Ewch i’r prif gynnwys

Lisa Sheppard yn ennill Gwobr Gwerddon

10 Awst 2017

Dr Lisa Sheppard o Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd yw enillydd Gwobr Gwerddon eleni.

Dyfernir Gwobr Gwerddon bob yn ail flwyddyn i awdur yr erthygl orau a gyhoeddwyd yn Gwerddon (cyfnodolyn amlddisgyblaethol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol) yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf.

Eleni, erthygl Lisa – Troi Dalen “Arall”: Ail-ddehongli’r berthynas rhwng cymunedau Cymraeg a Saesneg de Cymru mewn dwy nofel ddiweddar yng ngoleuni ffigwr yr “arall” – a ddaeth i’r brig.

Dywedodd Lisa, sy’n ddarlithydd yn Ysgol y Gymraeg: “Roedd yn fraint clywed bod Gwobr Gwerddon wedi ei dyfarnu i mi, a hynny’n hollol annisgwyl. Hoffwn ddiolch yn fawr i dîm golygyddol Gwerddon am eu cefnogaeth, ac i Dr Huw Williams, Prifysgol Caerdydd, am fy ngwahodd i gyfrannu at y rhifyn arbennig a phwysig ar bwnc ‘Perthnasau Athronyddol’. Mae’r erthygl yn trafod sut y mae nofelau Cymreig cyfoes (Y Tiwniwr Piano gan Catrin Dafydd a The Book of Idiots gan Christopher Meredith) yn portreadu siaradwyr Cymraeg a Saesneg Cymru, fel ei gilydd, yn nhermau ‘yr arall’, fel pobl ddieithr neu wahanol.

“Yn yr oes sydd ohoni, gyda phrosesau fel ‘Brexit’ yn eu hanterth, mae’n bwysig inni ddeall sut y mae’r delweddau a welwn o’n cwmpas yn darlunio rhai grwpiau cymdeithasol fel ‘yr arall’ hefyd, fel rhywrai sydd y tu allan i’r norm cenedlaethol, a sut mae presenoldeb iaith leiafrifol gynhenid fel y Gymraeg yn effeithio ar y prosesau hyn.

“Rhaid diolch i Gwerddon felly am y cyfle i drafod materion o bwys fel hyn trwy gyfrwng y Gymraeg, a meddwl am sut y gall ein profiadau dwyieithog yn y Gymru gyfoes ein helpu i ailddiffinio ein perthynas â grwpiau lleiafrifol neu ymylol eraill yng Nghymru a Phrydain”

Dywedodd golygydd Gwerddon, Dr Anwen Jones: “Rydyn ni’n llongyfarch Lisa yn wresog ar ennill y wobr eleni. Gwobrwywyd yr erthygl hon, o blith nifer o erthyglau arbennig o dda ar sail grym y ddadl, ac ansawdd y dystiolaeth ysgolheigaidd a gyflwynwyd. Mae hi hefyd o ddiddordeb i bobl y tu allan i faes penodol llenyddiaeth ac athroniaeth. Trwy gyfuno’r nodweddion hyn mae’r erthygl yn enghraifft loyw o fwriad Gwerddon.”

Ychwanegodd Anwen: “Diolch i Lisa ac i’r holl awduron eraill sydd wedi cyhoeddi yn Gwerddon dros y ddwy flynedd ddiwethaf ac sydd yn parhau i gyflwyno eu gwaith. Rydym yn awyddus iawn i dderbyn gwaith ysgolheigaidd gwreiddiol a diddorol o bob maes ymchwil.

“Rydym hefyd yn ddiolchgar iawn i Gymdeithas Ddysgedig Cymru am noddi’r wobr yma eto eleni.”

Meddai Dr Dylan Foster Evans, Pennaeth Ysgol y Gymraeg: “Hoffwn longyfarch Lisa ar yr anrhydedd arbennig hon ac ar y sylw haeddiannol y mae ei hymchwil arloesol yn ei gael. Mae ei gwaith yn taflu goleuni newydd ar ddwyieithrwydd, amlddiwylliannedd a hunaniaeth yn y Gymru fodern. Dyma feysydd arwyddocaol sy’n ein helpu ni i ddeall y profiad Cymreig heddiw ac ystyried sut y gallwn siapio profiadau cymunedau’r dyfodol.”

Mae gwaith Lisa yn enghraifft o’r modd y mae Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd yn ymdrin â datblygiad iaith, cymdeithas a hunaniaeth yn y Gymru gyfoes drwy gyfrwng ymchwil ac addysg o’r safon uchaf.

Mae’r Ysgol yn cynnig amrywiaeth o raglenni gradd sydd o’r ansawdd academaidd uchaf ac sydd hefyd yn berthnasol i’r Gymru gyfoes.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol wedi ymrwymo i ddatblygu iaith, cymdeithas a hunaniaeth Cymru gyfoes drwy addysg ac ymchwil o'r safon uchaf.