Y Rhwydwaith Arloesedd
Rydym wedi cyflwyno cannoedd o gwmnïau i’n harbenigedd, gwybodaeth a chyfleusterau drwy ein Rhwydwaith Arloesedd.
Rydym yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau am ddim drwy gydol y flwyddyn, sy'n cwmpasu pynciau ar arloesedd, menter ac entrepreneuriaeth. Mae'r digwyddiadau hyn yn cynnig cyfle gwych i gysylltu gyda’n harbenigedd a gyda phobl busnes lleol, ac i glywed siaradwyr ysbrydoledig, fydd yn gwneud i chi feddwl.
I gael y newyddion diweddaraf ynghylch cyfleoedd am gyllid sy’n gysylltiedig ac arweiniad cefnogi busnes, ymaelodwch â ni a dewis cael eich ychwanegu at ein rhestr ebostio.

Mae gennym tua 1,800 o aelodau sy'n cynnwys pobl fusnes o amrywiaeth eang o ddiwydiannau, cwmnïau a sefydliadau yn ogystal ag academyddion. Mae tua 70% o'n haelodau yn fentrau bach a chanolig lleol. Mae’r gweddill yn dod o sefydliadau cefnogi busnes a'r byd academaidd.
Bod yn fentor
Mae rhai aelodau’n dod i bob digwyddiad, tra bod eraill yn dod unwaith y flwyddyn yn unig. Daw rhai ohonynt i rwydweithio yn bennaf; ac eraill i glywed siaradwyr neu bynciau penodol.
Mae aelodaeth, yn ogystal â phresenoldeb yn ein digwyddiadau, yn gwbl rhad ac am ddim.
Dyma’r fforwm rhwydweithio a syniadau gorau i mi ei fynychu erioed. Bu i’r siaradwr gwadd roi’r wybodaeth i mi o lygad y ffynnon ar greu diwylliant arloesi ac ar droi syniadau’n weithredoedd. Roedd y cysylltiadau o’r un anian â mi yr un mor werthfawr. Fe wnaethon ni daflu syniadau oddi ar ein gilydd.
Digwyddiadau rhwydweithio am ddim i bobl fusnes, academyddion a'r rheini sy'n gweithio ar gyfer sefydliadau cefnogi busnes, megis cynghorau lleol neu Lywodraeth Cymru.