Ewch i’r prif gynnwys

Dyfodol bwyd yng Nghymru

21 Gorffennaf 2016

Sheep in a field

Mae angen brys i ddatblygu gweledigaeth a strategaeth newydd ar gyfer y system fwyd yng Nghymru, yn ôl dau Athro ym Mhrifysgol Caerdydd.

Bu'r Athro Terry Marsden o'r Athrofa Ymchwil Lleoedd Cynaliadwy a'r Athro Kevin Morgan o'r Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio yn cydweithio â Sefydliad Polisïau Cyhoeddus Cymru (PPIW) i ystyried polisïau a chynlluniau gweithredu Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd ym maes bwyd.

Diben y strategaeth fwyd, a gyhoeddwyd yn 2010, oedd creu fframwaith cyffredin ar gyfer y sector bwyd yng Nghymru.

Fodd bynnag, daeth yr ymchwilwyr o hyd i wendidau a rhwystrau o ran llywodraethu polisïau bwyd yng Nghymru, gan gynnwys diffyg ymgysylltu â rhanddeiliaid, dim digon o sylw i dlodi bwyd, a bod cylch gorchwyl y strategaeth fwyd wedi'i gyfyngu.

Dadleua'r awduron bod hyn, ynghyd â dealltwriaeth well o'r ffactorau rhyng-gysylltiol sy'n sylfaen i systemau bwyd cynaliadwy, yn golygu bod angen polisi bwyd  integredig a hyfyw fwy nag erioed o'r blaen.

Mae argymhellion yr awduron yn eu hadroddiad yn cynnwys:

  • Sicrhau bod diet cynaliadwy yn ganolog i bolisïau bwyd a maeth trwy fabwysiadu ymyriadau iechyd cyhoeddus llwyddiannus megis ‘Food for Life’, a rhoi hwb i brosesau caffael ac arlwyo yn y sector cyhoeddus;
  • Cefnogi ffermwyr i gynhyrchu cynnyrch bwyd sy’n llai dwys, yn fwy cynaliadwy, ac o ansawdd uwch drwy gyfresi mwy amrywiol o gadwyni cyflenwi;
  • Rhagor o fuddsoddi yn strwythur ‘y canol coll’ yn y gadwyn darparu bwyd;
  • Gwneud cynnydd o ran ymchwil, datblygu ac ehangu ar gynhyrchu cynaliadwy a systemau cymeriant;
  • Ehangu garddwriaeth

Dywed yr awduron: “Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae pobl wedi dod yn fwy ymwybodol o sut mae polisïau bwyd yn helpu gydag amcanion polisïau ehangach a lles yn gyffredinol. Bu pryder cynyddol, er enghraifft, ynghylch tlodi bwyd, diet gwael a’r gostyngiad yn nifer y busnesau fferm annibynnol.

"Mae hyn yn golygu bod dull cynhwysfawr a chyfannol o ymdrin â pholisi bwyd yn bwysicach nag erioed o’r blaen, a bod galw am weledigaeth glir wedi'i hategu gan gamau gweithredu i sicrhau diet mwy iachus a chynaliadwy i bawb, a monitro cynnydd o ran cyflawni hyn.

Cafodd yr adroddiad, Food Policy as Public Policy: A Review of the Welsh Government’s Food Strategy and Action Plan, ei gomisiynu gan y Cyn-weinidog ar gyfer Adnoddau Naturiol a’r Cyn-ddirprwy Weinidog ar gyfer Ffermio a Bwyd.

Sefydlwyd y Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru (PPIW) ym mis Ionawr 2014 i roi cyngor a dadansoddiad awdurdodol annibynnol i Lywodraeth Cymru. Y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol, a Llywodraeth Cymru, sy'n ariannu'r Sefydliad, a chynhelir y digwyddiad ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae'n ceisio defnyddio tystiolaeth i wella polisi ac arfer da yng Nghymru a thu hwnt.