Ewch i’r prif gynnwys

CUBRIS ar restr fer Medal Aur yr Eisteddfod Genedlaethol

7 Gorffennaf 2017

Adeilad newydd CUBRIC
Adeilad newydd CUBRIC ar Heol Maendy, Caerdydd

Mae Canolfan Ymchwil Delweddu'r Ymennydd Prifysgol Caerdydd (CUBRIC) yn un o bedwar prosiect ar y rhestr fer ar gyfer Medal Aur Pensaernïaeth yr Eisteddfod Genedlaethol.

Mae’r wobr yn cydnabod pwysigrwydd pensaernïaeth yn niwylliant y genedl ac mae’n dathlu’r safonau uchaf o ddylunio pensaernïol yn y wlad.

Cafodd y pedwar adeilad ar y rhestr fer eu datgelu mewn derbyniad gan Eisteddfod Genedlaethol Cymru gyda chefnogaeth Comisiwn Dylunio Cymru a Chymdeithas Frenhinol y Penseiri. Mae’r pedwar adeilad o dan sylw mewn mannau ledled Cymru.

Yn dilyn trafodaethau pellach dros y mis nesaf, dim ond un o’r adeiladau ar y rhestr fer fydd yn derbyn y Fedal Aur ar 5 Awst 2017 yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn Ynys Môn.

Grŵp IBI byd-eang a ddyluniodd CUBRIC, ac mae eisoes wedi ennill llu o wobrau gan gynnwys ‘Prosiect y Flwyddyn’ a ‘Dylunio drwy Arloesedd’ yng Ngwobrau RICS 2017. Enillodd hefyd wobr ar gyfer adeiladau gwyddoniaeth o bwys yng Ngwobrau S-Lab 2017.

Mae CUBRIC yn cynnwys cyfleusterau sganio MRI pwerus, cyfarpar ysgogi'r ymennydd, labordai cwsg, swyddfeydd modern, a mannau ymgynnull.

Agorodd y Frenhines y cyfleuster £44m yn swyddogol yn 2016.

Rhannu’r stori hon

Our brain scanning facilities are located in the Cardiff University Brain Research Imaging Centre (CUBRIC).