Ewch i’r prif gynnwys

Ymestyn gostyngiad i gynfyfyrwyr ar gyfer astudiaethau ôl-raddedig

22 Mawrth 2024

Postgraduate students chatting

Gall cyn-fyfyrwyr nawr dderbyn gostyngiad o 20% oddi ar ffioedd dysgu ar raglenni meistr cymwys.

Mae'r gostyngiad cyn-fyfyrwyr ar astudiaethau ôl-raddedig wedi'i ymestyn i gynnig 20% oddi ar ffioedd i fyfyrwyr cartref, rhyngwladol ac Ewropeaidd.

Cyn hynny, roedd cyn-fyfyrwyr y DU yn gallu hawlio gostyngiad o £1,000 a chyn-fyfyrwyr rhyngwladol £2,000, wrth ddychwelyd i astudio yng Nghaerdydd. Bydd y gostyngiad gwell newydd hwn yn cynnig 20% oddi ar ffioedd myfyrwyr ôl-raddedig y DU ar raddau meistr ôl-raddedig a addysgir amser llawn a rhan-amser.  

Mae tua 40% o fyfyrwyr ôl-raddedig yn gyn-fyfyrwyr. Fodd bynnag mae'r argyfwng costau byw, yn ogystal ag effaith barhaol COVID ar economïau ledled y byd, yn golygu nad yw astudiaethau ôl-raddedig yn fforddiadwy i lawer. Yng Nghymru, mae lefel y cymorth ariannol sydd ar gael wedi’i ostwng ymhellach, gyda grantiau ôl-raddedig a ariennir gan Lywodraeth Cymru wedi’u tynnu’n ôl yn ddiweddar.

Mae'n wych bod ein cyn-fyfyrwyr yn cydnabod yr addysgu rhagorol sydd ar gael yng Nghaerdydd ac eisiau parhau i ddysgu gyda ni. Rydym yn ymwybodol bod hwn yn gyfnod anodd i lawer o bobl, felly rydym yn falch o allu helpu i leddfu rhwystrau ariannol i astudiaethau pellach a’u gwneud yn hygyrch i hyd yn oed mwy o raddedigion Prifysgol Caerdydd.
Yr Athro Damian Walford Davies Y Dirprwy Is-Ganghellor

Mae'r gostyngiad i gynfyfyrwyr ar gael i fyfyrwyr graddedig Prifysgol Caerdydd sy'n bwriadu dechrau gradd Meistr gymwys yn 2024/25. Rhagor o wybodaeth am y gostyngiad a'r meini prawf o ran bod yn gymwys.

Rhannu’r stori hon

Byddwch yn rhan o gymuned ôl-raddedig sy'n ffynnu, mewn Prifysgol a adnabyddir yn rhyngwladol ar gyfer ymchwil ac addysg.