Ewch i’r prif gynnwys

OPT001: Golwg Gwan 1 - Theori

Nod y modiwl hwn yw eich arfogi â'r wybodaeth ddamcaniaethol gynhwysfawr i ddarparu gwasanaeth golwg gwan o safon uchel. Mae'n cynnwys rôl y tîm amlddisgyblaethol.

Nid oes elfen ymarferol yn perthyn i’r modiwl hwn.

Dyddiad dechrauMedi a Mawrth
Hyd20 o oriau cyswllt dros un tymor academaidd
Credydau10 credyd - pwyntiau CET ar gael
RhagofynionDim
Tiwtoriaid y modiwlMarek Karas a Natalie Lucas
Ffioedd dysgu (2024/25)£670 - Myfyrwyr cartref
£1250 - Myfyrwyr rhyngwladol
Cod y modiwlOPT001

Achredir y modiwl gan Goleg yr Optometryddion ar gyfer y Dystysgrif Broffesiynol mewn Golwg Gwan.

Eithriadau: Efallai y gall ymarferwyr yn y DU fod yn gymwys i wneud cais am esemptiad rhag y modiwl hwn a dechrau gydag OPT002 os ydynt wedi cwblhau Golwg Gwan LOCSU o fewn y tair blynedd diwethaf. I gael Tystysgrif Broffesiynol Coleg yr Optometryddion, rhaid i fyfyrwyr gwblhau un drafodaeth achos ysgrifenedig sy'n rhan o ofynion gwaith cwrs OPT001. Felly, bydd yn ofynnol i fyfyrwyr sy'n dilyn y llwybr esemptiad gyflwyno'r darn hwn o waith cwrs yn ystod eu hamser ar OPT002.

Mae pwyntiau CET ar gael ar ôl cwblhau elfennau perthnasol o'r modiwl.

Amcanion dysgu

Ar ôl cwblhau’r modiwl, dylech chi allu gwneud y canlynol:

  • adfyfyrio’n feirniadol ar wybodaeth am faterion sy'n ymwneud ag arfer golwg gwan
  • gwerthuso a chymhwyso cysyniadau allweddol modern o adfer golwg gwan a gallu eu cymhwyso i heriau yn eich amgylchedd a'ch ymarfer eich hun.
  • mynd i'r afael â budd gwaith tîm rhyngbroffesiynol wrth ddarparu adfer golwg gwan ac adfyfyrio arno
  • archwilio, dadansoddi'n feirniadol, syntheseiddio a gwerthuso llenyddiaeth, canllawiau a damcaniaethau creiddiol sy'n seiliedig ar dystiolaeth ym maes adfer golwg gwan a chymhwyso'r wybodaeth hon i senarios penodol, gan ddangos sut y byddech chi'n pennu'r atebion mwyaf priodol ar gyfer claf â nam ar ei olwg
  • cyflwyno dadleuon cytbwys a gwybodus, gan ymgorffori barn a phenderfyniadau critigol mewn gwaith ysgrifenedig.

Cynnwys y maes llafur

  • Diffiniadau o nam ar y golwg ac epidemioleg golwg gwan
  • Ardystio a Chofrestru
  • Effeithiau nam ar y golwg ar y swyddogaeth weledol, gweithgareddau bywyd bob dydd a lles seicolegol.
  • Mesur craffter golwg, sensitifrwydd cyferbyniad a meysydd gweledol gweithredol mewn cleifion â golwg gwan
  • Mesur sensitifrwydd cyferbyniad, plygiant a meysydd gweledol mewn pobl â golwg gwan
  • Diffiniad o chwyddo
  • Sut i ragnodi chwyddo
  • Opteg sylfaenol y gwahanol fathau o chwyddwyr
  • Ystyried defnyddiau, ergonomeg, deheurwydd, maes golwg, ystodau chwyddo a gofynion sbectol wrth ragnodi chwyddwyr
  • Lleihau disgleirdeb mewn cleifion â golwg gwan
  • Cymhorthion ar gyfer colli’r maes gweledol ymylol
  • Gwneud pethau'n fwy ac yn gwella cyferbyniad
  • Goleuo: goleuo cyffredinol, goleuo tasg
  • Amnewid golwg gan ddefnyddio sain a chyffwrdd
  • Braille a Moon
  • Cyfrifiaduron a nam ar y golwg, a chymhorthion nad ydynt yn rhai optegol
  • Cysylltu â gweithwyr proffesiynol a gwasanaethau eraill

Dull cyflwyno’r modiwl

Dysgir y modiwl hwn trwy ddarlithoedd (Pwerbwynt â sain) a thiwtorialau Xerte a gyflwynir drwy Dysgu Canolog, sef system e-ddysgu'r Brifysgol, gydag adnoddau a chyfeirnodau ategol. Mae gweminar ragarweiniol, a gweminar ar sefydlu chwyddiant. Modiwl dysgu o bell yn unig yw’r modiwl hwn.

Bydd byrddau trafod ar Learning Central yn rhoi llwyfan i fyfyrwyr drafod unrhyw gwestiynau neu ymholiadau a ddaw i fyny drwy gydol y tymor gyda thiwtoriaid y cwrs a'u cyfoedion.

Sgiliau y byddwch yn eu hymarfer a'u datblygu

Sgiliau academaidd

  • Datblygu eich gwybodaeth a'ch dealltwriaeth eich hun
  • Casglu ynghyd a chyfosod gwybodaeth o sawl adnodd i wella dysgu
  • Ysgrifennu'n gryno ac yn glir ar gyfer y gymuned academaidd a chlinigol
  • Dehongli data

Sgiliau pwnc-benodol

  • Bod yn ymwybodol o ymchwil ddiweddar ym maes nam ar y golwg a’r ymarfer clinigol derbyniol yn y ddisgyblaeth
  • Datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth eich hun i lefel uwch
  • Datblygu empathi â phobl sydd â nam ar eu golwg
  • Datblygu'r dull cyfannol o gefnogi pobl â nam ar eu golwg

Sgiliau cyffredinol

  • Rheoli prosiectau ac amser
  • Gweithio’n annibynnol
  • Defnyddio ystod o becynnau meddalwedd TG ac adnoddau ar-lein
  • Datrys problemau