Ewch i’r prif gynnwys

Mae Prosiect y Fryngaer Gudd wedi ennill gwobr o bwys

18 Ionawr 2024

Dau ddyn yn sefyll ar y llwyfan yn derbyn gwobr gan ddyn arall
(L-R) Artist Paul Evans a Dr Oliver Davis un derbyn wobr gan Gyngor Archaeoleg Prydain

Cydnabuwyd yr hyn y mae prosiect archaeoleg gymunedol lwyddiannus wedi’i gyflawni mewn seremoni wobrwyo genedlaethol.

Enillodd Prosiect Treftadaeth Ailddarganfod Caerau a Threlái (CAER) wobr yng nghategori Ymgysylltu a Chymryd Rhan y Seremoni Wobrwyo Cyflawni Archaeolegol.

Partneriaeth rhwng Prifysgol Caerdydd, Gweithredu yng Nghaerau a Threlái (ACE), ysgolion a thrigolion lleol a phartneriaid treftadaeth yw CAER. Canolbwynt y prosiect yw Bryngaer Caerau, safle treftadaeth o arwyddocâd cenedlaethol.

Dros y degawd diwethaf, mae’r prosiect wedi codi proffil y safle, gan arwain at adeiladu canolfan gymunedol newydd, ochr yn ochr â chloddio archaeolegol o bwys yn yr ardal.

Disgrifiodd y beirniaid yr effaith y mae’r prosiect wedi ei chael ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn un ‘ryfeddol’  Ychwanegon nhw: “Roedd adfywio'r gymuned yn rhan enfawr o'r prosiect hwn, gan fod archaeoleg yn dod â phobl ynghyd, gan helpu i greu ymdeimlad o berthyn ac agosrwydd oedd ar goll o'r blaen ac yr oedd ei ddybryd angen.”

Dyma a ddywedodd cyd-gyfarwyddwr Prosiect Treftadaeth CAER, Dr Oliver Davis, o Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd Prifysgol Caerdydd: “Rydyn ni wrth ein boddau’n ennill y wobr hon, a dderbyniais ar ran yr holl bobl sydd wedi ymroi o'u hamser i sicrhau llwyddiant CAER heddiw. Does dim amheuaeth nad yw llwyddiant y prosiect yn deillio o sgiliau, gwybodaeth ac ymrwymiad anhygoel yr holl wirfoddolwyr, pobl a sefydliadau sydd wedi bod yn rhan o'r prosiect, ac mae'r wobr hon yn cydnabod yr hyn maen nhw wedi’i gyflawni mewn ffordd mor anhygoel yn ystod y 10 mlynedd diwethaf.  Alla i ddim aros i weld beth gallwn ni i gyd ei gyflawni gyda'n gilydd yn ystod y 10 mlynedd nesaf.”

Dyma a ddywedodd y Rheolwr Gweithredol a Datblygu sy'n arwain prosiect Caer ar ran ACE, Sam Froud Powell: “Rydyn ni wrth ein boddau’n clywed bod partneriaeth CAER wedi ennill Gwobr Cyflawni Archaeolegol. Dyma brawf o angerdd, egni a brwdfrydedd pawb sydd ynghlwm wrth y prosiect ac mae'n cydnabod yr effaith hirdymor enfawr y mae'r bartneriaeth hon wedi'i chael ar ein cymuned.”

Cydlynir y seremoni wobrwyo, a alwyd gynt yn Seremoni Wobrwyo Archaeoleg Prydain, gan Gyngor Archaeoleg Prydain (CBA) gyda chymorth panel dyfarnu a’i nod yw dathlu cyflawniadau archaeolegol pob rhan o'r Deyrnas Unedig ac Iwerddon.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn lle i'r disgleiriaf a'r gorau i archwilio ac i rannu eu hangerdd dros astudio cymdeithasau'r gorffennol a chredoau crefyddol, o gyfnod cynhanes i'r presennol.