Ewch i’r prif gynnwys

Bryngaer Gudd yn cysylltu pobl â'r gorffennol

14 Medi 2017

Staff and stakeholders around information sign
(Chwith–Dde) Yr Athro Colin Riordan, Cyn Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd, Mark Drakeford AS ar gyfer Gorllewin Caerdydd, Dr Dave Wyatt, Cyd-gyfarwyddwr Prosiect CAER a Dave Horton, Rheolwr Datblygu Cymunedol, Gweithredu yng Nghaerau a Threlái. Cafodd arwydd gwybodaeth Prosiect CAER ei greu ar y cyd gan academyddion Caerdydd a phobl leol, a chafodd ei ariannu gan Gyngor Caerdydd.

Mae prosiect cymunedol sylweddol newydd i drawsnewid maestref sy'n fywiog ond yn wynebu heriau economaidd yn ne Cymru wedi cael ei lansio'n swyddogol.

Mae prosiect Bryngaer Gudd CAER yn fenter a ariannwyd gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri (HLF) rhwng Gweithredu yng Nghaerau a Threlái a Phrifysgol Caerdydd.

Mae'r prosiect yn canolbwyntio ar fryngaer Caerau – un o henebion pwysicaf a hynaf Caerdydd – sydd â hanes rhyfeddol.

Drwy grant cyfnod datblygu Cronfa Dreftadaeth y Loteri, bydd y tîm yn gweithio ar amrywiaeth o gynigion er mwyn rhoi i'r gymuned well dealltwriaeth o'u treftadaeth a gorffennol diddorol yr ardal, yn ogystal â rhoi cyfle i bobl leol ddysgu sgiliau newydd, a meithrin hyder a chydlyniant cymunedol.

Hanes anhygoel

Mae'r cynlluniau yn cynnwys gweithio gyda thrigolion i droi neuadd efengylu nad yw’n cael ei defnyddio bellach yn ganolfan dreftadaeth yng ngofal y gymuned leol, gwella mynediad i’r fryngaer a llunio a gosod arwyddion a gwybodaeth newydd, fel bod pobl leol ac ymwelwyr yn gallu dysgu am hanes anhygoel yr ardal.

Dr Oliver Davis, CAER Heritage Project Co-director
Dr Oliver Davis, cyd-gyfarwyddwr Prosiect CAER

Cafodd dechrau'r prosiect un flwyddyn ei nodi gan Mark Drakeford AC, ar gyfer Caerau a Threlái, ac Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd, yr Athro Colin Riordan. Os yw'n llwyddiannus, bydd y prosiect un flwyddyn yn arwain at ragor o gyllid gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri ar gyfer prosiect dwy flynedd.

Dywedodd Dr Dave Wyatt, cyd-gyfarwyddwr Prosiect CAER: “Mae gwaith cloddi gan y gymuned wedi dangos bod bryngaer Caerau yn safle treftadaeth o arwyddocâd cenedlaethol, os nad rhyngwladol, ac eto nid oes dealltwriaeth dda ohono, ac mae’n dal yn anhysbys i raddau helaeth...”

“Mae posibilrwydd y gall y Prosiect Bryngaer Gudd newid hyn; gan agor y man anhygoel hwn i fyny i'r byd ehangach a harneisio grym treftadaeth er mwyn gwella cyfleoedd bywyd unigol pobl leol o bob oedran.”

Dr David Wyatt Reader in Early Medieval History
Crowd on CAER hillfort site

Dywedodd Dave Horton, Rheolwr Datblygu yn ACE: “Rydyn ni'n gyffrous dros ben bod Cronfa Dreftadaeth y Loteri wedi rhoi’r cyfle yma i ni.

“Os bydd yn llwyddiannus, mae’r prosiect llawn yn cynnig rhaglen o ymchwil gymunedol, cyflwyno’r heneb a datblygu seilwaith.

“Rydym yn edrych ymlaen at weithio mewn partneriaeth agos â Phrifysgol Caerdydd, ysgolion lleol, a sefydliadau treftadaeth i fanteisio ar alluoedd pobl leol er mwyn newid sut caiff treftadaeth bryngaer Caerau ei deall a'i gwerthfawrogi.”

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn lle i'r disgleiriaf a'r gorau i archwilio ac i rannu eu hangerdd dros astudio cymdeithasau'r gorffennol a chredoau crefyddol, o gyfnod cynhanes i'r presennol.