Ewch i’r prif gynnwys

Pobl sy’n hoff o wenyn yn rhannu syniadau ar draws y brifddinas

5 Hydref 2017

Bee keeping

Mae cynhadledd fyrlymus fydd yn fêl ar fysedd pawb sydd â diddordeb mewn creu dinas fwy werdd yn dechrau yng Nghaerdydd yr wythnos nesaf.

Mae Bee Well Cardiff (9 Hydref) yn dwyn ynghyd grwpiau cymunedol, elusennau, busnesau, academyddion, Cyngor y Ddinas, a Llywodraeth Cymru i greu llond cwch o weithgareddau er mwyn rhannu syniadau ar draws y brifddinas.

Ysgol Fferylliaeth Prifysgol Caerdydd sy’n cynnal y digwyddiad, wnaeth ennill gwobr gynaliadwyedd Guardian UK yn ddiweddar am ei phrosiect Pharmabees i greu prifysgol sy’n addas i wenyn.

Mae’r Athro Les Baillie yn arwain ymgais ymchwiliol Caerdydd i ddod o hyd i ateb Cymru i fêl therapiwtig Manwca, a gynhyrchir yn Seland Newydd. Nod ei dîm yw creu cynefin ledled y ddinas sydd o fudd i’r holl bryfed peillio trefol. Drwy blannu blodau gwyllt penodol, sydd â’u neithdar yn bresennol mewn mêl gwrthfacteria, ei obaith hefyd yw canfod ateb sy’n ymwneud â gwenyn, i ymwrthedd gwrthficrobaidd.

Yn ôl yr Athro Baillie: "Bee Well Cardiff yw ein digwyddiad cyntaf sy’n cael ei gynnal ledled y ddinas. Fel sy'n gweddu i brifddinas, mae hi’n llawn o bobl egnïol yn chwarae rhan i greu lle gwyrdd a dymunol i fyw. Mae gweithgareddau yn amrywio o brosiectau dan arweiniad y gymuned leol, i weithredu ledled y ddinas sy'n canolbwyntio ar gynyddu bioamrywiaeth a nifer y pryfed peillio..."

"Rydym o’r farn os y byddwn, fel y wenynen fêl, yn gweithio ar y cyd tuag at weledigaeth gyffredin, y gallem gyflawni pethau mawr. Bee Well Cardiff yw ein cam cyntaf tuag at y nod hirdymor hwn."

Yr Athro Les Baillie Professor of Microbiology

Mae Lesley Griffiths, Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru ar gyfer yr Amgylchedd a Materion Gwledig, yn cefnogi’r digwyddiad hwn.

Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i gael cynllun gweithredu ar gyfer pryfed peillio i leihau a gwrthdroi'r dirywiad yn eu niferoedd. Yn ogystal, dathlodd cynllun Caru Gwenyn Llywodraeth Cymru - menter genedlaethol â’r nod o annog mwy o bobl i helpu pryfed peillio - ei ben-blwydd cyntaf yn ddiweddar.

Yn ôl Lesley Griffiths: "Mae Prifysgol Caerdydd yn cynnal gwaith trawiadol iawn ar ei phrosiect Pharmabees. Mae'n siarad â sefydliadau ar draws y ddinas ac yn dangos yr hyn y gellir ei wneud wrth gychwyn ag ychydig o gychod gwenyn ar do ei adeilad fferylliaeth...”

"Mae'n wych gweld angerdd a brwdfrydedd pawb sy'n ymwneud â byd gwenyn ledled Caerdydd."

Lesley Griffiths Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Llywodraeth Cymru

Mae Bee Well Cardiff wedi gwahodd ystod o siaradwyr i gynrychioli amrywiaeth y gwaith sydd ar y gweill ar hyn o bryd. Serch hynny, mae'r trefnwyr hefyd am weld grwpiau cymunedol bach yn cymryd rhan drwy ymuno â hwy, a defnyddio egni’r diwrnod i greu gwaith yn y dyfodol.

“Byddwn yn creu lle i alluogi sefydliadau a grwpiau i osod stondinau, er mwyn darparu pwynt cyswllt ar gyfer partïon sydd â diddordeb,” ychwanegodd yr Athro Baillie.

“Yn y prynhawn, wedyn, ein bwriad yw cynnal gweithdai sy’n cwmpasu themâu penodol, fel bod pobl yn gallu rhannu eu barn a’u safbwyntiau.”

Mae Bee Well Cardiff yn cael ei gynnal ar 9 Hydref rhwng 09:00 a 16:00 yn adeilad Morgannwg, Prifysgol Caerdydd, Parc Cathays, Caerdydd.

Dysgwch ragor am y ‘ddinas groesawgar i wenyn’.

Rhannu’r stori hon

Yr Ysgol yw un o ysgolion fferylliaeth gorau'r DU ac mae gennym enw da yn rhyngwladol am ansawdd ein hymchwil.