sawl adnodd i wella dysgu
  • Ysgrifennu'n gryno ac yn glir ar gyfer y gymuned academaidd a chlinigol
  • Dehongli data

Sgiliau cyffredinol

  • Rheoli prosiectau ac amser
  • Gweithio’n annibynnol
  • Defnyddio ystod o becynnau meddalwedd TG ac adnoddau ar-lein
  • Datrys problemau
  • Diagnosio OHT, COAG tybiedig a COAG
  • Diagnosis gwahaniaethol o gyflyrau sy'n gysylltiedig â glawcoma.
  • Penderfyniadau rheoli sy'n seiliedig ar dystiolaeth mewn cleifion ag OHT a COAG tybiedig
  • Monitro'r ymateb i driniaeth mewn cleifion ag OHT a COAG tybiedig
  • Archwiliad goniosgopig o'r ongl siambr blaen
  • Gwrtharwyddion meddyginiaethau i drin glawcoma
  • Cyfathrebu â chleifion ynghylch y risg o ddallineb sy'n gysylltiedig â glawcoma, y risg i’r teulu

Asesiadau ffurfiannol

Byddwch yn cael adborth ffurfiannol cynhwysfawr gan eich tiwtor prifysgol ar-lein yn y cyfarfodydd ar-lein, pan fydd eich adroddiadau achos estynedig, sgiliau cyfathrebu a’ch cofnodlyfr yn cael eu trafod yn fanwl. Bydd hyn yn helpu i sicrhau eich bod yn rhoi tystiolaeth o’r cynnydd gofynnol tuag at archwiliad clinigol annibynnol a gwneud penderfyniadau. Byddwch hefyd yn cael adborth ffurfiannol gan oruchwylwyr a mentoriaid eich lleoliad clinigol trwy gydol y lleoliad.

Asesiadau crynodol

  • Prawf ar-lein (25%): Mae hwn yn brawf ar-lein electronig a fydd yn asesu gwybodaeth a chymhwysiad ar draws y maes llafur cyfan
  • Gwaith cwrs ysgrifenedig (60%): Yn ystod y modiwl, byddwch yn cyflwyno tri adroddiad achos estynedig erbyn terfynau amser penodol a drafodir mewn cyfarfodydd ar-lein gyda'ch tiwtor
  • Viva rhesymu clinigol (15%): Byddwch yn sefyll viva ar-lein tua 2 fis cyn diwedd y modiwl.  Nid yw hyn yn gydran gymwys ar gyfer modiwl OPT031, ond rhaid ei basio i gyflawni Tystysgrif Uwch Coleg yr Optometryddion
  • Asesiad ymarferol (0%): Byddwch yn sefyll arholiad gorsaf (2 orsaf archwilio cleifion) tua 2 fis cyn diwedd y modiwl. Nid yw hyn yn cael ei bwysoli ond mae'n rhaid ei basio i gyflawni Tystysgrif Uwch Coleg yr Optometryddion
  • Sgiliau cyfathrebu (0%): Bydd eich sgiliau cyfathrebu yn cael eu hasesu gan eich tiwtor ar-lein.  Nid yw hyn yn cael ei bwysoli ond mae'n rhaid ei basio i gyflawni Tystysgrif Uwch Coleg yr Optometryddion

Tystysgrif Broffesiynol Uwch y Coleg mewn Glawcoma

Achredir y modiwl hwn ar gyfer Tystysgrif Broffesiynol Uwch Coleg yr Optometryddion mewn Glawcoma. Os yw'r myfyriwr yn dymuno ennill y dystysgrif hon, mae'n rhaid iddo:

  1. Feddu ar Dystysgrif Broffesiynol y Coleg mewn Glawcoma ar hyn o bryd (Rhagofynnol)
  2. Adeiladu portffolio o brofiad clinigol er mwyn ennill y Dystysgrif Broffesiynol Uwch mewn Glaucoma

Mae'n ofynnol i bob myfyriwr sy'n dymuno ennill Tystysgrif Broffesiynol Uwch y Coleg mewn Glaucoma ymgymryd â lleoliad sy'n gysylltiedig â glawcoma mewn adran lygaid ysbyty o dan arweiniad mentor sydd ag arbenigedd priodol mewn glawcoma. Rhagwelir y bydd lleoliad chwe mis ar gyfer 1 sesiwn yr wythnos yn galluogi portffolio o 150 o achosion o leiaf sy'n dangos profiad. Mae canllaw ar gyfer myfyrwyr a mentoriaid yn amlinellu disgwyliadau'r profiad hwn.

Bydd y portffolio yn cael ei wirio i sicrhau bod ystod eang o senarios clinigol wedi'u cynnwys, yn ogystal ag achosion gorfodol, gyda dogfennaeth yn cael ei llofnodi gan y mentor.

Ar ôl cwblhau OPT-31 yn llwyddiannus: Glawcoma 2 a lleoliad clinigol, bydd yr ymgeisydd yn cael Tystysgrif Broffesiynol Uwch y Coleg mewn Glaucoma.

Nid yw hyn yn rhan orfodol o OPT031: Glawcoma 2 - mae croeso i fyfyrwyr astudio'r modiwl hwn heb y lleoliad a'r portffolio clinigol, ond ni fyddant yn cael Tystysgrif Broffesiynol Uwch y Coleg mewn Glawcoma.

Gwefannau