Ewch i’r prif gynnwys

Arddangosfa yn edrych ar hanes cyfnod y Rhyfel Byd Cyntaf yn Nhrelái

20 Rhagfyr 2016

CAER WW1 Exhibition Space

Mae ymchwil sy'n pontio'r cenedlaethau am un o faestrefi mwyaf bywiog ond difreintiedig Caerdydd i'w gweld yng nghanol y ddinas.

Fe gafodd prosiect Rhyfel Byd Cyntaf Dusty ei arwain gan dîm Treftadaeth CAER Prifysgol Caerdydd yn yr Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd. Mae wedi'i gynhyrchu gyda chymorth archifwyr o Archifau Morgannwg, pobl ifanc o Goleg Cymunedol Llanfihangel a thrigolion hŷn Trelái.

Mae wedi dod â disgyblion a thrigolion lleol o grŵp cymunedol Iach, Cyfoethog a Doeth i gofio effaith y Rhyfel Mawr ar Drelái a dysgu rhagor am darddiad yr ardal.

Drwy ganolbwyntio ar bentref gardd a Dusty Forge - un o safleoedd eiconig yr ardal – gweithiodd tîm ymchwil y Brifysgol gyda'r grŵp ac artistiaid lleol i gasglu hanesion llafar, hen ffotograffau, llythyrau, dyddiaduron, erthyglau papur newydd, atgofion personol, straeon teuluol ac eiddo etifeddol, i adrodd hanes Trelái a'i ystâd o dai ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf.

Meddai Dr Stephanie Ward o Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd Prifysgol Caerdydd, a arweiniodd y prosiect: "Fe gafodd pentref gardd Trelái ei greu fel ystâd o dai a fyddai'n cynnig cartrefi o safon ar ôl gwrthdaro byd-eang y Rhyfel Byd Cyntaf..."

"Wrth gynnal y prosiect, ein nod oedd gwneud yn siŵr bod yr ymchwil yn cael ei chynhyrchu ar y cyd yn y gymuned gyda'r bobl sy'n byw yn Nhrelái heddiw. Mae ymchwil rhwng y cenedlaethau wedi bod yn nodwedd amlwg o'r prosiect gan fod yr hen a'r ifanc wedi bod yn cydweithio er mwyn darganfod tarddiad hynod ddiddorol yr ystâd. Mae hyn wedi chwalu rhwystrau yn y gymuned a'u galluogi i ddarganfod yr hanes maen nhw'n ei rannu, a meithrin perthynas gadarnhaol ar gyfer y dyfodol.”

Dr Stephanie Ward Senior Lecturer in Modern Welsh History

“Rydym yn falch iawn o bawb sydd wedi cyfrannu at yr arddangosfa."

Meddai Shannay, disgybl hanes blwyddyn 9 yng Ngholeg Cymunedol Llanfihangel: "Roedd y bobl yn anhygoel a chefais lawer o hwyl, yn enwedig yn Archifau Morgannwg ac yn cyfweld pobl sydd wedi byw yn Nhrelái ers blynyddoedd lawer yn Dusty Forge..."

"Ro'n i wrth fy modd yn clywed straeon pobl hŷn am eu gorffennol, a gweld pa mor wahanol oedd eu profiad o'i gymharu â fy mywyd i yn Nhrelái ar hyn o bryd."

Shannay Coleg Cymunedol Llanfihangel

Mae'r arddangosfa yn cynnwys ffilmiau, arteffactau, celf, paneli gwybodaeth ac elfennau rhyngweithiol am flynyddoedd cynnar yr ystâd yn Nhrelái. Anogir pobl leol i ddod â'u straeon a'u hatgofion eu hunain eu hunain hefyd i gyfrannu at yr arddangosfa.

Bydd arddangosfa Rhyfel Byd Cyntaf Dusty i'w gweld yn Amgueddfa Stori Caerdydd tan 24 Chwefror 2017. Caiff ei symud wedi hynny i Archifau Morgannwg cyn dychwelyd i Dusty Forge.

Mae prosiect Rhyfel Byd Cyntaf Dusty yn rhan o brosiect parhaus Treftadaeth CAER, sy’n ail-gysylltu cymunedau Trelái a Chaerau â’u treftadaeth gan ddatblygu cyfleoedd addysgiadol sy’n cyd-daro â rhaglen Llywodraeth Cymru Cyfuno: Trechu Tlodi drwy Ddiwylliant.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn lle i'r disgleiriaf a'r gorau i archwilio ac i rannu eu hangerdd dros astudio cymdeithasau'r gorffennol a chredoau crefyddol, o gyfnod cynhanes i'r presennol.