Prifysgol Caerdydd yn arwain ar un o bum canolfan i greu dyfodol cynaliadwy ar gyfer gweithgynhyrchu
16 Mai 2024
Bydd Prifysgol Caerdydd yn derbyn rhan o werth £99 miliwn o gyllid i arwain ar ganolfan gweithgynhyrchu lled-ddargludyddion cyfansawdd newydd.
Nod y ganolfan yw manteisio ar y cyfle enfawr o gynhyrchu lled-ddargludyddion cyfansawdd sydd wedi’i nodi yn strategaeth lled-ddargludyddion cenedlaethol y DU.
Bydd yr ymchwilwyr yn datblygu optoelectroneg effeithlon o ran ynni i'w defnyddio mewn technolegau sy'n dod i'r amlwg allweddol, megis technoleg cwantwm, y rhwydwaith 6G, synwyryddion ar gyfer cerbydau heb yrwyr, rhyngrwyd pethau a chyfathrebu lloerenni.
Un o brif amcanion y ganolfan fydd ehangu manteision amgylcheddol lled-ddargludyddion cyfansawdd. Byddan nhw’n cynnal eu hymchwil mewn ffordd sy'n ystyriol o’r amgylchedd, yn datblygu prosesau gweithgynhyrchu newydd ac yn creu dyfeisiau newydd sy'n effeithlon o ran ynni.
Dywedodd yr Athro Peter Smowton, arweinydd canolfan Caerdydd a Rheolwr Gyfarwyddwr Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd, Prifysgol Caerdydd: "Mae'r dyfarniad hwn yn gadarnhad o'n gweledigaeth i sefydlu'r DU fel y brif ganolfan ymchwil a gweithgynhyrchu fyd-eang ar gyfer technolegau lled-ddargludyddion cyfansawdd. Bydd hyn yn ehangu’r Clwstwr Lled-ddargludyddion yma yn Ne Cymru a gafodd ei gychwyn gan ein Hwb Gweithgynhyrchu Cyngor Ymchwil Peirianneg a'r Gwyddorau Ffisegol (EPSRC) blaenorol."
Mae'r pum canolfan ymchwil gweithgynhyrchu yn derbyn cefnogaeth EPSRC, sy'n rhan o gorff Ymchwil ac Arloesi’r DU, gyda buddsoddiad gwerth £55 miliwn, a bydd pob canolfan yn derbyn £11 miliwn.
Mae cyfraniadau gan bartneriaid, arian parod a nwyddau a gwasanaethu yn golygu mai cyfanswm y cymorth sydd wedi'i ymrwymo i'r hybiau newydd yw £99.3 miliwn.
Nod y canolfannau yw mynd i'r afael ag ystod eang o heriau wrth fasnacheiddio ymchwil yn y camau cynnar mewn gwahanol sectorau gweithgynhyrchu, a hynny drwy leihau gwastraff, dod o hyd i ddewisiadau amgen i ddeunyddiau drud neu niweidiol i'r amgylchedd, a chyflymu prosesau.
Gan weithio gyda phartneriaid yn y diwydiant, bydd yr ymchwilwyr hefyd yn trin a thrafod y gwahanol lwybrau i weithgynhyrchu, gan gynnwys cynyddu cynhyrchu ac integreiddio yn rhan o system ehangach y diwydiant.
Mae datblygiadau ym maes cynaliadwyedd amgylcheddol o ran prosesau gweithgynhyrchu hefyd yn ganolbwynt i'r hybiau, sy'n gobeithio hybu'r economi trwy arbedion effeithlonrwydd megis lleihau gwastraff, allyriadau a llygredd, a lleihau costau cynhyrchu.
Dywedodd Cadeirydd Gweithredol EPSRC, yr Athro Charlotte Deane: "O ystyried maint a phwysigrwydd sector gweithgynhyrchu'r DU, mae'n rhaid i ni sicrhau ei fod yn gallu elwa'n llawn o ddatblygiadau rydyn ni’n eu gwneud ym maes ymchwil ac arloesi.
"Gan ganolbwyntio ar arloesi a chynaliadwyedd, bydd datblygiadau’r canolfannau o fudd i sectorau penodol, y sector gweithgynhyrchu a'r economi ehangach, yn ogystal â'r amgylchedd."
Bydd ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd hefyd yn cefnogi'r ganolfan Cemegau a Gweithgynhyrchu Deunyddiau Cynaliadwy (SCHEMA) dan arweiniad Prifysgol Rhydychen a'r ganolfan Metroleg Uwch ar gyfer Gweithgynhyrchu Cynaliadwy dan arweiniad Prifysgol Huddersfield.
Bydd yr Athro Graham Hutchings a Syr Richard Catlow o Ysgol Cemeg Prifysgol Caerdydd yn rhoi benthyg eu harbenigedd i ganolfan SCHEMA.
Mae ei hymchwil yn canolbwyntio ar drawsnewid y ffordd y caiff cemegau a pholymerau eu dylunio, eu gwneud a'u hailgylchu, a chefnogi'r broses o bontio oddi wrth ddefnyddio petrocemegau crai a chynyddu cyfraddau ailgylchu.
Maes allweddol iddi fydd dylunio prosesau a all gynhyrchu cemegau a pholymerau o ddeunyddiau crai adnewyddadwy megis biomas, carbon deuocsid a hyd yn oed gwastraff diwydiannol, ac integreiddio ynni adnewyddadwy i beiriannu’r broses.
Dywedodd yr Athro Hutchings: “Mae cyflawni sero net yn y cemegyn yn rhan enfawr o'r pos o wneud prosesau gweithgynhyrchu yn gynaliadwy.
“Mae hyn oherwydd bod prosesau cemegol yn sail i gymaint o'r cynhyrchion a'r technolegau sy'n rhan o’r farchnad ar y foment.
Y canolfannau eraill a gafodd eu cyhoeddi yw:
- Canolfan MediForge dan arweiniad Prifysgol Strathclyde
- Canolfan Ymchwil Gweithgynhyrchu ym maes Gweithgynhyrchu Awtomeiddio Cylchol Cynaliadwy Wedi’i Alluogi gan Adnoddau (RESCu-M) dan arweiniad Prifysgol Birmingham