Ewch i’r prif gynnwys

Llwyddiant myfyrwyr ym myd chwaraeon

11 Awst 2016

Swimmer

Mae myfyrwyr Prifysgol Caerdydd wedi cael eu tymor chwaraeon gorau hyd yma, ac mae’r Brifysgol bellach yn y safle uchaf yng Nghymru yn nhablau cynghrair cenedlaethol Chwaraeon Prifysgolion a Cholegau Prydain (BUCS).

Yn ystod y flwyddyn, bu’r myfyrwyr yn rhagori mewn chwaraeon oedd yn cynnwys nofio, pêl-droed Americanaidd a rhedeg traws gwlad. Cafwyd perfformiadau nodedig hefyd gan glybiau oedd yn cystadlu ym Mhencampwriaethau Cenedlaethol BUCS, yn fwyaf arbennig ym meysydd athletau, trampolinio a ffensio.

O ganlyniad, cyrhaeddodd y Brifysgol Safle 11 yn y Deyrnas Unedig – bedwar safle’n uwch nag yn nhymor 14/15 - ac mae'n arwain y maes o ran Prifysgolion Cymru sy’n cystadlu yn BUCS.

Dywedodd Pennaeth Chwaraeon Prifysgol Caerdydd, Stuart Vanstone: "Bu'n flwyddyn arall wych i glybiau chwaraeon ein myfyrwyr a’n hathletwyr.  Fe wnaethon ni barhau i ddatblygu a gwella ein perfformiadau ar y maes, ar y cyrtiau ac yn y dŵr, gyda chefnogaeth grŵp ymroddedig o hyfforddwyr, staff cymorth a gweinyddwyr.

"Mae gennym dros 6,000 o aelodau yng nghlybiau chwaraeon y Brifysgol - 20% o’n poblogaeth o fyfyrwyr - ac yn ystod sesiwn academaidd 15/16 buom yn darparu mwy o gyfleoedd i chwarae nag erioed o’r blaen, gyda mwy na 100 o dimau yn cystadlu yng nghynghreiriau a chystadlaethau BUCS.

"Yn ogystal â’n llwyddiant BUCS, mae ein rhaglen o fewn y brifysgol yn parhau i dyfu mewn amrywiol chwaraeon. Mae ein rhaglen bêl-rwyd fewnol yn unig yn cynnwys 40 o dimau, yn ogystal â’r naw tîm sy’n chwarae yng nghystadlaethau BUCS. Mae hynny’n golygu bod 49 o dimau a mwy na 700 o fyfyrwyr yn chwarae bob wythnos, mewn un gamp yn unig!

"Mae nifer o'n myfyrwyr wedi cael eu dewis i gystadlu ar lefel ryngwladol ac wedi teithio i bencampwriaethau byd y Prifysgolion i gynrychioli tîm Prydain Fawr mewn athletau, rhwyfo a saethu. Mae hyn yn arwydd gwirioneddol o ansawdd a safon yr athletwyr sy’n astudio yma yn y Brifysgol."

Mae gan y Brifysgol draddodiad hir o ddarparu amrywiaeth o gyfleoedd ym myd chwaraeon i'w myfyrwyr, gan gynnwys rygbi, pêl-droed, hoci a phêl-rwyd, yn ogystal â chwaraeon llai traddodiadol megis korfball, frisbee eithaf a pholo canŵ.

Mae’r clybiau hefyd yn cael eu cydnabod am eu llwyddiant ym myd chwaraeon. Eleni, bu Clwb Hoci Merched Prifysgol Caerdydd yn cynrychioli Cymru ym Mhencampwriaethau clybiau hoci Ewrop, ac fe enillon nhw bob un o’r tair gêm grŵp yn Gibraltar. Clwb Futsal Prifysgol Caerdydd oedd y tîm cyntaf i ennill yng Nghynghrair a Chwpan Cymru yr un pryd, a byddant yn teithio i Moldofa ym mis Awst i gynrychioli clybiau Cymru yng nghynghrair pencampwyr Futsal UEFA. Bydd y Brifysgol hefyd yn cael ei chynrychioli yn y Gêmau Olympaidd yn Rio pan fydd y cynfyfyriwr diweddar Natalie Powell yn cystadlu i dîm Prydain mewn Jwdo.

Dywedodd Llywydd yr Undeb Athletaidd, Elin Harding: "Mae chwaraeon yn chwarae rôl bwysig ym mhrofiadau’r myfyrwyr tra byddant yn astudio yn y Brifysgol. Mae’r ymrwymiad a’r brwdfrydedd a welwyd gan y myfyrwyr yn ystod y flwyddyn ddiwethaf wedi talu ar ei ganfed wrth i ni gael cadarnhad ein bod yn safle 11 yn nhablau cynghrair BUCS. Rwy’n siŵr y bydd y llwyddiant yn parhau yn y tymor nesaf o chwarae gyda hyd yn oed mwy o dimau yn dod yn rhan o’r fframwaith BUCS, fel bod mwy o gyfleoedd chwarae ar gyfer ein myfyrwyr."