Ewch i’r prif gynnwys

Ymweld â mamau mewn carchar

7 Medi 2017

Young girl hugs mother's leg

Mae cynllun sy'n helpu plant o Gymru i ymweld â'u mamau mewn carchar yn lleihau gorbryder ymhlith carcharorion benywaidd ac yn cynyddu faint o gyswllt maent yn ei gael â'u teulu.

Mae astudiaeth ddiweddar a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Caerdydd wedi archwilio i effaith cynllun Ymweld â Mam sy'n helpu plant o Gymru i ymweld â'u mamau mewn carchar.

Nid oes unrhyw garchardai i fenywod yn unig yng Nghymru, felly mae menywod o dde Cymru yn cael eu carcharu yn CEM Eastwood Park, Caerloyw. Mae'r pellter uwch hwn rhwng y fam a'r plentyn, a'r costau a phwysau amser cysylltiedig i ofalwyr, yn gallu arwain at lai o ymweliadau gan blant.

Mae cynllun Ymweld â Mam, gan yr Ymddiriedolaeth Cyngor a Gofal Carchardai (Pact) mewn partneriaeth â Sova, yn defnyddio gwirfoddolwyr sy'n gweithio gyda theuluoedd unigol i baratoi gofalwyr a phlant i ymweld ag Eastwood Park, ac yn cludo plant a'u gofalwyr i'r carchar.

Mae Ymweld â Mam yn cynnig cyfleoedd i gael ymweliad preifat mewn man priodol, a rheolau ymweld llai llym i alluogi mamau i ryngweithio â'u plant a chael ymweliad gwell.

Wella iechyd meddwl ac iechyd corfforol plant

Canfuwyd bod y cynllun, sydd wedi gweithio gyda 97 o famau a 164 o blant, yn gwella iechyd meddwl ac iechyd corfforol y plant, yn lleihau eu pryderon, ac yn eu helpu i deimlo'n llai ofnus mewn amgylchedd y carchar.

Canfu Dr Alyson Rees, Dr Eleanor Staples a Dr Nina Maxwell o Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Caerdydd fod mamau sy'n defnyddio'r cynllun wedi sôn am welliant o ran eu hiechyd meddwl, llai o bryderu, a llai o hunan-niwed.

Casglwyd data gan ddefnyddio sgyrsiau a sesiynau grŵp; cyfweliadau â mamau yn ystod eu hamser yn CEM Eastwood Park ac ar ôl cael eu rhyddhau; cyfweliadau â gofalwyr a gwirfoddolwyr y cynllun; a sgyrsiau â phlant. Defnyddiodd y plant flychau tywod a theganau i gynrychioli eu profiad o fynd i weld eu mam yn y carchar.

Nid ydym yn gwybod yn union faint o blant a effeithiwyd gan garcharu mamau, ond yn ôl amcangyfrif gan yr Ymddiriedolaeth Diwygio Carchardai yn 2015, roedd gan 66% o fenywod mewn carchar blant dan 18 oed oedd yn ddibynnol arnynt, ac roedd o leiaf 20% ohonynt yn rhieni unigol cyn mynd i'r ddalfa.

Yn 2010, amcangyfrifwyd bod mwy na 17,240 o blant wedi cael eu gwahanu o'u mamau ar ôl iddynt gael eu carcharu, ac mai dim ond 9% o'r plant hynny gafodd gofal gan eu tadau yn y cyfnod hwn.

“Wrth sôn am yr astudiaeth, dywedodd Dr Alyson Rees: “Canfuom fod cynllun Ymweld â Mam yn wasanaeth hanfodol sy'n cael ei werthfawrogi'n fawr gan blant, mamau a gofalwyr...”

“Rydym yn gobeithio y bydd y dystiolaeth a gasglwyd yn ystod ein hastudiaeth yn denu rhagor o gyllid ar gyfer y gwasanaeth ac yn sicrhau y bydd plant yng Nghymru yn parhau i gael y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt.”

Yr Athro Alyson Rees First and Second Year Tutor on Diploma and MA in Social work

Roedd y prosiect yn bosibl o ganlyniad i grant gwerth £522,149 gan Raglen Arloesedd Fawr Cronfa Dreftadaeth y Loteri.

Bydd yr astudiaeth yn cael ei lansio ym Mhrifysgol Caerdydd ddydd Iau 7 Medi. I gael rhagor o wybodaeth ac i gofrestru, cysylltwch â cascade@caerdydd.ac.uk.

Rhannu’r stori hon

Darllenwch ein hastudiaethau achos am effaith ein hymchwil, o atal arddegwyr i ysmygu, i adennill y buddion o drosedd