Ewch i’r prif gynnwys

Deall budreddi Carthffosydd Cyfunol sy’n gorlifo

19 Chwefror 2024

Dŵr môr budr

Mae ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd yn galw am waharddiad ar fflysio cadachau gwlyb i lawr y toiled, a hynny i geisio atal carthion amrwd rhag cael eu gollwng i ddyfroedd y DU.

Mae tîm o ecolegwyr, peirianwyr, mathemategwyr, ac economegwyr o bob rhan o'r Brifysgol wedi bod yn gweithio gyda'i gilydd i ddechrau mynd i'r afael â’r heriau yn sgil Carthffosydd Cyfunol sy’n gorlifo a charthion sy’n gollwng, gan awgrymu strategaethau yn y byr a’r hirdymor i sicrhau dyfroedd glanach yn y DU yn y dyfodol.

Yn ogystal â gwaredu cadachau gwlyb, mae'r tîm hefyd yn awgrymu defnyddio llai o ddŵr, gwell cynlluniau monitro a buddsoddiadau newydd.

Dyma a ddywedodd Dr William Perry, ecolegydd yn Sefydliad Ymchwil Dŵr Prifysgol Caerdydd: “Yn aml, bydd systemau dŵr gwastraff yn Ewrop sy’n heneiddio yn cyfuno carthion domestig â dŵr ffo arwyneb a dŵr gwastraff diwydiannol. Er mwyn lleihau'r risg yn sgil gorlwytho gwaith trin dŵr gwastraff yn ystod stormydd, ac i atal dŵr gwastraff rhag cronni mewn eiddo, dylunnir Carthffosydd Cyfunol sy’n gorlifo yn rhan o rwydweithiau dŵr gwastraff i ryddhau dŵr gwastraff dros ben sydd heb ei drin i afonydd neu ddyfroedd arfordirol.

“Rydyn ni’n deall pryder y cyhoedd ynghylch yr effeithiau posibl ar amgylcheddau a phobl yn sgil y gorlifoedd hyn, felly mae’n rhaid inni ddeall yr effeithiau hyn yn well er mwyn dod o hyd i atebion cost-effeithiol.

“Er mai mater dybryd iawn yw hwn, mae llawer o hyd yn anhysbys am faint o ddŵr gwastraff sy'n cael ei ollwng, beth sydd yn y dŵr gwastraff hwnnw, a'r effaith y mae'n ei gael ar iechyd pobl, ecosystemau, a'r economi.”
Dr William Perry Research Associate

Aeth y tîm ati i ddeall y materion ynghlwm ac i ddatblygu cynllun i helpu i ddiogelu systemau carthion yn y dyfodol, gan atal carthion rhag cael eu gollwng i ddyfroedd y DU. Adolygon nhw’r ymchwil flaenorol ar Garthffosydd Cyfunol sy’n gorflifo a chanfuwyd diffyg amcangyfrifon, monitro ac astudiaethau y mae eu dybryd angen.

Daethon nhw i’r casgliad bod dybryd angen amcangyfrifo’n well faint o garthion sy’n cael eu gollwng a beth sydd ynddo. Ar ben hynny, mae mawr angen astudiaethau cynhwysfawr ar effaith Carthffosydd Cyfunol sy’n gorlifo.

Dyma a ddywedodd Dr Perry: “Aethon ni ati i adolygu'r risg go iawn y mae pobl ac ecosystemau yn ei hwynebu yn sgil Carthffosydd Cyfunol sy’n gorlifo. Ond daethon ni i’r casgliad bod ein dealltwriaeth yn gyfyngedig i'r fath raddau, oherwydd diffyg data a monitro, nad yw'n ymarferol ar hyn o bryd asesu mewn ffordd briodol y risg y mae pobl ac ecosystemau yn ei hwynebu yn sgil Carthffosydd Cyfunol sy’n gorlifo.

“Mae'n hollbwysig bod rhagor o fonitro’n digwydd. Mae mynd i'r afael â'r bylchau hyn yn ein gwybodaeth yn hollbwysig os ydyn ni eisiau blaenoriaethu buddsoddiadau a lliniaru risgiau.”

Datblygodd yr ymchwilwyr awgrymiadau o ran atebion yn y byr a’r hirdymor i fynd i'r afael â Carthffosydd Cyfunol sy’n gorlifo. Ymhlith yr atebion yn y tymor byr roedd gwella monitro a deall canlyniadau gollyngiadau. Amlygodd eu strategaethau tymor hir fod newidiadau sylfaenol wedi bod yn y gwaith o reoli dŵr gwastraff mewn ffordd gyfannol ac ymyrryd i fyny'r afon er mwyn lleihau’r gwastraff sy'n mynd i mewn i garthffosydd. Mae hyn yn gofyn am ymdrechion ar y cyd a newidiadau systemig, gan gynnwys ystyried dewisiadau datganoledig eraill yn lle systemau dŵr gwastraff traddodiadol.

“Yn aml, nodir bod cost yn ffactor sy’n cyfyngu ar wella seilwaith carthffosiaeth, ond bydd ymyraethau sy’n atal carthffosydd rhag gorlifo a gollwng yn arwain at enillion yn yr hirdymor. Fodd bynnag, hyd yn oed heb fuddsoddiad o bwys, mae ein hymchwil yn amlinellu'r angen am newidiadau mewn polisi ac ymddygiad defnyddwyr.”
Yr Athro Max Munday Director of Welsh Economy Research Unit

Mae'r ymchwilwyr yn awgrymu y byddai gwahardd cadachau gwlyb, er enghraifft, yn helpu i atal gollyngiadau carthion yn sgil pibellau sy’n cael eu rhwystro tra hefyd yn lleihau llygredd plastig. Maen nhw hefyd yn tynnu sylw at bwysigrwydd ymgysylltu â defnyddwyr i’w hargymell i ddefnyddio llai o ddŵr er mwyn lleihau’r llwyth ar y rhwydwaith carthffosiaeth.

“Ar hyn o bryd mae gan y DU un o’r cyfraddau defnyddio dŵr uchaf y pen yn Ewrop, ond dim ond hyn a hyn o’r ffordd y bydd newidiadau yn ymddygiad defnyddwyr yn arwain ato. Er mwyn diogelu ein systemau carthffosiaeth at y dyfodol ac atal carthion amrwd rhag gollwng, mae angen buddsoddi ar fyrder, ac mae angen arloesi ar draws y system garthffosiaeth gyfan ac nid dim ond y mannau hynny lle mae carthffosydd cyfunol yn all-lifo."
Yr Athro Isabelle Durance Darllenydd a Chyfarwyddwr y Sefydliad Ymchwil Dŵr

“Bydd angen hefyd gyfrifoldebau cymdeithasol ehangach ym maes dŵr gwastraff a moneteiddio costau a manteision yr atebion yn well,” ychwanegodd yr Athro Isabelle Durance, Cyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil Dŵr Prifysgol Caerdydd.

Rhannu’r stori hon