Ewch i’r prif gynnwys

Salwch meddwl yn cael y prif sylw yng Nghynhadledd Flynyddol Sefydliad Waterloo

30 Hydref 2023

Yr Athro Lawrence Wilkinson (Cyd-gyfarwyddwr Arweiniol y Sefydliad Arloesi Niwrowyddoniaeth ac Iechyd Meddwl), Heather Stevens (Ymddiriedolwr Sefydlol Sefydliad Waterloo, yr Athro Louise Arseneault (Athro Seicoleg Ddatblygiadol yng Ngholeg y Brenin Llundain), yr Athro Jeremy Hall (Cyd-gyfarwyddwr y Sefydliad Arloesi Niwrowyddoniaeth ac Iechyd Meddwl), a'r Athro Adrian Harwood (Cyd-gyfarwyddwr y Sefydliad Arloesi Niwrowyddoniaeth ac Iechyd Meddwl)

Roedd yn bleser gan y Sefydliad Arloesedd Niwrowyddoniaeth ac Iechyd Meddwl gynnal cyfarfod blynyddol Sefydliad Waterloo gyda dros 120 o bobl yn bresennol.

Canolbwyntiodd y gynhadledd, a gynhaliwyd ar 12 Hydref yn Adeilad Hadyn Ellis y Brifysgol, ar bwnc 'Iechyd meddwl: o'ch amgylchedd mewnol i'ch byd allanol'. Roedd yn cynnwys cyflwyniadau difyr gan arbenigwyr academaidd ac o’r trydydd sector o bob rhan o’r DU. Roedd y gwesteion yn cynnwys academyddion prifysgol, ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa, myfyrwyr o Ysgol Uwchradd yr Eglwys yng Nghymru Teilo Sant, a Heather a David Stevens, sef sylfaenwyr Sefydliad Waterloo.

Dechreuodd Dr Anna Watson, Cyfarwyddwr Polisïau ac Eiriolaeth yn Ymddiriedolaeth CHEM, y gynhadledd drwy amlinellu cenhadaeth y sefydliad i ddiogelu bywyd gwyllt a bodau dynol rhag cemegau peryglus. Tynnodd sylw at adroddiad a gyhoeddwyd yn 2017 am beryglon aflonyddwyr endocrin mewn bwyd a chynhyrchion defnyddwyr, yn enwedig eu heffeithiau andwyol ar ddatblygiad ymennydd plant. Pwysleisiodd Dr  Watson ddylanwad yr adroddiad, gan nodi bod y newidiadau o ran polisïau fel Strategaeth Cemegau yr UE ar gyfer Cynaliadwyedd a rheoliadau newydd ar aflonyddwyr endocrin, yn ddeilliannau arwyddocaol ac yn amlygu effaith cyrff anllywodraethol ar newid polisïau.

Trafododd Dr William Bird, Prif Swyddog Gweithredol Intelligent Health, ddeilliannau negyddol ynysu cymdeithasol ac unigrwydd. Siaradodd o blaid presgripsiynu cymdeithasol i alluogi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i argymell gwasanaethau anghlinigol fel garddio a gweithgareddau celf i fynd i’r afael ag unigrwydd a’i anawsterau iechyd cysylltiedig. Pwysleisiodd fanteision bod yn egnïol a threulio amser mewn mannau gwyrdd fel dulliau amgen o leihau straen, gan leihau’r ddibyniaeth ar feddyginiaethau costus.

Trafododd yr Athro Gordon Harold o Brifysgol Sussex gymhlethdodau iechyd meddwl pobl ifanc yn yr oes ddigidol. Wrth sôn am faich economaidd iechyd meddwl gwael ac effaith gwrthdaro rhwng rhieni ar blant, bu’n trafod dylanwad defnydd digidol a chyfryngau cymdeithasol ar iechyd meddwl, gan alw am ragor o ymchwil i ddeall yr agwedd hanfodol hon ar lwyddiant bywyd.

Cyflwynwyd dealltwriaeth hollbwysig yn y sesiwn ddilynol, a arweiniwyd gan ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa. Datgelodd ymchwil Dr Jack Underwood sy’n Gymrawd Ymchwil Glinigol, nad yw iselder yn cael ei ganfod yn ddigonol wrth wneud diagnosis o unigolion awtistig. Roedd yn cael ei gysylltu â thrawma niweidiol yn ystod plentyndod ac anawsterau cyfathrebu cymdeithasol, gan bwysleisio’r angen am ymyriadau cynnar.

Cyflwynodd Peter Richardson, Cydymaith Ymchwil yn yr Ysgol Meddygaeth, ei ymchwil ar straen yn gynnar mewn bywyd a sut mae ofn yn cael ei ddysgu. Dangosodd y cysylltiad posibl ag anhwylder straen wedi trawma, a bod gwahaniaethau yn ymateb anifeiliaid i gyflyru ofn, ar sail eu rhyw, yn cynnig dealltwriaeth o fod yn agored i niwed.

Canolbwyntiodd Laura Sichlinger, myfyrwraig PhD yng Ngholeg y Brenin Llundain, ar rôl y genyn ZNF804A mewn sgitsoffrenia, gan drafod ei gysylltiad â'r risg o sgitsoffrenia ac i swyddogaethau mewn datblygiad niwral, gan gynnig llygedyn o obaith o gael triniaethau wedi'u targedu.

Daeth y sesiwn academaidd i ben drwy gynnal trafodaeth gyda phanel o arbenigwyr. Roedd y pynciau trafod o dan sylw yn cynnwys effaith pandemig COVID-19 ar iechyd meddwl, darogan iechyd meddwl yn seiliedig ar amlygiad i olau yn ystod y nos, a strategaethau atal yn y dyfodol.

Cafwyd darlith gyhoeddus gan Louise Arseneault, Athro Seicoleg Datblygiadol yng Ngholeg y Brenin Llundain i ddod â’r diwrnod i ben. Mewn darlith graff a hynod ddiddorol, trafododd yr Athro Arseneault sut mae perthnasoedd cymdeithasol yn cydblethu ag iechyd meddwl a sut maent yn newid yn ystod oes. Cyflwynodd dystiolaeth gyfredol ar yr effeithiau ar unigrwydd a beth mae hyn yn ei olygu o ran lleihau’r risg i iechyd meddwl, yn enwedig ymhlith plant a phobl ifanc.

Meddai’r Athro Arseneault: “Mae perthnasoedd cymdeithasol – boed yn rhai cadarnhaol neu negyddol – yn effeithio ar iechyd meddwl a gellir eu targedu gan ymyriadau ar bob cam yn ystod bywyd.

Dylai ymchwil ddefnyddio methodolegau arloesol i ddatrys y cysylltiadau rhwng perthnasoedd cymdeithasol ac iechyd meddwl oherwydd mae’r rhain yn gallu cael eu cydblethu wrth i bobl fynd yn hŷn. Gallai ymarfer clinigol fanteisio ar y ffynhonnell gymorth bwysig hon wrth sefydlu cynlluniau gofal a rhaglenni atal.
Yr Athro Louise Arseneault Athro Seicoleg Datblygiadol yng Ngholeg y Brenin Llundain

Roedd y gynhadledd yn llwyddiant ysgubol a chafwyd llawer o drafodaethau a brociodd y meddwl. Hoffai'r Brifysgol ddiolch i Sefydliad Waterloo am eu cefnogaeth barhaus.

Rhannu’r stori hon

Mae datblygiadau mewn ymchwil niwrowyddoniaeth ac iechyd meddwl yn golygu ein bod cam yn agosach at ddatrys y dirgelion tu ôl i anhwylderau seiciatrig a niwoddirywiol.