Prawf gwaed newydd i ganser
11 Mai 2017
Mae'n bosibl y byddwn yn gallu rhagweld canlyniadau cleifion sydd â dau fath o ganser y gwaed drwy ddefnyddio technoleg sy'n gallu darganfod hyd strwythurau DNA bach mewn celloedd canser. Gall y prawf, wrth ei ddefnyddio ar y cyd â dulliau profi presennol, helpu meddygon i wneud dewisiadau gwell ynghylch pa driniaeth sydd fwyaf addas ac effeithiol i gleifion unigol.
Dangosodd ymchwilwyr o Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd bod mesur rhannau o DNA (a elwir yn telomerau) yn ffordd gywir dros ben o fesur sut y bydd clefyd yn datblygu mewn cleifion sydd â chanser ym mêr yr esgyrn (myeloma) a syndromau cyn-lewcemia myelodysplastig (MDS). Dyma glefyd ym mêr yr esgyrn sy'n aml yn arwain at fethiant mêr yr esgyrn a lewcemia myeloid acíwt (AML) hyd yn oed.
Cyhoeddir canlyniadau dwy astudiaeth, a ariannwyd gan elusennau Bloodwise ac Ymchwil Canser y DU, yng nghyfnodolyn British Journal of Haematology.
Bu i'r tîm o Gaerdydd ddadansoddi samplau gan 134 claf sydd â myeloma, 80 claf sydd â MDS, a 95 claf sydd ag AML. Diben hyn oedd gweld a yw hyd y telomer yn dylanwadu ar oroesiad y celloedd hyn sydd â chanser.
Fel darnau bach o blastig ar gareiau esgid
Darnau amddiffynnol o DNA yw telomerau sy'n capio pen y cromosomau. Maen nhw'n ymddwyn fel darnau bach o blastig ar gareiau esgid, sy'n atal cynffonau'r cromosomau rhag treulio a glynu at ei gilydd. Bob tro mae'r celloedd yn rhannu, mae'r telomerau yn mynd yn llai yn raddol, ac yn y diwedd byddant yn diflannu ac yn gadael cynffonau'r cromosomau yn agored. Mae hyn yn achosi niwed mawr i'r DNA, sy'n cyflymu datblygiad canser ac ymwrthedd i gyffuriau.
Ar ôl tynnu cromosomau o'r celloedd sydd â chanser yn y cleifion, mesurodd yr ymchwilwyr hyd y telomer ym mhob sampl gan ddefnyddio technoleg a ddatblygwyd eisoes ganddynt o'r enw Dadansoddi Hyd Telomerau Unigol (STELA). Gwiriwyd hyd y telomerau yn erbyn cofnod meddygol y cleifion er mwyn dadansoddi ei effaith ar ddatblygiad y clefyd a disgwyliad oes.
Ar hyn o bryd, mae cleifion wrth gael diagnosis ar gyfer myeloma, yn cael eu hasesu fel cleifion sydd â risg 'da,' 'safonol' neu 'uchel'. Mae hyn yn seiliedig ar eu hoedran, eu hiechyd cyffredinol, lefelau o broteinau penodol yn eu gwaed, ac annormaleddau mewn cromosomau penodol. Defnyddir y categorïau risg fel canllaw ynghylch pa mor ddwys y dylai'r driniaeth fod ar gyfer pob claf, yn ogystal ag awgrymu’r amser sy’n weddill. Mae cleifion sydd â MDS yn cael asesiad tebyg, sy'n edrych ar newidiadau mewn cromosomau, a thrwy ddadansoddi'r celloedd gwaed ym mêr yr esgyrn.
Effaith glir ar oroesiad
Yn ôl yr ymchwilwyr, er bod y system bresennol yn ddangosydd da o faint o amser sy’n weddill gan gleifion, roedd hyd y telomer ei hun yn cael effaith sylweddol ar ddisgwyliad oes.
Roedd gan y cleifion Myeloma oedd â risg 'dda' neu 'safonol' yn y system bresennol, ond â thelomerau byr, yr un disgwyliad oes â chleifion yn y grŵp 'risg uchel' oedd â thelomerau hir ac yn gweithio. Bu i 55% o gleifion oedd â thelomerau yn y grwpiau risg 'da' neu 'safonol' fyw am dros 16 mlynedd, o'i gymharu â 21% o gleifion yn y grwpiau risg hyn oedd â thelomerau byr.
Roedd y rhan fwyaf o'r cleifion â MDS yn yr astudiaeth hon wedi'u rhoi yn y grŵp risg 'isel' wrth gael eu hastudio, a dim ond triniaeth ar gyfer rheoli eu symptomau a roddwyd iddynt. Fel y cleifion â myeloma, canfu'r ymchwilwyr bod cyfraddau gwahanol o dreuliad y telomerau yn cael effaith glir ar oroesiad. Dim ond 7% o gleifion â MDS a thelomerau byr hefyd a oroesedd am dros wyth mlynedd. Roedd hyn o’i gymharu â 46% o'r cleifion â thelomerau hir.
Dywedodd yr Athro Baird, a oedd yn arwain yr ymchwil yn Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd gyda'r Athro Chris Fegan a Chris Pepper: “Mae gwir angen i ni wella'r ffordd rydym yn rhagweld sut y bydd myleoma neu MDS claf unigol yn ymddwyn, gan fod yr amodau hyn yn gallu amrywio'r canlyniad yn fawr...”
“Y cam nesaf yw asesu hyd telomerau mewn astudiaeth fwy er mwyn gweld sut y gellir ei gynnwys mewn asesiadau presennol o ragweld canlyniadau cleifion.”
Canfu'r ymchwilwyr bod gan gleifion sydd ag AML delemorau byrrach yn sylweddol na chleifion â MDS, ond nid oedd hyn yn dylanwadu'n fawr ar ddisgwyliad oes person, hyd yn oed os oedd y telomerau yn fyrrach neu'n hirach na'r trothwy gweithiol.
Dywedodd Alasdair Rankin, Cyfarwyddwr Ymchwil elusen Bloodwise: “Gall mesur hyd telomerau gael cryn effaith wrth helpu meddygon i ragweld datblygiad clefydau yn well mewn cleifion unigol. Gall hyn helpu'r claf wrth ymdopi ag ansicrwydd ynghylch sut y bydd eu celloedd sydd â chanser yn datblygu, yn ogystal â helpu doctoriaid i deilwra triniaethau cleifion yn well ar sail eu risg unigol, a'u disgwyliad oes.”