Ewch i’r prif gynnwys

Academyddion yn cael eu hanrhydeddu

4 Mai 2017

Learned Society of Wales Book

Maer academyddion o bob rhan o’r celfyddydau, y dyniaethau a’r gwyddorau wedi’u hethol yn Gymrodyr Cymdeithas Ddysgedig Cymru.

Mae cyfanswm o 16 o Academyddion o Brifysgol Caerdydd wedi eu hethol i’r Gymdeithas yn etholiadau 2017.

Mae cael eich ethol yn Gymrawd yn gydnabyddiaeth gyhoeddus o ragoriaeth academaidd ac mae’r broses ddethol yn seiliedig ar archwiliad trylwyr o gyflawniadau ym maes perthnasol yr academydd.

“Ysbrydoli’r genedl”

Dywedodd Syr Emyr Jones Parry, Llywydd y Gymdeithas: “Mae'n bleser gennyf groesawu amrywiaeth mor eang o unigolion eithriadol i'r Gymrodoriaeth eleni. Mae’r etholiad eleni yn gwerthfawrogi ysgolheigion sy’n cyfrannu rhagoriaeth. Maen nhw a’u gwaith yn ysbrydoli’r genedl. Unwaith eto eleni mae mwy o fenywod yn cael eu hethol yn Gymrodyr, sy’n adlewyrchu penderfyniad y Gymdeithas i wobrwyo haeddiant.”

Ers ei sefydlwyd yn 2010, mae’r Gymdeithas wedi manteisio ar gryfderau sylweddol dros 460 o Gymrodyr nodedig yng Nghymru, y DU a thu hwnt.

Yn etholiad 2017, ychwanegwyd 44 o Gymrodyr i aelodau’r Gymdeithas. Menywod oedd traean o’r Cymrodyr STEMM a etholwyd, y gyfran uchaf yn hanes y Gymdeithas.

Drwy ddod â’r Cymrodyr mwyaf llwyddiannus a dawnus sy’n gysylltiedig â Chymru ynghyd, mae Cymdeithas Ddysgedig Cymru’n cyfrannu at hyrwyddo a hybu rhagoriaeth ym mhob disgyblaeth ysgolheigaidd, gan gynnwys rhoi cyngor annibynnol ac arbenigol i’r Llywodraeth.

Dyma Gymrodyr Prifysgol Caerdydd sydd newydd eu hethol:

Yr Athro Richard Catlow FRSE FInstP FRS FLSW, Yr Ysgol Cemeg; Yr Athro Haley Gomez FRAS FLSW, Yr Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth; Yr Athro Ian Hall FLSW, Ysgol Gwyddorau’r Ddaear a’r Amgylchedd; Yr Athro John Hartley AM FAHA FRSA FLSW, Yr Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol; Yr Athro Andrew Henley FLSW, Ysgol Busnes Caerdydd; Yr Athro Binliang Lin FCIWEM FLSW, Yr Ysgol Peirianneg; Yr Athro Helen Nicholson FRHistS FLSW, Yr Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd; Yr Athro Robert Pickard FRSB FRSM FLSW; Yr Athro Loredana Polezzi, Ysgol Leithoedd Modern; Yr Athro Sally Power FLSW,  Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol; Yr Athro David Price FRSB FLSW, Yr Ysgol Meddygaeth; Yr Athro Philip Routledge OBE MD FRCP FRCPE FBTS FRSB FAcadMed HonFRCGP HonFFPM HonFBPhS FLSW, Yr Ysgol Meddygaeth; Syr Evan Paul Silk KCB FLSW, Canolfan Llywodraethiant Cymru; Yr Athro Julia Thomas FLSW, Yr Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth; Yr Athro Marcela Votruba FRCOphth FLSW, Yr Ysgol Optometreg a Gwyddorau’r Golwg; Yr Athro Damian Walford Davies FLSW, Yr Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth; Yr Athro Howard Williams FLSW, Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth.