Ewch i’r prif gynnwys

Kier i wneud gwaith adeiladu cynnar ar y campws

21 Rhagfyr 2016

Campws Arloesedd (Argraff y Penseiri)
Mae'r Brifysgol yn adeiladu Campws Arloesedd gwerth £300m.

Mae Kier wedi'i gadarnhau fel y cwmni dewisol i wneud y gwaith adeiladu cychwynnol yng Nghampws Arloesedd (CIC) Prifysgol Caerdydd.

Bydd y cwmni, sy'n grŵp gwasanaethau eiddo, preswyl ac adeiladu blaenllaw, yn helpu i gyflwyno prosiect £135m CIC Caerdydd sy'n cynnwys dau adeilad newydd.

Bydd un ohonynt yn gartref i SPARK, parc ymchwil gwyddoniaeth cymdeithasol cyntaf y byd a'r Ganolfan Arloesedd - gofod creadigol ar gyfer dechrau busnes, cwmnïau deillio a phartneriaethau.

Bydd y llall yn gartref i ddau sefydliad ymchwil gwyddonol blaenllaw - Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd a Sefydliad Catalysis Caerdydd.

Mae disgwyl i'r gwaith ddechrau ar y safle yn gynnar yn 2017 a bod wedi'i gwblhau yn 2018. Mae'r cynllun hefyd yn cynnwys pont fydd yn cysylltu Ysgol Busnes Caerdydd a Chanolfan Arloesedd Caerdydd.

Golygfa o'r awyr o Heol Maendy
Bydd y Campws Arloesedd yn dod ag ymchwilwyr, myfyrwyr a busnesau ynghyd.

Mae Kier wedi ymrwymo i gefnogi cyflogaeth, hyfforddiant, prentisiaethau a chyfleoedd i ddatblygu yn yr ardal leol.

Mae hyn yn cynnwys cyflogaeth leol a chyfleoedd i ddatblygu sgiliau, is-gontractio busnesau bach a chanolig lleol, yn ogystal â chynnig cyfleoedd i bobl ifanc drwy brentisiaethau.

Caiff myfyrwyr Prifysgol Caerdydd y cyfle i gael lleoliadau gwaith fydd yn rhoi profiad ymarferol iddynt o'r gwahanol swyddi sydd ar gael yn y diwydiant adeiladu.

Meddai'r Athro Hywel Thomas, Dirprwy Is-Ganghellor, Ymchwil, Arloesedd ac Ymgysylltu: "Rydym yn falch iawn o gydweithio â Kier fel y cwmni dewisol ar Gampws Arloesedd Caerdydd..."

"Bydd y ddau adeilad newydd yn gartref i ganolfannau ymchwil o'r radd flaenaf fydd yn gallu manteisio ar botensial economaidd catalysis a Lled-ddargludyddion Cyfansawdd yn ogystal â defnyddio gwyddoniaeth cymdeithasol i ddatrys problemau byd-eang brys. Rydym yn buddsoddi mewn pobl a lleoedd er mwyn meithrin partneriaethau sy'n creu twf."

Yr Athro Hywel Thomas Dirprwy Is-Ganghellor Ymchwil, Arloesi a Menter

Meddai Anthony Irving, Rheolwr Gyfarwyddwr, Kier Construction Western & Wales: "Mae'r cytundeb hwn yn cyfuno ein profiad cenedlaethol sy'n arwain y sector ym maes gwyddoniaeth a thechnoleg ac yn manteisio ar bresenoldeb amlwg Kier yng Nghaerdydd ac yn ehangach ledled Cymru..."

"Edrychwn ymlaen at weithio gyda'r Brifysgol a gweithlu lleol i gyflawni cam nesaf a chyffrous hwn y Campws Arloesedd."

Anthony Irving Rheolwr Gyfarwyddwr, Kier Construction Western & Wales

Mae gan Kier enw da am gyflwyno prosiectau yng Nghaerdydd gan gynnwys adeiladu Arena Iâ Cymru, cartref tîm hoci iâ Cardiff Devils.

Rhannu’r stori hon