Ewch i’r prif gynnwys

Sut i fwydo byddin oresgynnol filoedd o filltiroedd o gartref

4 Hydref 2017

Research at Caerleon

Roedd y Rhufeiniaid goresgynnol yn dibynnu ar adnoddau o bell ac agos i gynnal eu lluoedd yn erbyn llwythau brodorol Cymru, yn ôl ymchwil newydd gan archeolegwyr Prifysgol Caerdydd.

Mewn astudiaeth a gyhoeddwyd yn Archaeological and Anthropological Sciences, defnyddiodd Dr Peter Guest a Dr Richard Madgwick o Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd y Brifysgol , dechnegau biocemegol olion anifeiliaid i ddatgelu tarddiad y da byw a gyflenwyd i’r lleng-gaer yng Nghaerllion.

Cyn yr astudiaeth hon, roedd damcaniaethau blaenllaw'n dadlau y byddai'n rhaid bod adnoddau amaethyddol a gynhyrchid yn lleol yn hanfodol i fwydo a chynnal y fyddin sylweddol oedd yn meddiannu'r ardal, er bod y syniad hwn yn seiliedig ar dystiolaeth gyfyngedig iawn.

Gan ddefnyddio dadansoddiad strontiwm isotop i ddadansoddi esgyrn anifeiliaid domestig o'r gaer, canfu'r ymchwilwyr amrywiaeth o ffynonellau. Yn arwyddocaol, nid yw'r patrwm amrywiol o ganlyniadau'n awgrymu cadwyn gyflenwi ganolog o agos nac o bell - canlyniadau sy'n herio’r damcaniaethau sydd eisoes yn bodoli.

Er bod y mwyafrif o'r da byw yn gyson â tharddiad lleol, canfu dadansoddiad fod o leiaf chwarter o'r moch, gwartheg ac anifeiliaid gafrog (defaid/geifr) yn dod o'r tu hwnt i dde ddwyrain Cymru, rhai o dde neu ddwyrain Lloegr tra gallai eraill fod wedi dod o dde'r Alban neu ogledd Ffrainc.

Dywedodd yr Uwch-ddarlithydd mewn Archeoleg Rufeinig Dr Peter Guest, a arweiniodd y darganfyddiadau diweddaraf yng Nghaerllion - yr unig lleng-gaer Rufeinig ym Mhrydain na aflonyddwyd arni: "Roedd arlwyo ar gyfer niferoedd mawr o filwyr proffesiynol ym Mhrydain ar ôl y goresgyniad yn AD 43 yn her fawr i'r Ymerodraeth Rufeinig. Am y tro cyntaf gallwn weld bod y goresgynwyr yn cyrchu da byw yn lleol ac o bellteroedd sylweddol. Mae'n ansicr sut roedd y rhwydweithiau cyflenwi hyn yn gweithredu ond mae gan yr astudiaeth hon oblygiadau pwysig nid yn unig ar gyfer deall sut roedd y fyddin Rufeinig yn cael ei chynnal yn Britannia ond hefyd yr effaith roedd arlwyo ar gyfer y fyddin yn ei gael ar gefn gwlad, yn enwedig o gwmpas safleoedd milwrol."

Ychwanegodd yr Osteoarcheolegydd  Dr Richard Madgwick: "Fel yr astudiaeth gyntaf i ddefnyddio data biocemegol i ymchwilio'r cyflenwad o anifeiliaid i fyddin Rhufain yn y taleithiau, y gobaith yw y bydd y canlyniadau hyn yn annog rhagor o astudiaethau isotop o arferion hwsmonaeth a chyflenwi da byw ym Mhrydain Rufeinig. Mae'r ymchwil yn ychwanegu data pwysig i'r corpws cyfyngedig iawn ar gyfer anifeiliaid domestig ym Mhrydain Rufeinig, gan ddarparu gwybodaeth newydd sylweddol ar gynhyrchu, cyflenwi a bwyta gwartheg, defaid/geifr a moch mewn canolfan filwrol allweddol."

Cyhoeddir On the hoof: exploring the supply of animals to the Roman legionary fortress at Caerleon using strontium isotope analysis yn Archaeological and Anthropological Sciences.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn lle i'r disgleiriaf a'r gorau i archwilio ac i rannu eu hangerdd dros astudio cymdeithasau'r gorffennol a chredoau crefyddol, o gyfnod cynhanes i'r presennol.