Ewch i’r prif gynnwys

Prosiect ynni gwerth miliynau o bunnoedd yn cychwyn yng Nghymru

3 Chwefror 2017

Flexis Launch back drop

Mae prosiect gwerth miliynau o bunnoedd, a allai drawsnewid sector ynni’r Deyrnas Unedig a mynd i’r afael â rhai o’r heriau mwyaf sy’n wynebu cymdeithas ar hyn o bryd, wedi cychwyn yng Nghymru.

Mae prosiect £24m FLEXIS, dan arweiniad Prifysgol Caerdydd, yn crynhoi arbenigedd o wahanol brifysgolion Cymru i hwyluso’r broses o bontio i ddyfodol carbon isel mewn modd fforddiadwy, cynaliadwy a chymdeithasol dderbyniol.

Bydd y prosiect pum mlynedd, sy’n cael ei gefnogi gan yr UE, yn ceisio datrys cyfres amrywiol, cymhleth a rhyng-ddibynnol o heriau, sy’n amrywio o storio ynni i ddatgarboneiddio a thlodi tanwydd.

Bydd y prosiect yn edrych yn benodol ar sut gellir integreiddio ffynonellau ynni newydd, carbon isel i’r grid ynni, a sut gall y grid ei hun ymdopi â llif eithafol o ynni i’r system mewn mannau niferus ac ar adegau ar hap.

Fel rhan o’r prosiect, nodwyd safle arddangos yn ardal Bae Abertawe, gyda Gwaith Dur TATA ym Mhort Talbot yn ganolbwynt, i weithredu fel safle profi ar gyfer syniadau newydd ac i arddangos y dechnoleg newydd a’r datrysiadau ynni sy’n cael eu datblygu.  Ymhlith y partneriaid mae TATA Steel, Dinas-Ranbarth Bae Abertawe a Chyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot.

'Ar flaen y gad o ran ymchwil ac arloesi'

Yn siarad cyn digwyddiad lansio yn adeilad y Pierhead ym Mae Caerdydd ddydd Iau (2 Chwefror), dywedodd yr Athro Colin Riordan, Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd: "Bydd FLEXIS yn rhoi Cymru ar flaen y gad o ran ymchwil ac arloesi wrth i’r sector ynni addasu i ymateb i’r angen brys am liniaru newid yn yr hinsawdd a diogelu ynni..."

"Bydd y prosiect yn golygu bod rhai o ymchwilwyr gorau’r byd yn dod i brifysgolion Cymru ac yn paratoi'r ffordd ar gyfer datblygu technolegau newydd a chreu swyddi yn y sector ynni, yn ogystal â denu cwmnïau newydd i leoli eu hunain yma."

Yr Athro Colin Riordan Llywydd ac Is-Ganghellor, Prifysgol Caerdydd

"Mae'r arian sylweddol hwn gan yr UE yn dangos sut mae cymorth ariannol gan Ewrop yn helpu i yrru'r ymchwil sylfaenol sydd ar waith yma yng Nghymru."

'Busnesau a swyddi newydd yng Nghymru'

Dywedodd Ysgrifennydd Cyllid Llywodraeth Cymru, Mark Drakeford AC: "Mae FLEXIS yn enghraifft dda o sut mae cronfeydd yr Undeb Ewropeaidd yn cael eu buddsoddi mewn gwaith ymchwil a phrosiectau datblygu ar y cyd sy'n cynnwys prifysgolion Cymru a diwydiant..."

"Mae'r prosiectau hyn yn helpu i greu busnesau a swyddi newydd yng Nghymru. Mae'r rhain ar flaen y gad ym maes arloesedd a dyna pam mae'n hanfodol ein bod yn cael arian o ffynonellau yn y DU ar ôl 2020, yn lle'r arian Ewropeaidd blaenorol, a'n bod yn gallu parhau i gymryd rhan mewn rhaglenni ymchwil ac arloesedd Ewropeaidd."

Mark Drakeford AC Ysgrifennydd Cyllid Llywodraeth Cymru

"Bydd FLEXIS hefyd yn mynd i'r afael â heriau byd-eang pwysig iawn o ran effeithlonrwydd ynni. Felly, rwyf yn falch iawn y bydd Cymru'n chwarae rhan flaenllaw yn y maes hwn."

Erbyn 2020, disgwylir i Gymru sicrhau dros £20m o incwm ymchwil gystadleuol ychwanegol o ganlyniad i FLEXIS.

Prif noddwyr y gwaith yw Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Abertawe a Phrifysgol De Cymru.  Mae Prifysgolion Aberystwyth a Bangor ac Arolwg Daearegol Prydain hefyd yn rhan o’r prosiect.

Rhannu’r stori hon

Yma, cewch wybod sut mae ein rhagoriaeth ym meysydd ymchwil, trosglwyddo technoleg, datblygu busnesau a mentrau myfyrwyr, yn arwain ein gweledigaeth.