Ewch i’r prif gynnwys

OPT006: Optometreg Bediatrig

Nod y modiwl hwn yw rhoi'r wybodaeth a’r sgiliau ichi ddarparu gofal llygaid o safon uchel i blant.

Yn y bôn, rhoi gwybodaeth ddamcaniaethol a chynhwysfawr i chi a wna’r modiwl hwn, a bydd yn eich paratoi i ddarparu gofal llygaid o safon uchel i blant o bob oedran. Mae'n adeiladu ar y cymhwysedd sylfaenol sydd ei angen ar bob optometrydd, ac a fydd yn gofyn am ddealltwriaeth a gwybodaeth lefel uwch.

Ynghyd ag ‘OPT033: Gofal Llygad Pediatrig 2 - Modiwl Ymarferol’, caiff y modiwl hwn ei achredu gan Goleg yr Optometryddion ar gyfer y Dystysgrif Broffesiynol Uwch mewn Gofal Llygaid Pediatrig.

Mae pwyntiau CET ar gael ar ôl cwblhau elfennau perthnasol o'r modiwl.

Modiwl dysgu o bell yn unig yw’r modiwl hwn. Nid oes elfen ymarferol yn perthyn i’r modiwl hwn.

Dyddiad dechrauMedi
Credydau10 credyd - pwyntiau CET ar gael
RhagofynionDim
Tiwtoriaid y modiwlMaggie Woodhouse (Arweinydd)
Mike George
Ffioedd dysgu (2024/25)£670 - Myfyrwyr cartref
£1250 - Myfyrwyr rhyngwladol
Côd y modiwlOPT006

Amcanion dysgu

Ar ôl cwblhau’r modiwl, dylech allu gwneud y canlynol:

  • myfyrio'n feirniadol ar wybodaeth am faterion cymhleth, dadleuol a/neu gynhennus sy'n ymwneud â gofal llygaid pediatrig mewn ymarfer optometrig
  • gwerthuso a chymhwyso cysyniadau allweddol modern o ofal llygaid pediatrig a gallu eu cymhwyso i heriau yn eich amgylchedd a'ch ymarfer.
  • mynd i'r afael â budd gwaith tîm rhyngbroffesiynol wrth ddarparu gofal llygaid i blant mewn optometreg a myfyrio arno
  • Ystyried, dadansoddi'n feirniadol, syntheseiddio a gwerthuso llenyddiaeth, canllawiau a damcaniaethau sy'n seiliedig ar dystiolaeth mewn gofal llygaid aciwt a chymhwyso'r wybodaeth hon i senarios penodol, gan ddangos sut y byddech chi'n pennu'r atebion mwyaf priodol ar gyfer claf sy'n derbyn gofal offthalmig pediatrig.
  • cyflwyno dadleuon cytbwys a gwybodus, gan ymgorffori barn a phenderfyniadau beirniadol mewn gwaith ysgrifenedig.

Sut bydd y modiwl yn cael ei gyflwyno

Addysgir y modiwl hwn drwy ddarlithoedd (Pwerbwynt â sain) a gyflwynir drwy Dysgu Canolog, sef system e-ddysgu'r Brifysgol, gan ddarparu adnoddau a chyfeirnodau ategol. Bydd gweminar, yn cynnwys Senarios ar nodweddion allweddol, yn ogystal â thrafodaeth dan arweiniad arweinydd y modiwl, yn cael ei gynnal. Bydd yna hefyd weminar rhagarweiniol ar-lein a fydd yn rhoi trosolwg o’r cwrs. Modiwl dysgu o bell yn unig yw’r modiwl hwn.

Bydd byrddau trafod ar Dysgu Canolog yn rhoi llwyfan i fyfyrwyr drafod unrhyw gwestiynau neu ymholiadau a ddaw i fyny drwy gydol y tymor gyda thiwtoriaid y cwrs a'u cyd-fyfyrwyr.

Cynnwys y maes llafur

  • datblygiad cyffredinol ac ocwlar y llygaid yn ystod babandod
  • datblygiad plygiannol, a dosbarthiad diffygion plygiannol drwy gydol plentyndod
  • asesu diffygion plygiannol a rhoi presgripsiynau i blant
  • datblygiad golwg deulygad arferol ac annormal
  • asesu golwg deulygad mewn babanod a phlant a rheoli annormaleddau
  • profion a thechnegau ar gyfer asesu golwg ymhlith plant, a’r gwerthoedd disgwyliedig
  • rôl yr optometrydd yn achosion anawsterau dysgu penodol
  • datblygu iaith mewn plant a chyfathrebu â phlant, rhieni a gweithwyr proffesiynol
  • sgrinio llygaid yn ystod plentyndod
  • asesu iechyd ocwlar a diffygion cyffredin yn ystod plentyndod
  • gweinyddu optometreg i blant
  • diogelu Plant (lefel 2)
  • cyflwyniad i dechnegau ymchwilio

Sgiliau a gaiff eu hymarfer a’u datblygu

Sgiliau academaidd

  • datblygu eich gwybodaeth a'ch dealltwriaeth eich hun
  • casglu ynghyd a chyfosod gwybodaeth o sawl adnodd i wella dysgu
  • ysgrifennu'n gryno ac yn glir ar gyfer y gymuned academaidd a chlinigol
  • dehongli data

Sgiliau cyffredinol

  • rheoli prosiectau ac amser
  • gweithio’n annibynnol
  • defnyddio ystod o becynnau meddalwedd TG ac adnoddau ar-lein
  • datrys problemau

Sut bydd y modiwl yn cael ei asesu

  • profion ffurfiannol ar-lein: Profion MCQ ar-lein yw’r rhain ac a fydd yn eich galluogi i asesu eich dealltwriaeth a’i chymhwysiad ar ddiwedd pob darlith.
  • gwaith cwrs ffurfiannol: Dylai holl gofnodion o’r gwaith achos ffurfiannol (hynny yw, yr hyn nad yw’n cyfrif tuag at y marc terfynol) gynnwys myfyrdod personol a chyfeirnodau priodol. Rhoddir adborth.
  • gwaith cwrs ysgrifenedig (50%): Bydd myfyrwyr yn cyflwyno darn o waith cwrs ysgrifenedig
  • cofnodion o’r gwaith achos (50%): Bydd myfyrwyr yn cyflwyno cofnod llawn o’u gwaith achos. Dylai'r cofnodion hyn gynnwys myfyrdod personol a chyfeirnodau priodol.

(Ar gyfer Tystysgrif Broffesiynol y Coleg, mae'n ofynnol i fyfyrwyr gyflwyno pedwar cofnod o'u hymarfer clinigol dros y ddau fodiwl, gan gynnwys o leiaf un sy'n ymwneud â chyfathrebu gyda gweithiwr proffesiynol arall (lle nad gofal llygad yw ei faes). Yn OPT006, mae'r cofnod crynodol o’r gwaith achos yn gyfwerth ag un ran o’r modiwl, lle cyfanswm o bedair rhan sy’n rhan ohono).