Ewch i’r prif gynnwys

Digwyddiad cyflwyno ymchwil Prifysgol Caerdydd ar Affrica

14 Rhagfyr 2023

Ffotograff o saith ymchwilydd ym Mhrif Adeilad Prifysgol Caerdydd
(Ch-Dd) Dr Nicki Kindersley, Dr Mariam Kamunyu, yr Athro Ambreena Manji, yr Athro Derek Jones, Dr Joe Williams a Dr Romie Nghitevelekwa

Mae ymchwilwyr Prifysgol Caerdydd wedi cynnal digwyddiad ar yr effaith gymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol mae eu hymchwil ar Affrica wedi ei chael yn ogystal â'r berthynas gydradd hirsefydlog â chydweithwyr ar y cyfandir.

Roedd y prosiectau yn cyflwyno amrywiaeth y gwaith sydd ar y gweill ar draws Affrica, boed yn fasnacheiddio amaethyddiaeth, hanesion llafur ac addysg, statws menywod yn y gyfraith, heriau dŵr, a'r angen am sganio MRI i bawb.

Nod y digwyddiad oedd dangos a chefnogi’r ymchwil ar Affrica sydd ar y gweill ym Mhrifysgol Caerdydd drwy ddod o hyd i ddiddordebau ymchwil cyffredin ac arbenigedd tebyg rhwng staff Prifysgol Caerdydd, y llywodraeth a chymdeithas sifil.

Ar ddechrau’r digwyddiad, cafwyd perfformiad gan Ensemble Gorllewin Affrica Lanyi yn Ysgol Cerddoriaeth Prifysgol Caerdydd.

Cafwyd perfformiad gan Ensemble Gorllewin Affrica Lanyi yn Ysgol Cerddoriaeth Prifysgol Caerdydd.
Ensemble Gorllewin Affrica Lanyi dan arweiniad Landing Mané

Cafodd yr ensemble ei sefydlu yn 2013 dan arweiniad Landing Mané, gan roi’r cyfle i fyfyrwyr BA a BMus Prifysgol Caerdydd astudio ystod o draddodiadau offerynnol, lleisiol a dawns, gan ymdrin â repertoire o ystod o ddiwylliannau yng ngorllewin Affrica.

Dyma a ddywedodd yr Athro Ambreena Manji, Deon Gweithgarwch Rhyngwladol dros Affrica, Prifysgol Caerdydd: “Dangosodd y digwyddiad yma yr ystod eang o ymchwil ar Affrica sy'n cael ei wneud gan gydweithwyr ar draws y Brifysgol.

Roedd meistrolaeth dechnegol Ensemble Lanyi yn ffordd wych o ddechrau’r digwyddiad, gan ein hatgoffa sut beth yw cerddoriaeth amlieithog ac amlddiwylliannol yn y Gymru sydd ohoni.

“Roedd yn braf iawn gweld cydweithwyr o'r Brifysgol, y llywodraeth, a'r gymdeithas sifil yn dod o hyd i ddiddordebau cyffredin ac yn ehangu eu rhwydweithiau.”

Cyflwynodd Dr Romie Nghitevelekwa ei gwaith ar rawn miled, sef enghraifft o gyfuno amaethyddiaeth cynhaliaeth wledig yn rhan o economi'r farchnad yn Namibia.

Dr Romie Nghitevelekwa.
Dr Romie Nghitevelekwa, Cymrawd Gwadd yr Academi Brydeinig ym Mhrifysgol Caerdydd sy'n cael ei goruchwylio gan yr Athro Manji

Dangosodd Dr Nghitevelekwa, anthropolegydd cymdeithasol o Brifysgol Namibia, sut mae ei phrosiect yn cynnig dadansoddiad hanesyddol a chyfoes o raddfa a natur masnacheiddio amaethyddiaeth cynhaliaeth mewn cymunedau gwledig ar draws y rhanbarth.

Siaradodd Dr Mariam Kamunyu am ei phrosiect ar ddamcaniaethu dyfarniadau barnwrol ffeministaidd yn Affrica.

Dr Mariam Kamunyu
Dr Mariam Kamunyu, Cymrawd Rhyngwladol yr Academi Brydeinig ym Mhrifysgol Caerdydd 2023-2026 o dan oruchwyliaeth yr Athro Manji.

Ffeminydd a chyfreithwraig hawliau dynol o Kenya yw Dr Kamunyu. Bu’n trafod hanes dyfarniadau ffeministaidd a'u defnyddioldeb wrth roi safbwyntiau amgen gerbron y farnwriaeth a dylanwadu ar y proffesiwn cyfreithiol.

Siaradodd Dr Nicki Kindersley, Uwch-ddarlithydd yn Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd Prifysgol Caerdydd am ei gwaith ar hanesion llafur ac addysg yn Ne Sudan.

Dr Nicki Kindersley.
Dr Nicki Kindersley, Uwch-ddarlithydd yn Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd Prifysgol Caerdydd

Gan ddefnyddio ei phrosiectau ymchwil gyda chydweithwyr ym Mhrifysgol Juba a Sefydliad Rift Valley yn Ne Sudan, gan gynnwys prosiectau ar safonau ymchwil moesegol a hanesion addysg, myfyriodd Dr Kindersley ar hanesion ôl-/trefedigaethol am ofal a gwaith, sef meysydd sydd wrth wraidd ei Chymrodoriaeth Gyrfa Gynnar 2024/25 y Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol Ryngwladol.

Cyflwynodd Dr Joe Williams ei waith ar ddatblygiad byd-eang a gwrthddywediadau 'dŵr newydd'.

Dr Joe Williams.
Dr Joe Williams, Darlithydd yn Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio Prifysgol Caerdydd.

Nod ymchwil Dr Williams yw deall y berthynas sy’n newid o hyd rhwng yr amgylchedd a’r gymdeithas, gan ganolbwyntio’n arbennig ar heriau dŵr. Yn ddiweddar, dyfarnwyd Grant Cychwynnol Cyngor Ymchwil Ewrop (ERC) i Dr Williams am brosiect pontio i adnoddau dŵr anghonfensiynol, sef ceisio deall sut y bydd technolegau dŵr newydd yn dylanwadu ar y gallu i gael gafael ar ddŵr yn Affrica.

Amlinellodd yr Athro Derek Jones waith y Ganolfan gyda chydweithwyr yn Ghana ac Uganda i ddatblygu sganwyr MRI cost isel.

Professor Derek Jones.
Yr Athro Derek Jones, Cyfarwyddwr Canolfan Ymchwil Delweddu'r Ymennydd Prifysgol Caerdydd.

Mae'r sganwyr, sef offer meddygol pwerus sy’n canfod clefydau megis canser, salwch niwrolegol a chlefyd y galon, yn ddrud ac nid ydynt ar gael yn rhwydd mewn cymunedau gwledig incwm isel.

Trafododd yr Athro Jones yr angen i ddemocrateiddio MRI, gan ddod â'r dechnoleg i'r cleifion sydd ei angen arnyn nhw.

Ychwanegodd yr Athro Manji: “Rwy'n edrych ymlaen at weld sut mae’r prosiectau hyn yn datblygu ac at gefnogi rhagor o ymchwil ragorol ar Affrica yn 2024 a thu hwnt.”

Y flwyddyn nesaf, bydd Grŵp Cynghori Strategol Affrica newydd Prifysgol Caerdydd – sy'n cynnwys aelodau o’r cynghorau cyllido, y llywodraeth a'r sectorau diwylliannol – yn cwrdd am y tro cyntaf.

Bydd y grŵp yn cefnogi'r Athro Manji yn ei rôl yn Ddeon Rhyngwladol Affrica i gyflwyno cynllun gweithredu er gwaith ymchwil ac ymgysylltu ar draws y rhanbarth.

Rhannu’r stori hon

Mae gennym gysylltiadau ffurfiol â thros 35 o wledydd a phartneriaethau strategol gyda Phrifysgol Xiamen ac Unicamp.