Ewch i’r prif gynnwys

Caerdydd yn cynyddu ei chyllid ymchwil gydweithredol yn fwy nag unrhyw brifysgol arall yn y DU

27 Ebrill 2017

CUBRIC cladding

Mae Prifysgol Caerdydd wedi sicrhau cynnydd o £13.3m yn ei chyllid ar gyfer ymchwil gydweithredol – y cynnydd mwyaf yn y DU.

Ochr yn ochr â'r cynnydd sylweddol hwn mae cynnydd mewn incwm eiddo deallusol, sy'n cryfhau enw Caerdydd fel lle gwych i ar gyfer busnes.

Y Brifysgol yw'r 2il yng Ngrŵp Russell ar gyfer incwm eiddo deallusol – sef 98% o'r incwm eiddo deallusol ymhlith sefydliadau addysg uwch Cymru, yn ôl data gan Arolwg Rhyngweithio Addysg Uwch-Busnes a'r Gymuned (HE-BCI).

Rhyddhawyd buddsoddiad mewn IP Group plc, a helpodd y Brifysgol i gynyddu ei refeniw eiddo deallusol yn sylweddol.

Dywedodd yr Athro Colin Riordan, Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd: "Mae ein buddsoddiad parhaus mewn System Arloesedd Caerdydd, a'n hymdrechion dygn i gynnal ymchwil o'r radd flaenaf, yn parhau i ddwyn canlyniadau rhagorol.

"Mae ein system yn dod ag ymchwilwyr gorau'r byd at ei gilydd i feithrin partneriaethau sy'n sbarduno twf..."

"Mae bod yn yr ail safle ar ôl Caergrawnt ar gyfer incwm eiddo deallusol ymhlith y 24 o brifysgolion mwyaf blaenllaw ac ymchwil-ddwys yn y DU yng Ngrŵp Russell yn gyrhaeddiad anhygoel."

Yr Athro Colin Riordan Llywydd ac Is-Ganghellor, Prifysgol Caerdydd

Mae data diweddaraf HE-BCI yn dangos bod 22 o blith 27 o'r patentau a gyflwynwyd i brifysgolion Cymru yn 2015-16 wedi mynd i Gaerdydd – mwy nag 80% o'r cyfanswm.

At hynny, cynhyrchodd y Brifysgol mwy na hanner o'r ceisiadau am batentau newydd (56.6%) gan yr wyth o Sefydliadau Addysg Uwch yng Nghymru yn 2015-16.

Llwyddodd y Brifysgol i gynyddu ei hincwm ymchwil gydweithredol gan 70% drwy fentrau blaenllaw mewn niwrowyddoniaeth a delweddu'r ymennydd.

Meddai'r Athro Hywel Thomas, Dirprwy Is-Ganghellor, Ymchwil, Arloesedd ac Ymgysylltu: "Mae incwm ymchwil gydweithredol Caerdydd wedi cynyddu ar ôl cyfnod o fuddsoddi penodol, a datblygu gallu mewn meysydd ymchwil allweddol. Mae'r strategaeth buddsoddi wedi canolbwyntio ar greu a chynnal Sefydliadau Ymchwil y Brifysgol mewn meysydd fel Systemau Ynni..."

"Rydym hefyd wedi cyd-fuddsoddi gyda'r Cynghorau Ariannu a phartneriaid o fyd diwydiant i dyfu meysydd ymchwil, gan gydnabod eu pwysigrwydd o ran sbarduno twf economaidd ym Mhrydain ar ôl Brexit."

Yr Athro Hywel Thomas Dirprwy Is-Ganghellor Ymchwil, Arloesi a Menter, Prifysgol Caerdydd

Mae'r cynnydd mewn arian ymchwil gydweithredol Caerdydd wedi'i gynnwys yn Times Higher Education yr wythnos hon.

Mae Caerdydd ymhlith y 5 prifysgol orau yn y DU ar gyfer ansawdd ac effaith ei hymchwil, yn ôl Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014.