Ewch i’r prif gynnwys

'Prosiect y Flwyddyn' Cymru

28 Ebrill 2017

Adeilad newydd CUBRIC
Adeilad newydd CUBRIC ar Heol Maendy, Caerdydd

Mae Canolfan Ymchwil Delweddu'r Ymennydd Prifysgol Caerdydd (CUBRIC) wedi ennill gwobr Prosiect y Flwyddyn yng Ngwobrau RICS 2017, a gynhaliwyd neithiwr.

Cyflwynir gwobr Prosiect y Flwyddyn i'r prosiect sy'n cael ei ystyried yn enghraifft ardderchog o arfer gorau gan weithwyr proffesiynol sy'n gweithio mewn amgylcheddau adeiledig a naturiol.

The Queen arrives at CUBRIC
A Royal opening for CUBRIC in 2016

Enillodd CUBRIC y wobr Dylunio trwy Arloesedd hefyd yn y digwyddiad a gynhaliwyd yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro. Agorwyd y ganolfan £44m yn swyddogol gan EM y Frenhines yn 2016, ac mae'r unig gyfleuster o'i fath yn Ewrop.

Mae'r ganolfan ar flaen y gad ym meysydd fel seicoleg, seiciatreg a niwrowyddoniaeth a chafodd ei hadeiladu ar ran Prifysgol Caerdydd gan CAPITA, IBI Group a BAM Construction Ltd.

Julie James AM, Professor Derek Jones and Professor Krish Singh with MRI scanner

Ymwelodd y Gweinidog Gwyddoniaeth a Sgiliau â'r ganolfan yn ddiweddar sy'n cynnwys offer ysgogi'r ymennydd, labordai cwsg, cyfleusterau treialu cyffuriau, swyddfeydd modern, lleoedd i grwpiau a llu o gyfleusterau sganio MRI. Mae un o'r cyfleusterau hyn mor bwerus fel ei fod wedi'i gymharu â Thelesgop Hubble y Gofod.

Bydd CUBRIC yn cystadlu yn erbyn enillwyr rhanbarthol eraill i geisio cipio gwobr genedlaethol y DU yn y categorïau perthnasol yn Rownd Derfynol Genedlaethol RICS 2017 yn Llundain ar 2 Tachwedd.

Rhannu’r stori hon

Our brain scanning facilities are located in the Cardiff University Brain Research Imaging Centre (CUBRIC).