Ewch i’r prif gynnwys

Cysylltiadau rhwng amddifadedd ac anafiadau o ganlyniad i drais

18 Medi 2017

Worried looking young woman

Mae merched yn eu harddegau o ardaloedd difreintiedig yn wynebu risg uwch o drais rhyngbersonol na merched o ardaloedd mwy cefnog am eu bod yn teimlo nad yw eu rhieni'n ymddiried ynddynt, yn ôl astudiaeth gan Brifysgol Caerdydd.

Yn ôl prif awdur yr astudiaeth a Chyfarwyddwr y Grŵp Ymchwilio i Drais ym Mhrifysgol Caerdydd, yr Athro Jonathan Shepherd: “Gwelsom fod amddifadedd yn gwneud merched yn eu harddegau chwe gwaith yn fwy tebygol o gael anafiadau o ganlyniad i drais na merched mewn ardaloedd cefnog. Yn ein hastudiaeth newydd, roeddem am ddeall rhai o'r rhesymau am y risg uwch hon...”

“Mae ein hymchwil yn awgrymu bod merched sy'n mynd i ysgolion mewn ardaloedd mwy difreintiedig yn dueddol o ystyried eu rhieni'n llym ac yn ddiymddiried, sy'n golygu bod y merched yn hyn llai gonest gyda'u rhieni o ran eu gweithgareddau, ac o ganlyniad, yn fwy tebygol o fod mewn sefyllfa lle gallent ddioddef trais.”

Yr Athro Jonathan Shepherd Athro Emeritws mewn Llawfeddygaeth y Geg, y Genau a'r Wyneb

“Gwelsom hefyd fod diffyg mynediad i weithgareddau a chyfleusterau hamdden yn chwarae rhan allweddol, sy'n arwain at ferched mewn ardaloedd difreintiedig yn treulio llai o'u hamser dan oruchwyliaeth eraill, ac yn eu gwneud yn fwy tebygol o yfed alcohol heb i'w rhieni wybod.”

Lefel amddifadedd

Cynhaliodd yr ymchwilwyr gyfweliadau â merched rhwng 14 a 16 oed o ysgolion uwchradd yn ne Cymru mewn grwpiau ffocws. Cafodd yr ysgolion eu recriwtio ar sail lefel amddifadedd yr ardal.

Dangosodd y cyfweliadau hefyd fod merched o ardaloedd cefnog fel arfer yn cael alcohol gan eu rhieni, a'u bod yn gallu rheoli'r math, cryfder a faint o alcohol, tra bod merched o ardaloedd difreintiedig yn cael alcohol o amrywiaeth o ffynonellau, ac yn aml yn eu prynu eu hunain, a fyddai'n rhoi mynediad at amrywiaeth fwy eang o ddiodydd alcoholig i'w hyfed mewn amgylchedd heb oruchwyliaeth.

Dywedodd yr Athro Shepherd: “Mae meddwi ar alcohol wedi'i nodi fel ffactor risg sylweddol ar gyfer cael anaf o ganlyniad i drais, felly nid yw'n syndod bod risg uwch i ferched yn eu harddegau nad yw eu rhieni'n rheoli faint o alcohol maent yn ei ddefnyddio.”

Yn fyd-eang, trais rhyngbersonol oedd y pumed ffactor mwyaf cyffredin sy'n achosi marwolaeth ac anableddau ymhlith pobl ifanc rhwng 15 a 29 oed yn 2012. Yng Nghymru a Lloegr, amcangyfrifir bod tua 22,957 o blant a phobl ifanc wedi mynd i adrannau brys yn 2016 i gael triniaeth feddygol ar gyfer anaf o ganlyniad i drais.

Mae'r ymchwil ‘Links between deprivation and risk of violence-related injury: a qualitative study to identify potential causal mechanisms’ wedi'i chyhoeddi yn Journal of Public Health.

Rhannu’r stori hon

We are looking for people with certain skills and experience to help with this and other projects.