Canolfan iechyd digidol newydd yn lansio ar gyfer Cymru a De-orllewin Lloegr
14 Mawrth 2024
Bydd ymchwilwyr Prifysgol Caerdydd yn cynnig eu harbenigedd i ganolfan iechyd digidol newydd i Gymru a De-orllewin Lloegr.
Nod canolfan LEAP (‘Leadership, Engagement, Acceleration and Partnership’ yn Saesneg) yw dod ag anghenion iechyd a gofal heb eu diwallu i’r golwg a chreu prosiectau ymchwil cydweithredol newydd sy'n dod â’r diwydiant, y byd academaidd, cleifion, gofalwyr a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ynghyd.
Bydd rhaglen sgiliau a gwybodaeth hefyd yn gweld y ganolfan yn cyflwyno portffolio o hyfforddiant i ddysgwyr rhan-amser proffesiynol yn y gymuned iechyd digidol.
Trwy ymgysylltu â chymunedau lleol, sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol y rhanbarth a phartneriaid diwydiannol yn genedlaethol, bydd LEAP yn ceisio arwain a llywio'r agenda rhyngwladol ym maes iechyd digidol.
Bydd tîm Prifysgol Caerdydd, sy’n cynnwys ymchwilwyr o’r Ysgol Mathemateg ac Ysgol Busnes Caerdydd, yn cyfrannu arbenigedd mewn gweithrediadau gwasanaethau ac ymchwil weithredol fel y'i cymhwysir ym maes gofal iechyd.
Dywedodd yr Athro Paul Harper o Ysgol Mathemateg Prifysgol Caerdydd: “Rydym yn falch iawn o fod yn aelodau o LEAP, a fydd yn darparu cyfleoedd heb eu hail i ymarferwyr ac ymchwilwyr ledled Cymru ddatblygu a chryfhau sgiliau ac ymchwil ym maes iechyd digidol.”
A hwythau’n credu’n gryf mewn gwella prosesau ar sail dadansoddeg o fewn prosiectau iechyd digidol a modelu mathemategol, eu nod yw pwysleisio cysyniadau dadansoddeg gofal iechyd ar gyfer gwneud penderfyniadau strategol, tactegol a gweithredol fel ei gilydd, gan gwmpasu gwasanaethau gofal wedi'u trefnu a heb eu trefnu a gwasanaethau gofal eraill.
Ychwanegodd yr Athro Daniel Gartner o Ysgol Mathemateg Prifysgol Caerdydd: “Byddwn yn cyfrannu at feysydd ymchwil pwysig ar drawsnewid gofal iechyd ac ehangu gofal y tu hwnt i leoliadau ysbyty traddodiadol, yn ogystal â gwella dadansoddeg rhagfynegol a rhagnodol ym maes gofal iechyd.”
Wedi'i hariannu gan Gyngor Ymchwil y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg (EPSRC), mae'r ganolfan gwerth £4.11 miliwn yn cael ei harwain gan Brifysgol Bryste ac mae'n dwyn ynghyd arbenigedd o brifysgolion blaenllaw'r rhanbarth, gan gynnwys Prifysgol Caerfaddon, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Caerwysg, Ymchwil Data Iechyd y DU a Phrifysgol Gorllewin Lloegr.
Ochr yn ochr â'i bartneriaid sefydliadol, mae rhwydwaith partneriaeth LEAP yn ymestyn i 21 o gwmnïau cefnogi, saith Ymddiriedolaeth a Bwrdd Iechyd y GIG, pedwar sefydliad gofal cymdeithasol, pum awdurdod lleol, Health Innovation West of England a'r ganolfan meithrin busnesau SETsquared.
Dywedodd yr Athro Maneesh Kumar o Ysgol Busnes Caerdydd: “Gyda chonsortiwm o dros 50 o bartneriaid, nid prosiect yn unig yw LEAP; mae'n ymrwymiad i roi hwb i allu iechyd digidol ein rhanbarth.
“Rwy'n edrych ymlaen at lywio hynt LEAP i ofal iechyd trawsnewidiol, dadansoddeg rhagfynegol ac ymchwil sy'n canolbwyntio ar y gymuned yn rhan o garfan o ymarferwyr Prifysgol Caerdydd.
“Dyma edrych ymlaen at ddyfodol iachach a mwy cysylltiedig!”