Ewch i’r prif gynnwys

Oes gan wenyn acenion rhanbarthol?

15 Gorffennaf 2016

Disgyblion o Ysgol Gynradd Llanishen Fach
Disgyblion o Ysgol Gynradd Llanishen Fach yng Nghaerdydd yn dysgu mwy am brosiectau gwenyn Prifysgol Caerdydd mewn partneriaeth â Julian Rees, Rheolwr Prosiect gyda Pollen8 Cymru.

Mae tîm o Brifysgol Caerdydd yn gobeithio darganfod a oes gan wenyn yng Nghymru acenion rhanbarthol.

Mae'r gwyddonwyr yn ceisio cael gafael ar synau wedi'u recordio o gychod gwenyn haf gan oddeutu o 3,235 o wenynwyr, o Gaergybi i Gas-gwent.

Drwy gasglu lluniau a delweddau fideo o wenyn ger planhigion, mae ymchwilwyr o'r Ysgol Fferylliaeth yn gobeithio cael gwybod pa fathau o lystyfiant sy'n rhoi'r ffynhonnell orau o neithdar ar gyfer cynhyrchu mêl yn y cwch gwenyn.

Mae'r Ysgol wrthi'n gosod system monitro o bell mewn cwch gwenyn ar do adeilad fferylliaeth Prifysgol Caerdydd.

Bydd y ddyfais yn galluogi'r fferyllwyr i wrando ar synau gwenyn yr Ysgol a chofnodi ffactorau megis tymheredd a lleithder.

Llanishen Fach Primary School
Seeing science in action with a pupil from Llanishen Fach Primary School

Dywedodd Les Baillie sy'n Athro Microbioleg: "Credir y gallai iechyd y gwenyn, a'i bwriad i heidio ai peidio, ddylanwadu ar y sŵn sy'n cael ei greu mewn cwch gwenyn.

"Fel cam cyntaf, rydym yn gobeithio y bydd gwenynwyr ledled Cymru yn anfon ffeiliau sain, fideos a lluniau o wenyn o amgylch eu cychod er mwyn i ni allu creu darlun o'r haf - sŵn suo gwenyn, traffig ac ati.

"Yn y pen draw, gallai cofnodi'r gwahaniaethau hyn ein helpu wrth geisio darganfod pa blanhigion sy'n helpu gwenyn fwyaf. Bydd casglu ffeiliau sain, fideos a lluniau yn ein helpu i ddeall lle mae'r bylchau. Bydd hyn hefyd o gymorth er mwyn rhoi planhigion yn y mannau cywir i wneud gwenyn yn fwy cynhyrchiol."

Os bydd digon o wenynwyr yn ymateb, ac mae gwahaniaethau cychwynnol yn dod i'r amlwg i'r ymchwilwyr, gallai'r prosiect gael ei gyflwyno'n ehangach a chynnwys dros 40,000 o wenynwyr ledled y DU.

Dywedodd Dr James Blaxland, sydd wedi ymchwilio i effaith gwrthfacterol mêl Manuka ar heintiau: "Rydym wedi ceisio gwneud yn siŵr bod campws y Brifysgol mor addas â phosibl i wenyn, yn ogystal â chynhyrchu ein mêl ein hunain. Felly, bydd mapio gwenyn ledled Cymru yn rhoi darlun ehangach i ni o sut mae gwenyn yn byw."

Mae'r tîm yn gofyn i wenynwyr a'r cyhoedd yng Nghymru anfon lluniau i wefan gwyddoniaeth yr Ysgol: http://spotabee.buzz/ a dylai ffeiliau sain gael eu hanfon at BaillieL@caerdydd.ac.uk

Mae'r prosiect yn rhan o Haf Arloesedd Prifysgol Caerdydd sy'n arddangos prosiectau arloesedd gorau Prifysgol Caerdydd.

Rhannu’r stori hon