Ewch i’r prif gynnwys

Buddsoddiad o Tsieina mewn gwaith ymchwil ym maes y gwyddorau biofeddygol

23 Mehefin 2017

Delegation at Cardiff China Medical Research Collaborative
(Chwith i'r dde) Yr Athro Jiang G Wen: Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd; Madam RenHua Zhang, Prif Swyddog Gweithredol RealCan; Mrs TJ Rawlinson, Cyfarwyddwr, Datblygu a Chysylltiadau Cynfyfyrwyr Prifysgol Caerdydd; yr Athro Ian Weeks, Pennaeth Dros Dro'r Ysgol Meddygaeth, Prifysgol Caerdydd, Mr ChunLin Han, Dirprwy Prif Swyddog Gweithredol RealCan; Mr Xu Han, Cadeirydd RealCan, Mr Nanjun Wang, Cyfarwyddwr Cymdeithas Masnachu Tramor Tsieina

Mae Prifysgol Caerdydd yn ymuno â darparwr gwasanaethau gwyddorau biofeddygol blaenllaw o Tsieina, i edrych ar gyfleoedd ymchwil pwysig ym meysydd clinigol a biofeddygol.

Bydd Realcan, sy'n gweithio'n bennaf yn Tsieina, yn buddsoddi £1m yn y Brifysgol dros gyfnod o dair blynedd.

Bydd y gwaith yn canolbwyntio ar brif themâu Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd ym Mhrifysgol Caerdydd: canser; biosystemau integreiddiol; y cof, ymennydd a niwrowyddoniaeth; imiwnoleg; haint a llid; ac iechyd y boblogaeth.

Bydd y buddsoddiad yn rhoi arian i fyfyrwyr PhD Realcan hefyd, i greu partneriaeth rhyngddynt â chlinigwyr blaenllaw a gwyddonwyr y gwyddorau biofeddygol, yn ogystal â chymrodyr ymchwil Realcan.

RealCan agreement signing (2)
(Blaen, o'r Chwith) Yr Athro Colin Riordan, Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd; Mr Xu Han, Cadeirydd RealCan. (Cefn, o'r Chwith) Mrs TJ Rawlinson, Cyfarwyddwr; Datblygu a Chysylltiadau Cynfyfyrwyr Prifysgol Caerdydd, yr Athro Wen G Jiang MBE, Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd.

Mae gan y Brifysgol tua 40 o bartneriaethau ar draws China, ac maent yn cydweithio â Phrifysgol Peking ac Ysbyty Cyfeillgarwch Beijing (Prif Brifysgol Meddygaeth), yn rhan o Ymchwil Meddygol Cydweithrediadol Caerdydd Tsieina (CCMRC) sy'n canolbwyntio ar ymchwil oncoleg.

Prifysgol gydweithio

Prif sylfaen CCMRC yw'r Sefydliad Canser ar y Cyd rhwng Prifysgol Caerdydd â Phrifysgol Peking. Maent wedi bod yn cydweithio ers 1999, ac maent yn ymchwilio i achosion, diagnosis a thriniaeth canser.

Mae gan Brifysgol Caerdydd bartneriaeth gyda Phrifysgol Xiamen hefyd i gynyddu ymchwil ar y cyd, rhannu arferion gorau ym myd addysg, a chreu cyfleoedd i gyfnewid myfyrwyr a staff.

Yn ogystal, llofnodwyd memorandwm o gyd-ddealltwriaeth â Phrifysgol Sun Yat-sen gan Brifysgol Caerdydd ym mis Chwefror 2017, er mwyn i'r ddwy brifysgol gydweithio ym maes ymchwil canser y fron.

Caerdydd oedd y ddinas gyntaf yn y DU i efeillio â dinas yn Tsieina wrth ddod yn bartner â Xiamen dros 30 mlynedd yn ôl.

Dywedodd yr Athro Colin Riordan, Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd, a'r Llywydd: “Mae cysylltiadau cryf gennym â Tsieina, ac rwyf wrth fy modd bod gennym y cyfle i ddatblygu ein partneriaethau ymchwil llwyddiannus ymhellach yn y wlad...”

“Mae Realcan yn rhannu'r un weledigaeth â ni sef gwneud gwaith ymchwil blaenllaw i fynd i'r afael â heriau iechyd byd-eang pwysig. Bydd yr arian hefyd yn ein galluogi i fuddsoddi yn yr ymchwilwyr ôl-raddedig gorau a mwyaf talentog.”

Yr Athro Colin Riordan Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd, a'r Llywydd

“Ymchwil gwyddonol arloesol a blaenllaw”

Dywedodd Wen G Jiang MBE o Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd: “Mae Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd, sy'n rhan o Goleg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd, yn gwneud gwaith ymchwil gwyddonol arloesol a blaenllaw ym maes meddygaeth, ac mae'r ymchwil wedi cael effaith go iawn ar fywydau pobl...”

“Rydym wedi sefydlu sawl prosiect llwyddiannus ar y cyd â Tsieina, ac mae'r bartneriaeth ddiweddaraf yn cynnig cyfleoedd cyffrous ychwanegol i wneud gwaith ymchwil ym maes clinigol a'r gwyddorau biofeddygol ym Mhrifysgolion Tsieina. Rydym yn ddiolchgar iawn i Realcan am y buddsoddiad sylweddol hwn.”

Yr Athro Wen Jiang Chair

Dyfarnwyd MBE (Member of the Order of the British Empire) i'r Athro Jiang yn 2017 am ei gyfraniad at waith ymchwil rhyngwladol i ganser. Yn rhinwedd ei waith ymchwil, mae wedi cydweithio'n eang â chydweithwyr yn y DU, Tsieina, Ewrop, Gogledd America ac Asia.

Dywedodd Mr Xu Han, Cadeirydd RealCan: “Rydym yn edmygu’n fawr y gwaith clinigol a biofeddygol a gynhelir ym Mhrifysgol Caerdydd, un o arweinwyr y byd yn y math hwn o ymchwil...”

“Mae'r byd yn wynebu nifer o heriau iechyd, a dim ond drwy gydweithio'n agos rhwng gwledydd a chyfandiroedd y gallwn wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl.”

Mr Xu Han Cadeirydd RealCan
VC and Mr Han, Chairman of RealCan
Yr Athro Colin Riordan, Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd (chwith) a Mr Xu Han, Cadeirydd RealCan

“Meddyginiaethau a therapïau newydd”

Dywedodd Mr Yongli Wang, Cwnselydd Gweinidog Addysg yn Llysgenhadaeth Tsiena yn Llundain:“Mae gan Tsieina hanes hir o weithio gyda sefydliadau yng Nghymru, a'r Deyrnas Unedig yn gyffredinol. Rydym yn croesawu'r cytundeb hwn rhwng Prifysgol Caerdydd ac un o'n cwmnïau mwyaf llwyddiannus.”

Dywedodd Mr Kevin Holland, Cwnselydd-Weinidog a Chyfarwyddwr y Gwyddorau Bywyd, Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn Llysgenhadaeth Prydain yn Beijing: “Rwy'n falch iawn o weld y berthynas sy'n datblygu rhwng Realcan a Phrifysgol Caerdydd a'u rhaglen bartneriaeth. Rydym yn llwyr gefnogi eu nod o ddarganfod meddyginiaethau a therapïau newydd, sy'n defnyddio'r wyddoniaeth orau ym Mhrydain i wella bywydau cleifion yn y DU a Tsieina.”

Rhannu’r stori hon

Mae gennym gysylltiadau ffurfiol â thros 35 o wledydd a phartneriaethau strategol gyda Phrifysgol Xiamen ac Unicamp.