Ewch i’r prif gynnwys

Cymrodyr newydd Academi’r Gwyddorau Cymdeithasol

30 Hydref 2017

Fellow

Mae dau o wyddonwyr cymdeithasol y Brifysgol wedi'u cydnabod am ragoriaeth ac effaith eu gwaith.

Enwyd yr Athro Sally Power, Cyd-Gyfarwyddwr Sefydliad Data a Dulliau Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd Cymru (WISERD) a Chyfarwyddwr WISERD Addysg a'r Athro Martin Kitchener, Deon Ysgol Busnes Caerdydd, ymhlith 69 o wyddonwyr cymdeithasol blaenllaw i dderbyn Cymrodoriaeth Academi'r Gwyddorau Cymdeithasol.

Mae'r Athro Power yn awdur pwysig ym maes cymdeithaseg addysg, ac yn adnabyddus yn benodol am ei gwaith yn cyflwyno diwygiadau marchnad yn Lloegr a mannau eraill, ac ar y berthynas rhwng addysg a'r dosbarth canol.

Mae’r Athro Kitchener wedi gwasanaethu fel Deon a Phennaeth Ysgol Busnes Caerdydd ers mis Hydref 2012. Diffinnir ei arweinyddiaeth drwy gyflwyno strategaeth gwerth cyhoeddus unigryw sy'n cyfeirio’r Ysgol i "hyrwyddo gwella'r economi a'r gymdeithas drwy ysgolheictod rhyngddisgyblaethol sy'n mynd i'r afael â phroblemau mawr ein hoes, a gweithredu dull blaengar o fynd ati i wneud ein gwaith llywodraethu".

Professor Martin Kitchener
Yr Athro Martin Kitchener, Deon a Phennaeth Ysgol Busnes Caerdydd.

Dywedodd yr Athro Power: "Rwyf i wrth fy modd yn derbyn y Gymrodoriaeth. Rwyf i'n credu bod gan yr Academi rôl bwysig iawn yn hyrwyddo a diogelu'r gwyddorau cymdeithasol - rôl na fu erioed mor bwysig yn wyneb yr heriau cymdeithasol sy'n wynebu Cymru, y DU, Ewrop a thu hwnt. Gobeithio y bydd fy nghymrodoriaeth yn fy ngalluogi i wneud cyfraniad i'r gwaith hwn."

Ychwanegodd yr Athro Kitchener: "Rwyf i'n falch iawn i gael y cyfle i barhau record gref Prifysgol Caerdydd o gyfraniadau i'r Academi, ac yn edrych ymlaen at helpu i hyrwyddo'r rôl sydd gan wyddonwyr cymdeithasol yn cyflenwi gwerth i'r cyhoedd".

Dywedodd yr Athro Roger Goodman FAcSS, Cadeirydd Academi’r Gwyddorau Cymdeithasol: "Mae pob un o'r Cymrodorion nodedig newydd wedi'u cydnabod am gyfraniadau eithriadol uchel eu heffaith yn eu meysydd penodol, a byddant yn ychwanegiadau gwerthfawr at yr amrywiaeth o arbenigedd yn yr Academi.

"Mae hyn yn arwydd o rym a chwmpas y gwyddorau cymdeithasol wrth fynd i'r afael a materion mawr ein hoes, a hefyd o ddyfnder ac ehangder cynyddol cynrychiolaeth yr Academi fel llais y gymuned gwyddorau cymdeithasol yn gyffredinol."

Rhannu’r stori hon

Rydym ni’n defnyddio ein gwybodaeth i ddatblygu ymchwil arloesol fydd yn cael effaith ar y byd.