Ewch i’r prif gynnwys

14eg safle yn y Deyrnas Unedig ar gyfer Rhagolygon Graddedigion

28 Medi 2023

5 graduates in graduation gowns walking towards the camera

Yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd The Times and The Sunday Times eu Good University Guide 2024 lle gwnaethon ni gadw'r safle cyntaf yng Nghymru ar gyfer Rhagolygon Graddedigion gan ennill sgôr o 87.2%, sef y sgôr uchaf inni ei chael erioed.

Rydyn ni mewn sefyllfa gref o hyd yn y pedwerydd safle ar ddeg ar gyfer y metrig hwn, gan godi tri lle o safle y llynedd.

Ni hefyd oedd y cyntaf yng Nghymru ar gyfer rhagolygon graddedigion ym mhob un o brif dablau cynghrair eraill y DU eleni.

Diolch yn fawr i bawb sy'n ymwneud â chefnogi casglu data graddedigion a gwaith tîm Dyfodol Myfyrwyr ac arweinwyr cyflogadwyedd eraill.

Rhannu’r stori hon

Bydd Caerdydd gyda chi am byth. Cadwch mewn cysylltiad â'r Brifysgol a byddwch yn rhan o'n cymuned fyd-eang o gyn-fyfyrwyr.