Ewch i’r prif gynnwys

Ehangu’r ddarpariaeth iaith ar ôl blwyddyn lwyddiannus

4 Awst 2016

Welsh - Definition

Mae’r cynllun dysgu iaith, sy'n rhoi'r cyfle i fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd ddysgu'r Gymraeg ochr yn ochr â'u hastudiaethau yn rhad ac am ddim, ar fin ehangu ar ôl denu mwy o ddiddordeb na'r disgwyl.

Ers i Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, lansio'r fenter yn Eisteddfod Genedlaethol y llynedd, mae dros 200 o fyfyrwyr wedi dilyn y cwrs i ddechreuwyr o dan ofal Ysgol y Gymraeg.

Yn dilyn y llwyddiant hwn, bydd cyrsiau tebyg nawr yn cael eu cynnig ar lefelau Sylfaen, Canolradd ac Uwch o fis Hydref.

Caiff poblogrwydd Cymraeg i Bawb sylw mewn digwyddiad yn Eisteddfod Genedlaethol y Fenni, Sir Fynwy, ar 4 Awst eleni, rhwng 12:00 a 13:00.

Bydd y sesiwn yn gyfle i ystyried y cynnydd a’r cyraeddiadau a fu eleni trwy roi sylw i ymateb y myfyrwyr. Dangosir rhai clipiau o fyfyrwyr Cymraeg i Bawb gan gynnwys myfyriwr rhyngwladol yn y Gyfraith sydd bellach yn siarad y Gymraeg yn rhugl iawn.

Yn ystod y cyflwyniad, bydd grŵp o fyfyrwyr yn cymryd rhan mewn trafodaeth anffurfiol i sôn am eu profiadau o ddysgu Cymraeg yn y Brifysgol a sut y bydd eu sgiliau newydd yn eu helpu yn y dyfodol.

Dywedodd Angharad Naylor, Rheolwr Cymraeg i Bawb: “Mae cynnydd Cymraeg i Bawb wedi bod yn rhagorol. Mae'n wych gweld myfyrwyr mor frwdfrydig eisiau dysgu Cymraeg a datblygu eu gwybodaeth am yr iaith a'u hymwybyddiaeth o ddiwylliant Cymru.

"Edrychaf ymlaen at weithio gyda’r myfyrwyr y flwyddyn nesaf i ddatblygu'r ddarpariaeth er mwyn i lawer mwy o fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd gael profiad o'r Gymraeg a mwynhau ei dysgu."

Y flwyddyn nesaf, bydd Cymraeg i Bawb yn cynnig cyrsiau dwys a chyrsiau naw wythnos o hyd ar wahanol lefelau. Bydd hefyd amrywiaeth o adnoddau ar-lein yn cael eu defnyddio a’u datblygu er mwyn cynnig cyfleoedd i fyfyrwyr ymarfer y tu allan i’r dosbarth.

Ychwanegodd Dr Naylor: "Mae’r myfyrwyr wedi mwynhau'r gweithgareddau electronig a natur ryngweithiol y gwersi eleni, ac mae llawer o fyfyrwyr yn nodi bod y cwrs wedi rhoi'r cyfle iddynt ddatblygu sgiliau personol yn ogystal â sgiliau ieithyddol.

"Mae sawl un yn nodi hefyd iddynt fwynhau gwneud ffrindiau newydd a darganfod iaith a diwylliant newydd. Dywedodd llawer fod ganddynt fwy o hunanhyder ar ôl dilyn y cwrs, sy'n wych."

Y gobaith yw y bydd cynllun Cymraeg i Bawb yn parhau i ddatblygu yn ystod y flwyddyn nesaf gan ddarparu cyfleoedd a phrofiadau arbennig i fyfyrwyr ddysgu’r iaith ochr yn ochr â’u hastudiaethau.

Cynhelir yr Eisteddfod Genedlaethol eleni yn Nolydd y Castell, y Fenni, rhwng 29 Gorffennaf a 6 Awst.

Bydd pafiliwn y Brifysgol yn cynnal amrywiaeth eang o ddigwyddiadau gan gynnwys gweithgareddau i’r teulu, ffilmiau, cerddoriaeth, lluniaeth a chyswllt diwifr am ddim.

Bydd gwybodaeth ar gael am sut mae'r Brifysgol yn helpu i roi hwb i economi Cymru ac yn cefnogi cymunedau ledled y wlad.

Bydd nifer o ddigwyddiadau'n rhan o'r Haf Arloesedd i ddathlu gwaith arloesol y Brifysgol. Bydd yn dod â phobl o feysydd academaidd a diwydiant at ei gilydd i greu a chryfhau cysylltiadau a phartneriaethau.