Ewch i’r prif gynnwys

Dirprwy Is-Ganghellor Newydd

24 Mawrth 2017

Professor Rudolf Allemann
Yr Athro Rudolf Allemann

Penodwyd yr Athro Rudolf Allemann yn Ddirprwy Is-Ganghellor newydd a Phennaeth Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg.

Bydd yr Athro Allemann yn olynu'r Athro Karen Holford drwy gymryd yr awenau yng Ngholeg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg, a fydd yn dechrau ei swydd newydd fel Rhag Is-Ganghellor ar 3 Ebrill 2017.

Dros y pedair blynedd ddiwethaf, mae'r Athro Allemann wedi bod yn Bennaeth yr Ysgol Cemeg, ac yn Athro Ymchwil Nodedig.

Meddai’r Athro Colin Riordan, Is-Ganghellor y Brifysgol: “Mae'r Athro Allemann yn academydd ag enw da yn rhyngwladol, ac mae wedi gwneud gwaith rhagorol i arwain yr Ysgol Cemeg, a bydd yn dod â'i brofiad helaeth i'r rôl hon…”

“Does gen i ddim amheuaeth y bydd yn ychwanegu at lwyddiannau aruthrol yr Athro Karen Holford, ac yn gweithio i sicrhau bod yr ymchwil ac addysgu rhagorol yn y Coleg yn well fyth.”

Yr Athro Colin Riordan Llywydd ac Is-Ganghellor, Prifysgol Caerdydd

Dywedodd yr Athro Allemann: “Rydw i wrth fy modd i gael fy mhenodi'n Ddirprwy Is-Ganghellor ac yn Bennaeth Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg. Byddaf yn ychwanegu at y gwaith rhagorol y mae'r Athro Karen Holford wedi'i wneud i sefydlu ac arwain y Coleg dros y 5 mlynedd ddiwethaf... ”

“Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda phawb yn y Coleg a'n myfyrwyr i roi ein hagenda uchelgeisiol ar gyfer ymchwil, addysgu ac ymgysylltu ar waith, er mwyn creu effaith i Gaerdydd, Cymru a'r DU.”

Yr Athro Rudolf Allemann Pro Vice-Chancellor, International and Student Recruitment and Head of the College of Physical Sciences and Engineering

Fel rhan o rôl y Dirprwy Is-Ganghellor, bydd yr Athro Allemann yn gyfrifol am reoli ac arwain Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg. Bydd hefyd yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o bennu strategaeth a chyfeiriad y Coleg, ac o hybu datblygiad dysgu, addysgu a rhagoriaeth ymchwil.

Fel Dirprwy Is-Ganghellor, bydd yr Athro Allemann hefyd yn dod yn aelod o Fwrdd Gweithredol y Brifysgol.

Ar ôl cwblhau ei waith PhD ym Mhrifysgol Harvard ac Eidgenössische Technische Hochschule (ETH) yn Zurich, dechreuodd yr Athro Allemann ei yrfa fel ymchwilydd ôl-ddoethurol a Gwyddonydd Staff yn Sefydliad Cenedlaethol Ymchwil Feddygol y Cyngor Ymchwil Feddygol yn Mill Hill ar gyrion Llundain.

Aeth yr Athro Allemann ymlaen i fod yn ddarlithydd ac yn Arweinydd Grŵp Ymchwil yr Adran Cemeg yn ETH yn Zurich.

Yn 1998, symudodd yr Athro Allemann i Brifysgol Birmingham i fod yn Uwch Ddarlithydd Cemeg, cyn dod yn Athro Bioleg Gemegol yn 2001.

Ers 2005, mae'r Athro Allemann wedi bod yn Athro Ymchwil Nodedig yn Ysgol Cemeg y Brifysgol.

Mosquito on human skin

Creu artemisinin

Ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd yn dyfeisio dull newydd o gynhyrchu cyffur gwrth-falaria blaenllaw

Yn ei rôl fel Pennaeth yr Ysgol Cemeg, mae'r Athro Allemann wedi goruchwylio gwaith i ehangu'r Ysgol, newidiadau i gyrsiau cemeg israddedig, a gwaith i ddyblu'r incwm ymchwil a nifer y myfyrwyr yn yr Ysgol.

Yn asesiad diweddaraf y llywodraeth o ymchwil prifysgolion, yr Ysgol Cemeg oedd y 9fed orau yn y DU, a'r 5ed ar gyfer effaith ei hymchwil.

Mae grŵp ymchwil yr Athro Allemann yn defnyddio amrywiaeth eang o dechnegau cemegol a ffisegol i ateb cwestiynau ynglŷn â phŵer catalytig anhygoel ensymau. Maent yn datblygu ac yn defnyddio dulliau cemegol i ymchwilio i brosesau biolegol a'u rheoli yn y labordy ac mewn celloedd byw. Mae eu gwaith yn dibynnu ar ddull rhyngddisgyblaethol, lle mae cemeg yn gorgyffwrdd â meysydd bioleg, ecoleg gemegol, gwyddoniaeth deunyddiau, meddygaeth a ffiseg.

Rhannu’r stori hon

Mae gwaith ymchwil ac addysg yr Ysgol ar flaen y gad yn rhyngwladol ac yn canolbwyntio ar fynd i’r afael â heriau gwyddonol pwysig yr 21ain ganrif.