Ewch i’r prif gynnwys

Caerdydd yn ymuno â chanolfan sy’n werth £2.6 miliwn i hyfforddi cenhedlaeth newydd o arbenigwyr adnoddau mwynau

7 Mawrth 2024

Llawer o bobl yn gwisgo festiau gwelededd uchel yn archwilio ffos fforio yng Nghanada
Mae tîm o ddaearegwyr sy’n cynnwys myfyrwyr doethurol Caerdydd yn archwilio ffos fforio sydd wedi cael ei datguddio i ddangos mwyneiddiad nicel a chopr ger Sudbury, Canada

Bydd ymchwilwyr academaidd ac ymarferwyr yn y diwydiant yn hyfforddi cenhedlaeth newydd o arbenigwyr adnoddau mwynau i gefnogi’r broses o drosglwyddo’r DU i ynni cynaliadwy ar ôl sicrhau cyllid gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol (NERC), sy’n rhan o Ymchwil ac Arloesi yn y DU (UKRI).

Mae Prifysgol Caerdydd yn un o chwe phartner academaidd, a bydd yn cael cyfran o £2.6 miliwn i gefnogi’r Grŵp Hyfforddiant ac Ymchwil ar gyfer Adnoddau Mwynol Trawsnewid i Ynni Adnewyddadwy (TARGET) – canolfan aml-sefydliad ar gyfer hyfforddiant doethurol i fynd i’r afael ag anghenion sgiliau ac ymchwil y DU.

Dan arweiniad Prifysgol Caerlŷr, mae TARGET yn un o bedair canolfan newydd a ariennir gan NERC a fydd yn cyfuno prosiectau ymchwil doethurol gyda rhaglen hyfforddi amlddisgyblaethol i ddarparu sgiliau o ran chwilio am fwynau, prosesu, cyllid, polisi a chynaliadwyedd ar bob cam o ddefnydd mwynau – o graig yn y ddaear i ddiwedd oes ddefnyddiol cynnyrch.

Meddai’r Athro Iain McDonald, arweinydd TARGET Prifysgol Caerdydd o Ysgol Gwyddorau’r Ddaear a’r Amgylchedd: “Mae TARGET wedi deillio o strategaeth mwynau hollbwysig llywodraeth y DU a’r gydnabyddiaeth, er y bydd angen mwy o gyflenwadau o fetelau arnom i gyflawni’r trawsnewid ynni, fod angen gwneud hyn yn effeithlon a chyda’r effaith amgylcheddol a chymdeithasol leiaf bosibl.”

Bob blwyddyn, cynhyrchir dros 3 biliwn tunnell o fetelau o adnoddau mwynol, sy'n sail i gymdeithas. Hebddynt, ni fyddai unrhyw seilwaith, diwydiant na thechnoleg.

Mae trawsnewidiad y DU i gynhyrchu a defnyddio ynni adnewyddadwy – trwy dyrbinau gwynt, paneli solar a cherbydau trydan – yn cynyddu'r galw am adnoddau mwynau.

Mae rhai'n cael eu hystyried yn 'hanfodol' – yn economaidd bwysig ond gyda chadwyni cyflenwi heriol sy'n agored i darfu.

Bydd arbenigedd cynyddol mewn adnoddau mwynol hanfodol yn helpu i ddatblygu cyflenwad diogel a chynaliadwy.

Mae’r rhain yn heriau anodd ond bydd yr ymchwil a’r hyfforddiant a fydd yn cael eu meithrin gan raglen TARGET yn creu cenhedlaeth newydd o weithwyr proffesiynol medrus iawn a fydd yn cyfrannu at eu datrys.

Dr Iain McDonald Senior Lecturer

Bydd hyfforddiant TARGET yn cael ei arwain gan gymysgedd o ymchwilwyr academaidd ac ymarferwyr yn y diwydiant.

Mae rhiant-sefydliadau’r ganolfan yn cynnwys rhai o'r cwmnïau byd-eang pwysicaf ym meysydd mwyngloddio, dadansoddi mwynau, safonau amgylcheddol, a chyllid.

Meddai’r Athro Peter Liss, Cadeirydd Gweithredol Interim NERC: “Bydd y buddsoddiad hwn gan NERC yn rhoi’r sgiliau technegol a phroffesiynol i’r genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr gwyddor yr amgylchedd i fynd i’r afael â rhai o’r heriau mwyaf sylweddol a wynebir gan y Deyrnas Unedig ac yn fyd-eang.”

Bydd TARGET yn gweithredu ochr yn ochr â rhaglenni UKRI eraill, gan gynnwys y rhaglen CLIMATES sy’n werth £15 miliwn a ddarperir gan Innovate UK, gan hybu cylchogrwydd prinfwynau, i ddarparu cyfleoedd i ddiwydiant ac ymchwil yn y Deyrnas Unedig wella’r cyflenwad cyfrifol o fwynau.

Ychwanegodd Andrew Griffith, y Gweinidog Gwyddoniaeth, Ymchwil ac Arloesi: “Mae cefnogi ein myfyrwyr disgleiriaf i fynd i’r afael â materion mor hanfodol â llifogydd a diogelu ansawdd ein dŵr yn fuddsoddiad mewn amddiffyn tirwedd y DU, wrth amddiffyn ein planed a’r adnoddau sydd eu hangen arnom i gyflawni bywydau iachach a mwy llewyrchus i ni i gyd.

“Gyda mwy na £10m o gyllid dros y blynyddoedd i ddod, bydd hefyd yn helpu i uwchsgilio myfyrwyr o ran ymchwil gwerth uchel, a fydd yn tyfu economi’r DU ac yn sicrhau ein bod yn cyflawni potensial y dalent sydd ar led drwy gydol ein gwlad.”

Gellir dysgu mwy am Ganolfan TARGET, sy'n recriwtio ei charfan gyntaf o ymchwilwyr i ddechrau ym mis Hydref 2024.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol wedi ymrwymo i sicrhau’r safonau uchaf mewn ymchwil ac addysg ac – o dan arweiniad ymchwil – i ddarparu amgylchedd cyfoethog ac amrywiol.