Ewch i’r prif gynnwys

Trin TB sy’n gallu gwrthsefyll gwrthfiotigau

23 Mehefin 2017

Bacterial TB

Gallai gwrthfiotig sydd newydd ei ddarganfod drin rhai achosion o dwbercwlosis (TB). Caiff y gwrthfiotig hwn ei gynhyrchu gan facteria mewn cleifion sydd â ffibrosis systig. Tîm o wyddonwyr o Ysgol Biowyddorau Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Warwick sydd wedi darganfod hyn.

Gŵyr pawb am y problemau sy'n ymwneud â heintiau sy'n gallu gwrthsefyll gwrthfiotegau, ac yn ôl pob sôn, erbyn 2040, bydd mwy na thraean o holl achosion TB yn Rwsia, er enghraifft, yn gallu gwrthsefyll y cyffuriau sy'n cael eu defnyddio ar hyn o bryd i frwydro yn erbyn y clefyd. Wrth i bathogenau ddatblygu a gwrthsefyll y meddyginiaethau hyn (a oedd arfer bod yn ddibynadwy i'w defnyddio), mae angen chwilio am gyffuriau newydd ar frys.

Ymysg y cyffuriau newydd posibl, y mae bacteria o'r enw Burkholderia, sef bacteria sy'n ffynnu mewn amrywiaeth o gynefinoedd naturiol er ei fod weithiau yn achos heintiau fel y rhai a welir yn ysgyfaint y bobl sydd â ffibrosis systig. Mae'r microbau hyn wedi addasu i'r amgylcheddau amrywiol hyn, yn rhannol drwy gynhyrchu gwrthfiotigau nerthol i gael gwared ar yr hyn sy'n cystadlu yn eu herbyn.

Yn wyneb y bygythiad cynyddol o bathogenau sy'n gallu gwrthsefyll cyffuriau, dechreuodd tîm dan arweiniad yr Athro Gregory L. Challis o Brifysgol Warwick a'r Athro Eshwar Mahenthiralingam o Brifysgol Caerdydd wneud gwaith ymchwil. Nod y tîm oedd penderfynu a fyddai modd i Burkholderia gynhyrchu gwrthfiotigau a allai drin clefydau fel TB, sy'n gallu gwrthsefyll cyffuriau. Cawsant gymorth gan yr Athro Julian Parkhill (Sefydliad Sanger Ymddiriedolaeth Wellcome, Caergrawnt, DU) a'r Athro Stewart Cole (Sefydliad Iechyd Byd-eang, École Polytechnique Fédérale de Lausanne, Lausanne, y Swistir). Bu iddynt helpu gyda dilyniannau DNA y gwrthfiotigau sy'n cynhyrchu bacteriwm a phrofi'r twbercwlosis.

"Drin clefydau heintus byd-eang"

Bu i'r tîm ddarganfod fod un rhywogaeth yn benodol, Burkholderia gladioli, a oedd ym mhoer plentyn sydd â ffibrosis systig, yn cynhyrchu gwrthfiotig newydd, a alwyd ganddynt yn 'gladiolin.' Mae'r cyfansoddyn hwn, yn debyg o ran ei strwythur i wrthfiotig a ymchwiliwyd oherwydd ei fod yn gallu rhwystro celloedd bacteriol rhag gweithio. Ond mae gladiolin yn fwy sefydlog, ac felly'n fwy tebygol o allu bod yn gyffur. Bu i brofion pellach yn y labordy hefyd ddangos bod y cyffur hwn yn rhwystro twf pedair elfen arall o TB sy'n gallu gwrthsefyll gwrthfiotigau.

Dywedodd yr Athro Mahenthiralingam wrth sôn am y darganfyddiad hwn: "Mae'r gwaith hwn yn datblygu ein gwaith ymchwil ar facteria Burkholderia fel ffynhonnell newydd o wrthfiotigau. Mae wedi dangos bod modd i Burkholderia gladioli, a ymchwiliwyd yn y gorffennol fel heintiau yn ysgyfaint y bobl sydd â ffibrosis systig, hefyd gynhyrchu cyffuriau nerthol. Gallai'r cyffuriau hyn gael eu defnyddio i drin clefydau heintus byd-eang fel TB sy'n gallu gwrthsefyll gwrthfiotigau.

"Ar ôl darganfod hyn, byddwn nawr yn ystyried a ellir defnyddio gladiolin fel cyffur posibl i'r clinig yn y dyfodol."

Yr Athro Eshwar Mahenthiralingam Professor

"Mae'n bosibl y gall y broses hon o wneud profion clinigol gymryd dros degawd, felly mae'n hanfodol ein bod ni'n cadw sgrinio ffynonellau fel Burkholderia ar gyfer gwrthfiotigau eraill. Rydym yn gobeithio y bydd cyllid ar gyfer gwneud gwaith ymchwil pellach ar gael i wneud hyn."

Ariannwyd y gwaith ymchwil gan y Cyngor Ymchwil Biodechnoleg a’r Gwyddorau Biolegol (DU), Cronfa Bontio Gwyddorau Bywyd Cymru a Chymrodoriaeth Marie Sklodowska-Curie Actions. Cyhoeddir y gwaith yng nghyfnodolyn Cymdeithas Gemegol America.

Rhannu’r stori hon

Mae gan ein hymchwil effaith wirioneddol mewn llawer o feysydd, yn cynnwys strategaethau cadwraeth a rheoli afonydd.