Ewch i’r prif gynnwys

Partneriaeth ryngwladol ym maes ymchwil ar niwrowyddoniaeth ac iechyd meddwl

8 Chwefror 2024

Cardiff University Main Building
Cardiff University Main Building

Mae Sefydliad Arloesi Niwrowyddoniaeth ac Iechyd Meddwl Prifysgol Caerdydd wedi creu partneriaeth ag Ysgol Iechyd Meddwl a Niwrowyddoniaeth Prifysgol Maastricht i ddod ag arbenigedd ymchwil ym maes ymchwil niwrowyddoniaeth ac iechyd meddwl ynghyd.

Diben y bartneriaeth rhwng prifysgolion yng Nghymru a’r Iseldiroedd yw dod ag ymchwilwyr ar draws disgyblaethau ynghyd i hwyluso gwaith ar y cyd, a hynny gyda’r nod o ehangu dealltwriaeth wyddonol o achosion sylfaenol cyflyrau niwrolegol ac iechyd meddwl.

Dyma a ddywedodd yr Athro Adrian Harwood, Cyd-gyfarwyddwr y Sefydliad Arloesi Niwrowyddoniaeth ac Iechyd Meddwl: “Mae’r bartneriaeth hollbwysig hon rhwng y Sefydliad Arloesi Niwrowyddoniaeth ac Iechyd Meddwl ac Ysgol Iechyd Meddwl a Niwrowyddoniaeth Prifysgol Maastricht yn rhychwantu pob agwedd ar ymchwil ar niwrowyddoniaeth ac iechyd meddwl, gan ehangu ein capasiti ymchwil, cyflwyno hyfforddiant ymchwil a chydlynu strategaeth i sicrhau cyllid ar y cyd."

Drwy ehangu’r sylfeini presennol, rydyn ni wedi creu cynllun at y dyfodol i sicrhau ymchwil effeithiol ym maes iechyd meddwl yn ogystal â phartneriaeth arloesol.
Yr Athro Adrian Harwood Technical Director of the Neuroscience and Mental Health Research Institute

Un o sefydliadau blaenllaw y Brifysgol yw Sefydliad Arloesi Niwrowyddoniaeth ac Iechyd Meddwl Prifysgol Caerdydd, gan droi ymchwil arloesol ym maes ymchwil niwrolegol ac iechyd meddwl yn atebion diagnostig a thriniaeth effeithiol. Gan weithio mewn partneriaeth ag Ysgol Iechyd Meddwl a Niwrowyddoniaeth Prifysgol Maastricht, eu nod yw cyfuno gweithgarwch ymchwil ac arbenigedd i sicrhau rhagor o effaith.

Dyma a ddywedodd yr Athro David Linden, Cyfarwyddwr Gwyddonol Sefydliad Iechyd Meddwl a Niwrowyddoniaeth Prifysgol Maastricht: “Mae Maastricht eisoes wedi meithrin perthynas hirsefydlog gyda Phrifysgol Caerdydd, er enghraifft ym maes niwrogeneteg a niwroddelweddu. Un maes allweddol o ddiddordeb fydd troi darganfyddiadau genetig, llawer ohonyn nhw dan arweiniad Caerdydd, yn ymchwil drosi ac, yn y pen draw, driniaethau newydd.”

Bydd y partneriaethau rhyngwladol yn canolbwyntio ar chwilio am gyfleoedd i gydweithio o ran ymchwil ym mhob agwedd ar niwrowyddoniaeth ac iechyd meddwl, hyfforddiant i raddedigion a hyfforddiant technegol yn ogystal â hwyluso cyfnewidiadau gwybodaeth.

Bydd y bartneriaeth hon yn cyfrannu at greu ymchwil flaenllaw a byd-eang ym maes genomeg seiciatrig, niwrowyddoniaeth drosi a seicoleg. Yn sgil y cydweithio, gallwn roi atebion a cheisio therapïau newydd i drin cyflyrau niwrolegol ac iechyd meddwl.
Yr Athro Adrian Harwood Technical Director of the Neuroscience and Mental Health Research Institute

Rhannu’r stori hon