Ewch i’r prif gynnwys

Crwydro Paradwys

5 Hydref 2016

iPad with cutout characters on
© Paul Evans

Mae syniadau cyfoes a chanoloesol o’r ‘byd perffaith’ wedi’u ffilmio gan grŵp o bobl ifanc o dde Cymru.

Dan arweiniad Dr Dave Wyatt a Dr Oliver Davis o’r Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd, a’r artist proffesiynol Paul Evans, cyflawnwyd Pentref Model CAER ar y cyd â’r sefydliad datblygu cymunedol Gweithredu yng Nghaerau a Threlái (ACE) a Choleg Cymunedol Llanfihangel.

Rhoddodd y prosiect gyfle i grŵp o ddisgyblion o Lanfihangel ddysgu am wreiddiau eu hystâd dai yn Nhrelái - un o faestrefi Caerdydd a godwyd yn y 1920au fel pentref gardd dymunol - a hefyd i archwilio archaeoleg Llanfihangel-ar-Elái, pentref canoloesol anghyfannedd sy’n agos iawn at yr ystâd honno.

Gan weithio gyda Dave Wyatt a’r hanesydd cymdeithasol Dr Stephanie Ward, ymchwiliodd y bobl ifanc i gynlluniau gwreiddiol ystâd dai pentref gardd Trelái yn Archifau Morgannwg. Yna, gwnaethon nhw ymuno â’r Dr David a myfyrwyr Prifysgol Caerdydd i gyfrannu at fân waith cloddio archeolegol mewn pentref o’r bedwaredd ganrif ar ddeg, gan ddysgu am fywyd yn Nhrelái yn ystod oes wahanol iawn.

Drwy’r gweithgareddau hyn, ystyriodd y bobl ifanc syniadau am aneddiadau wedi’u cynllunio yn y canol oesoedd a’r cyfnod modern, gan drafod y syniadau o baradwys a’u hysbrydolodd.

Gyda’r artist Paul Evans a’r gwneuthurwyr ffilm Jon Harrison a Viv Thomas, gwnaeth y bobl ifanc gyfleu canfyddiadau eu hymchwil drwy ddarlunio, animeiddio ac adrodd straeon - gan droi eu syniadau’n ffilm fer.

“Mae’r prosiect hwn wedi dod â hanes modern, archaeoleg ganoloesol, celf a ffilmio ynghyd mewn gwaith ystyriol amlddisgyblaethol arloesol o hanes rhyfeddol Trelái drwy’r oesoedd. Galluogodd grŵp talentog o bobl ifanc leol i ddeall a meddwl am eu hamgylchedd lleol - y tai, y strydoedd a’r parciau maen nhw’n eu gweld bob dydd - a deall sut a pham y cawson nhw eu cynllunio a’u hadeiladu."

Dr David Wyatt Reader in Early Medieval History

“Yna gwnaethon nhw ddysgu am stori eu cyndeidiau a oedd yn byw ganrifoedd cyn datblygu’r ystâd. Wrth wneud hynny maen nhw wedi dysgu sgiliau newydd, gweithio gydag academyddion, gweithwyr proffesiynol ym maes treftadaeth ac artistiaid i helpu i greu ffilmiau gwych wedi’u hanimeiddio sy’n adrodd y stori y gwnaethon nhw ei datgelu.”

Dangoswyd y ffilm Pentref Perffaith am y tro cyntaf yng Ngŵyl Utopia yn Nhŷ Somerset, Llundain, fel rhan o flwyddyn o ddigwyddiadau i nodi pumcanmlwyddiant llyfr dylanwadol Thomas More. Wedi’i chynnal mewn partneriaeth â’r Cyngor Ymchwil i’r Celfyddydau a’r Dyniaethau, arddangosodd y ffair ganlyniadau creadigol o 25 o brosiectau a ddaeth â chymunedau, ymchwilwyr ac artistiaid ynghyd ledled y DU i feddwl am beth yw paradwys iddyn nhw.

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cymunedol Dave Horton: “Mae wedi bod yn fraint i ACE weithio gyda Phrifysgol Caerdydd i ddatblygu Prosiect Treftadaeth gwych CAER dros y blynyddoedd diwethaf. Mae’r Prosiect Pentref Perffaith eto wedi dangos cymysgedd lwyddiannus CAER o ymchwil, creadigrwydd a gweithio gyda’r gymuned. Bob tro, rydym yn dysgu mwy am ein hanes ac yn dod fymryn yn ddoethach am ein hoes ni, ac ychydig yn fwy ymroddedig i greu ein cymuned lwyddiannus ein hunain!”

Mae’r prosiect Pentref Perffaith yn rhan o brosiect parhaus Treftadaeth CAER, sy’n ail-gysylltu cymunedau Trelái a Chaerau â’u treftadaeth gan ddatblygu cyfleoedd addysgiadol sy’n cyd-daro â rhaglen Llywodraeth Cymru Cyfuno: Trechu Tlodi drwy Ddiwylliant.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn lle i'r disgleiriaf a'r gorau i archwilio ac i rannu eu hangerdd dros astudio cymdeithasau'r gorffennol a chredoau crefyddol, o gyfnod cynhanes i'r presennol.