Ewch i’r prif gynnwys

OPT005: Gofal Llygaid Acíwt 2

Nod y modiwl hwn yw rhoi cyfle i chi wella eich sgiliau mewn ymarfer gofal llygaid acíwt at lefel uwch.

Ar y modiwl hwn, byddwch yn defnyddio offeryniaeth ddatblygedig ymchwilio i rai achosion problemau llygaid acíwt a gweithio drwy senarios hanes achos sy'n adlewyrchu enghreifftiau datblygedig, anarferol a chymysg o gyflyrau llygaid acíwt yn ymarferol, gyda phwyslais ar hyfforddiant sgiliau ymarferol.

Dyddiad dechrauMawrth
Hyd25 o oriau cyswllt dros un tymor academaidd
Credydau10 credyd - pwyntiau CET ar gael
RhagofynionOPT004
Tiwtoriaid y modiwlNik Sheen (Arweinydd)
Nita Odedra
Ffioedd dysgu (2023/24)£650 - Myfyrwyr o'r DU a'r UE
£1215 - Myfyrwyr o'r tu allan i'r UE
Cod y modiwlOPT005

Mae pwyntiau CET ar gael ar ôl cwblhau elfennau perthnasol o'r modiwl.

Bydd dau ddiwrnod ymarferol/cyswllt sy’n gofyn am bresenoldeb yng Nghaerdydd.

Ar ôl cwblhau’r modiwl, dylech chi allu gwneud y canlynol:

  • gwerthuso a chymhwyso cysyniadau allweddol modern o ofal llygaid acíwt a gallu eu cymhwyso i heriau yn eich amgylchedd a'ch ymarfer.
  • archwilio, dadansoddi’n feirniadol, cyfosod a gwerthuso llenyddiaeth sy'n seiliedig ar dystiolaeth, canllawiau clinigol a theorïau sylfaenol ym maes ymarfer gofal llygaid acíwt i asesu arferion a dulliau rheoli yn y maes hwn
  • mynd i'r afael â budd gwaith tîm rhyngbroffesiynol wrth ddarparu gofal llygaid acíwt mewn optometreg a myfyrio arno
  • cyflwyno dadleuon cytbwys a gwybodus, gan ymgorffori barn a phenderfyniadau beirniadol
  • myfyrio'n effeithiol ar ddysgu a'i werthuso.
  • asesu arwyddion a symptomau cyflyrau llygaid acíwt i wneud diagnosis gwahaniaethol ac i raddio opsiynau i’w rheoli
  • datrys problemau a datblygu atebion/cynlluniau rheoli mewn achosion cymhleth ag ymgyflwyniad acíwt yn seiliedig ar dystiolaeth a barn broffesiynol a chlinigol gadarn

Addysgir y modiwl hwn drwy sesiynau dysgu dan arweiniad ar-lein trwy ddarlithoedd Xerte, podlediadau gydag arbenigwyr a dysgu rhyngweithiol trwy weminarau.

Mae diwrnod cyswllt hefyd yng Nghaerdydd a fydd yn cynnwys dysgu yn seiliedig ar achosion a gweithdai ymarferol ar sgiliau ymarferol perthnasol ar gyfer gofal llygaid acíwt. Bydd yr union drefniadau ar gyfer sesiynau ymarferol yn dibynnu ar ganllawiau COVID-19 ar y pryd.

Bydd byrddau trafod y gellir eu cyrchu trwy Dysgu Canolog yn rhoi llwyfan i chi drafod unrhyw gwestiynau neu ymholiadau a ddaw i fyny drwy gydol y tymor gyda thiwtoriaid y cwrs a'ch cyd-fyfyrwyr.

  • Ymgyflwyniadau acíwt cyffredin i ymarfer optometrig
  • Diagnosis gwahaniaethol a chynlluniau rheoli problemau llygaid acíwt
  • Brysbennu a rheoli achosion o drawma ocwlar
  • Dulliau ac offeryniaeth briodol ar gyfer tynnu pethau dieithr
  • Offeryniaeth a thechnegau a ddefnyddir wrth archwilio ac asesu toriadau a datgysylltiadau retinol.
  • Ymchwilio i heterophoria a heterotropia

Sgiliau academaidd

  • Coladu gwybodaeth o nifer o adnoddau i wella dysgu
  • Datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth eich hun i lefel uwch

Sgiliau pwnc-benodol

  • Gwella technegau archwilio clinigol
  • Datblygu sgiliau ymarferol i asesu a rheoli pobl â phroblemau llygaid acíwt
  • Llwybrau atgyfeirio priodol ar gyfer problemau llygaid acíwt

Sgiliau cyffredinol

  • Rheoli amser
  • Gweithio’n annibynnol
  • Datrys problemau
  • Sgiliau cyfathrebu

Mae'r modiwl hwn yn cynnwys asesiadau ffurfiannol a chrynodol. Mae asesiad ffurfiannol yn cynnwys cyflwyno adroddiad achos ar gyfer adborth.

Crynodol

Gwaith Cwrs Ysgrifenedig (33.3%): Bydd myfyrwyr yn cyflwyno darn o waith cwrs ysgrifenedig

Prawf ar-lein (66.7%). Bydd myfyrwyr yn ateb cwestiynau gan gynnwys rhai ag atebion lluosog, yr un ateb gorau ac atebion byr.