Ewch i’r prif gynnwys

Cefnogi Athletwyr Olympaidd yn Rio

27 Gorffennaf 2016

Rhys Shorney

Bydd Rhys Shorney, ffisiotherapydd o Brifysgol Caerdydd, yn cefnogi tîm nofio Olympaidd Prydain yn y Gemau Olympaidd yn Rio ym mis Awst.

Dywedodd Rhys: "A minnau wedi gweithio i Nofio Prydain, mae gennyf berthynas arbennig â hwy a Nofio Cymru, ac rwyf yn darparu gwasanaethau rheolaidd i'r ddau.

"Mae nofio yn chwaraeon pwysig yng Nghymru o safbwynt cyfranogiad torfol ac o ran y cystadlaethau mawr fel y Gemau Olympaidd a Gemau'r Gymanwlad. Edrychaf ymlaen at ddarparu cymorth drwy gydol y Gemau Olympaidd eleni a dymuno pob lwc i'n tîm."

Wedi graddio o Brifysgol Caerdydd, mae Rhys yn ddarlithydd yn Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd a hefyd yn arweinydd clinigol ar gyfer ei gwasanaeth anafiadau chwaraeon 'Ysbrydoli Perfformiad', ym Mhentref Chwaraeon Talybont ac sy'n arbenigo mewn rheoli anafiadau chwaraeon.

Rhys Shorney- Red Background

Roedd Rhys yn arfer gweithio i Nofio Prydain, yn helpu i edrych ar ôl yr uwch-dîm Prydain mewn gwersylloedd a chystadlaethau. Yn ystod y cyfnod hwnnw, aeth i ddwy bencampwriaeth byd gyda Nofio Prydain, Gemau'r Gymanwlad gyda Thîm Cymru, a chafodd ei ddewis i fynd i'r Gemau Olympaidd Llundain yn rhan o Dîm Prydain Fawr. Yn ogystal â'r cystadlaethau meincnod hyn, mae ef wedi mynychu sawl cystadleuaeth genedlaethol a rhyngwladol gyda'r tîm, gweithio gyda Chwaraeon Cymru a Nofio Anabledd Prydain a chynnal rôl arweiniol ffisiotherapi gyda Nofio Cymru.

Cynhelir Gemau Olympaidd Rio ym Mrasil rhwng 5 Awst a 21 Awst 2016. Mae pedwar nofiwr o Gymru wedi llwyddo i ennill lleoedd yn y garfan Olympaidd - ac mae dau ohonynt wedi'u lleoli yng Nghaerdydd.