Ewch i’r prif gynnwys

Y Canghellor yn rhoi’r gorau iddi

16 Mawrth 2017

Yr Athro Syr Martin Evans
Yr Athro Syr Martin Evans FRS

Bydd yr Athro Syr Martin Evans, enillydd gwobr Nobel a Chymrawd y Gymdeithas Frenhinol, yn ymddiswyddo fel Canghellor Prifysgol Caerdydd, ar ôl wyth mlynedd yn y swydd.

Cyhoeddodd Syr Martin ei benderfyniad yng nghyfarfod cyffredinol blynyddol y Brifysgol (Llys y Brifysgol) heddiw (16 Mawrth 2017) ar ôl cynghori Cyngor y Brifysgol yn ffurfiol.

Bydd Syr Martin yn aros yn rhan o'r Brifysgol fel Athro Emeritws, teitl anrhydeddus sy'n cydnabod gwasanaeth academaidd nodedig.

Cafodd Syr Martin ei urddo fel Canghellor (a oedd yn cael ei adnabod fel Llywydd ar y pryd) yn 2009, a dechreuodd ei ail dymor yn y swydd yn 2014.

Y Canghellor yw'r swydd uchaf o blith swyddogion anrhydeddus y Brifysgol. Mae'n swydd seremonïol, sy'n cadeirio Llys y Brifysgol ac yn arwain seremonïau graddio'r Brifysgol.

Dywedodd yr Athro Stuart Palmer, Cadeirydd y Cyngor: “Hoffwn gymryd y cyfle hwn i gofnodi ein diolch anferth i Syr Martin…”

“Mae wedi bod yn anrhydedd i'r Brifysgol gael enillydd Gwobr Nobel, yr Athro Syr Martin Evans, fel 22ain Canghellor Prifysgol Caerdydd.”

Yr Athro Stuart Palmer Cadeirydd y Cyngor

'Rwyf wedi rhannu balchder â'n holl raddedigion newydd'

Dywedodd Syr Martin: “Braint ac anrhydedd oedd bod yn Ganghellor ar y sefydliad hwn, ac rwyf wedi mwynhau yn fawr…”

“Pleser oedd bod yn rhan o'r seremonïau graddio, un o'r uchafbwyntiau yng nghalendr y Brifysgol.”

Yr Athro Syr Martin Evans

“Bob blwyddyn, rwyf wedi rhannu balchder â'n holl raddedigion newydd, sy'n ymuno â thros 145,000 o gyn-fyfyrwyr mewn dros 180 o wledydd ar draws y byd.”

Symudodd Syr Martin o Brifysgol Caergrawnt yn 1999 i arwain Ysgol Biowyddorau Prifysgol Caerdydd, a oedd newydd ei sefydlu.  Yn 2007 enillodd y Wobr Nobel mewn Meddygaeth - yr anrhydedd fwyaf ei bri yn y maes gwyddonol - am “gyfres o ddarganfyddiadau arloesol am fôn-gelloedd embryonig ac ailgyfuno DNA mewn mamaliaid.” Yn 2013, enwodd y Brifysgol adeilad Ysgol y Biowyddorau er anrhydedd iddo.

'Gyfraniad aruthrol i'r byd gwyddonol'

Dywedodd yr Athro Colin Riordan: “Hyd yma, yr Athro Syr Martin Evans yw'r unig wyddonydd sy'n gweithio yng Nghymru sydd wedi ennill Gwobr Nobel…”

“Mae Prifysgol Caerdydd yn ymfalchïo'n enfawr yn hyn. Rydym yn ddiolchgar am ei gyfraniad aruthrol i'r byd gwyddonol ac am fanteision eang ei ymchwil a'i wasanaeth i'r Brifysgol.”

Yr Athro Colin Riordan Llywydd ac Is-Ganghellor, Prifysgol Caerdydd

Syr Martin oedd y gwyddonydd cyntaf i ganfod bôn-gelloedd embryonig, a gellir eu haddasu at amrywiaeth o ddibenion meddygol. Mae ei ddarganfyddiadau nawr yn cael eu defnyddio yn y mwyafrif llethol o feysydd biofeddygol - o ymchwil sylfaenol i ddatblygu therapïau newydd. Mae Syr Martin yn cael ei gydnabod dros y byd fel “tad-cu ymchwil bôn-gelloedd" ac mae wedi ei enwi ymysg y "deg Prydeiniwr sydd wedi llunio ein byd.”

Bydd y broses ar gyfer sefydlu pwyllgor enwebiadau i apwyntio'r Canghellor newydd yn dechrau maes o law. Mae'r pwyllgor yn cael ei arwain gan Gadeirydd y Cyngor, ac mae'n cynnwys aelodau o'r Cyngor a'r Llys.

Rhannu’r stori hon

Dysgwch am Syr Martin a'r gwyddoniaeth ag enillodd y Gwobr Nobel