Ewch i’r prif gynnwys

Lansio Cynllun Ysgoloriaethau Gwerth Cyhoeddus (Rhaglenni MBA)

18 Ebrill 2024

Mae Ysgol Busnes Caerdydd yn falch iawn o gyhoeddi cynllun Ysgoloriaeth Gwerth Cyhoeddus newydd (Rhaglenni MBA) sy’n cynnig cyllid sylweddol i weithwyr proffesiynol uchelgeisiol sydd am ymuno â ni i arwain newid busnes cadarnhaol.

Mae’r cynllun Ysgoloriaethau Gwerth Cyhoeddus (Rhaglenni MBA) yn cydnabod yr ymgeiswyr rhagorol hynny sy’n rhannu ethos ac uchelgeisiau’r Brifysgol i sicrhau gwerth cyhoeddus ac sydd hefyd am gymryd y cam nesaf yn eu gyrfa drwy astudio ar gyfer gradd MBA yn Ysgol Busnes Caerdydd.

Mae ysgoloriaethau o £7,500 ar gael i ymgeiswyr sy’n symud ymlaen yn llwyddiannus drwy’r broses dderbyn ac yn cofrestru fel myfyriwr ar un o’n rhaglenni MBA canlynol:

  • MBA Caerdydd (llawn amser)
  • MBA Caerdydd (rhan-amser)
  • MBA Caerdydd gyda Deallusrwydd Artiffisial

Gan groesawu ethos Gwerth Cyhoeddus Ysgol Busnes Caerdydd, mae ein rhaglenni MBA yn edrych ar effaith economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol busnes. Rydym am ddod â dyngarwch, cynaliadwyedd, haelioni ac arloesedd i’r sector busnes.

Mae ein rhaglen yn addas i weithwyr proffesiynol sy'n chwilio am brofiad heriol a fydd yn eu paratoi at fod yn uwch-arweinydd sy'n gyrru newidiadau cadarnhaol mewn busnes yn eu blaen. Mae'r cynllun ysgoloriaethau newydd yn cydnabod ymgeiswyr sy'n rhannu ein hethos a'n huchelgeisiau Gwerth Cyhoeddus.

Sut i wneud cais am ysgoloriaeth

Nid oes angen cyflwyno cais ar wahân am ysgoloriaeth. Byddwn ni’n asesu a ydych chi’n addas i gael Ysgoloriaeth Gwerth Cyhoeddus yn rhan o’r broses derbyn myfyrwyr ar gyfer rhaglenni MBA. Bydd ysgoloriaethau'n cael eu cymhwyso fel gostyngiad ffioedd dysgu pan fydd ymgeiswyr yn cofrestru fel myfyriwr.

Am ragor o wybodaeth ac i weld ein telerau ac amodau ewch i'n gwefan.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â'n tîm derbyniadau ymroddedig: MBA-Enquiries@caerdydd.ac.uk

Archwiliwch ein rhaglenni MBA

Gweinyddu Busnes (MBA)

Ewch i’r afael â heriau arwain ac ystyried effaith economaidd, gymdeithasol ac amgylcheddol busnesau byd-eang.

Athro mewn Gweinyddiaeth Fusnes (MBA)

Taclwch heriau arweinyddiaeth ac ystyried effaith economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol busnes byd-eang ar ein rhaglen MBA hyblyg a rhan-amser.

Gweinyddu Busnes gyda Deallusrwydd Artiffisial (MBA)

Mae’r rhaglen ar gyfer pobl brofiadol mewn technoleg neu waith addas a hoffai dreulio cyfnod o astudio a datblygu personol i’w helpu i gyrraedd rolau arweinyddion uchelradd yn gyflymach.

Rhannu’r stori hon