Ewch i’r prif gynnwys

Datgelu Athen hynafol drwy ei harysgrifau

5 Medi 2017

Ancient stone inscription

Diolch i brosiect newydd dan arweiniad Prifysgol Caerdydd, bydd yr holl arysgrifau carreg o Athen hynafol yn y DU ar gael i'r cyhoedd am y tro cyntaf mewn cyfieithiadau Saesneg.

Arysgrifau carreg a grëwyd gan drigolion dinas hynafol Athen a'r ardal o'i chwmpas, Attica, yw'r dogfennau ysgrifenedig mwyaf niferus i oroesi o ddinas sydd wedi gwneud argraff barhaol ar wareiddiad y Gorllewin.

Gan ddarparu tystiolaeth ymarferol o'r weriniaeth Orllewinol fawr gyntaf, ac yn aml wedi'u haddurno a cherflunwaith cerfwedd, mae rhai o'r arysgrifau'n datgelu manylion penderfyniadau a wnaed dros ddau fileniwm yn ôl gan Gynulliad dinasyddion Athen a chyrff eraill. Mae eraill yn ffynhonnell werthfawr o wybodaeth am fywydau pobl Athen hynafol, o gyfrifon a phrydlesi ariannol i gysegriadau i dduwiau a chofebion angladdol.

Mileniwm o hanes

Ymhlith yr arysgrifau mae stel enwog Jason sydd yn yr Amgueddfa Brydeinig. Mae'r gofeb o'r ail ganrif AD yn gyflwyniad i'r duw iachau Asklepios gan y meddyg, Jason, a'i deulu, gan ddangos meddyg yn archwilio claf pryderus.

Un arall yw gorchymyn difyr o'r ail ganrif CC o Gynulliad Athen yn Nhŷ Pentworth sy'n anrhydeddu rhestr hir o ferched Athen a helpodd i wehyddu'r peplos, dilledyn a daenwyd yn draddodiadol dros gerflun pren hynafol Athena ar yr acropolis.

Bydd Attic Inscriptions in UK collections, a gyllidir gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau, yn cyhoeddi'r 250 o arysgrifau o Athen ac Attica hynafol sydd yn y DU mewn cydweithrediad ag amgueddfeydd ar draws y DU. Caiff yr arysgrifau, sy'n rhychwantu bron i fileniwm o hanes o'r chweched ganrif CC i'r drydedd ganrif AD, eu cyhoeddi drwy fynediad agored ar y wefan Attic Inscriptions Online a grëwyd gan Dr Stephen Lambert o Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd Prifysgol Caerdydd.

Mae'r mwyafrif o arysgrifau Attig yn y DU i'w gweld yn yr Amgueddfa Brydeinig yn Llundain, ond ceir nifer o gasgliadau llai o faint, fel yn Amgueddfa Fitzwilliam yng Nghaergrawnt, Amgueddfa Ashmolean yn Rhydychen ac mewn nifer o dai gwledig, fel Pentworth, a bydd y rhain hefyd yn rhan o'r prosiect, ynghyd â'r rhai sydd yn yr Ysgol Brydeinig yn Athen.

Bydd y prosiect pedair blynedd gwerth £0.5m yn cynhyrchu deunyddiau newydd hefyd sydd wedi’u dylunio i wneud gwell defnydd o’r arysgrifau wrth addysgu ar lefel uwchradd, a hynny’n rhithwir a thrwy ymweld â’r casgliadau.

Dywedodd Dr Stephen Lambert, sy'n arwain y tîm prosiect yn y DU: “Ymddangosodd y golygiad mawr diwethaf o'r arysgrifau Attig yn yr Amgueddfa Brydeinig yn 1874...”

“Mae'n hen bryd cael cyhoeddiad newydd, modern a hygyrch o'r rhain ac arysgrifau Attig eraill yng nghasgliadau'r DU.”

“Ein bwriad yw eu cyhoeddi ar-lein mewn cyfres o 17 o bapurau, gyda phob un yn cynnwys casgliad unigol, neu yn achos yr Amgueddfa Brydeinig, categori o arysgrifau. Bydd y papurau'n seiliedig ar y llyfryddiaeth ysgolheigaidd ddiweddaraf, a ategir gan awtopsi newydd ar y cerrig ynghyd â ffotograffau, a byddant yn cynnwys testunau Groeg hynafol, cyfieithiadau a sylwebaeth ar bob arysgrif. Bydd y papurau ysgolheigaidd yn gysylltiedig â chyfeithiadau ar Attic Inscriptions Online, gyda nodiadau wedi'u hanelu at fyfyrwyr ysgol a phrifysgol ac ymwelwyr ag amgueddfeydd.”

Ychwanegodd Dr Polly Low a Dr Peter Liddel o Brifysgol Manceinion, sy'n cydweithio ar y prosiect: “Rydym ni'n falch iawn y bydd y prosiect nid yn unig o fudd i ysgolheigion yn fyd-eang, ond hefyd yn sicrhau bod darlun cyfareddol hwn o’r byd Clasurol yn fwy hygyrch a difyr i fyfyrwyr ysgol a Phrifysgol a'r cyhoedd yn ehangach wrth ymweld â'n hamgueddfeydd mawr yn y DU.”

Rhannu’r stori hon

Dysgwch am ein rhaglenni ymchwil ôl-raddedig.