Ewch i’r prif gynnwys

Prosiect £1.1m i wella gwasanaethau cwmwl

13 Medi 2017

CS manufacturing

Mae'r Ganolfan Lled-ddargludyddion Cyfansawdd wedi cyhoeddi prosiect gwerth £1.1m i ddatblygu platfform cyflym iawn ar gyfer systemau cyfathrebu'r 21ain ganrif.

Mae'r Ganolfan, sy'n fenter ar y cyd rhwng Prifysgol Caerdydd ac IQE plc, wedi cael y prosiect ymchwil a datblygiad cydweithredol drwy alwad technolegau newydd a thechnolegau galluogi Innovate UK.

Bydd prosiect SUPER8 yn datblygu platfform trosdderbynyddion newydd sy'n eithriadol o gyflym, ar gyfer systemau cyfathrebu data optegol mewn canolfannau cwmwl ar raddfa enfawr. Mae'r trosdderbynyddion yn cyfuno trosglwyddydd a derbynnydd mewn un pecyn electronig, ac yn cael eu defnyddio ar draws dyfeisiau cyfathrebu di-wifr fel ffonau symudol, ffonau heb gordyn, a radios dwyffordd.

Bydd y Ganolfan yn cydweithio mewn consortiwm i droi'r wybodaeth wyddonol yn broses gweithgynhyrchu helaeth ymhen 30 mis. Y partneriaid eraill yn y prosiect yw Compound Semiconductor Technologies Ltd (CST) o Glasgow, a chanolfan weithgynhyrchu cwmni KAIAM Corporation yn y DU, sydd â'i bencadlys yng Nghaliffornia.

Dywedodd Arweinydd y Prosiect, Dr Wyn Meredith: "Mae gwasanaethau cwmwl, fideo ar alwad a gwasanaethau 'Rhyngrwyd Pethau' newydd yn ysgogi cynnydd enfawr yn y galw am led band data ledled y byd..."

"Mae'r DU eisoes yn chwarae rhan fawr o ran cyflenwi deunydd ac ategolion lled-ddargludyddol cyfansawdd perfformiad uchel sy'n sail i gyfathrebu byd-eang. Fodd bynnag, bydd angen cyfradd trosglwyddo uwch a throsderbynyddion rhatach ar y rhwydweithiau cenhedlaeth-newydd uchel eu capasiti."

Dr Wyn Meredith Cyfarwyddwr, Y Ganolfan Led-ddargludyddion Cyfansawdd

"Bydd y prosiect hwn yn datblygu ac yn cynhyrchu ateb i'r DU gyfan, gan ddefnyddio deunyddiau lled-ddargludyddol cyfansawdd o'r radd flaenaf ac arbenigedd ynglŷn â dyfeisiau yn y Ganolfan a CST gyda thechnoleg cylchred integredig ffotonig hynod arloesol KAIAM."

Sefydlwyd y Ganolfan yn 2015 gyda'r nod o gyflymu'r broses o fasnacheiddio ymchwil i ddeunyddiau a dyfeisiau lled-ddargludyddol cyfansawdd. Mae wedi'i lleoli yng Nghaerdydd ac mae'n rhan hanfodol o'r broses o ddatblygu clwstwr lled-ddargludyddion rhagorol yn ne Cymru.