Ewch i’r prif gynnwys

Caerdydd yn ennill gwobr 'Prifysgol y Flwyddyn'

3 Tachwedd 2017

CUBRIC cladding

Mae Prifysgol Caerdydd wedi cael ei henwi Prifysgol y Flwyddyn yng Ngwobrau Partneriaethau Busnes ac Addysg 2017.

Roedd yn un o bedair gwobr ar noson lwyddiannus i'r Brifysgol, a enillodd bob gwobr y cafodd ei henwebu ar ei chyfer.

Ochr yn ochr â'r anrhydedd teitl, cafodd y Brifysgol gydnabyddiaeth am fenter gydweithredol â IQE drwy'r Wobr Effaith Economaidd. Cafodd y fenter gydweithredol â IQE ei chydnabod hefyd mewn gwobr yr Athro Peter Smowton ar gyfer Effaith Unigol y Flwyddyn.

Cafwyd llwyddiant arall yn y Wobr Proses Newydd, ar gyfer gwaith rhwng yr Ysgol Seicoleg a Chymdeithas y Prif Swyddogion Tân.

Sut rydym yn creu cysylltiadau â byd diwydiant, busnesau a’r llywodraeth drwy ein hacademyddion.

Llwyddiant ar ôl i The Times a The Sunday Times gydnabod Caerdydd fel y Brifysgol Orau yng Nghymru 2018.

Dywedodd yr Athro Hywel Thomas, Dirprwy Is-Ganghellor, Ymchwil, Arloesedd ac Ymgysylltu: "Rydym wrth ein bodd i ennill gwobr Prifysgol y Flwyddyn. Daw hyn ar ôl cael ein henwi'n Brifysgol y Flwyddyn gan The Times, a'n safle newydd ymhlith y 100 uchaf ar Restr Academaidd Shanghai o Brifysgolion y Byd..."

"Mae'n rhaid canmol ein staff am hyn, am eu bod yn gweithio'n ddiflino i wneud yn siŵr bod Prifysgol Caerdydd yn cyflawni ei chenhadaeth ddinesig."

Yr Athro Hywel Thomas Dirprwy Is-Ganghellor Ymchwil, Arloesi a Menter

Yr Athro Peter Smowton yw Cyfarwyddwr Canolfan Gweithgynhyrchu Lled-ddargludyddion Cyfansawdd y Dyfodol EPSRC. Mae’r Ganolfan yn cymryd degawdau o waith arbenigol ym maes silicon ac yn ei baratoi at ddefnydd un o’r diwydiannau fydd yn tyfu yn ystod y ganrif hon: lled-ddargludyddion cyfansawdd.

Datblygodd yr Athro Rob Honey a Dr Sabrina Cohen-Hatton broses newydd i wella'r drefn benderfynu mewn argyfyngau. Roedd y prosiect yn cynnwys gosod camerâu GoPro ar helmedi swyddogion tân er mwyn helpu'r ymchwilwyr i ddeall y broses ar gyfer gwneud penderfyniadau.

Rhannu’r stori hon

Rydym yn cael effaith sylweddol ar Gymru a'r DU, mewn meysydd sy'n cynnwys cyflogaeth, ariannu ymchwil a gweithgareddau dysgu ac addysgu.