Ewch i’r prif gynnwys

Partneriaeth newydd rhwng prifysgolion i wella gallu academaidd yng Nghymru a Namibia

22 Mehefin 2023

Mae’r cytundeb newydd rhwng Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Namibia yn adeiladu ar bron i ddegawd o gydweithio rhwng y ddwy brifysgol yn dyddio’n ôl i sefydlu Prosiect Phoenix yn 2014. Yn sefyll (o'r chwith i'r dde): Dr Marius Kudumo, Pinehaus Auene, y Gwir Anrhydeddus Mark Drakeford MS, Pat Younge, yr Athro Ambreena Manji, yr Athro Rudolf Allemann a Ms Ebben Mutjavikua. Yn eistedd: (o'r chwith i'r dde) Yr Athro Kenneth Matengu a'r Athro Colin Riordan.

Mae partneriaeth cenhadaeth ddinesig ryngwladol wedi'i sefydlu rhwng Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Namibia (UNAM).

Bydd y cytundeb pum mlynedd yn canolbwyntio ar wella gallu academaidd a hyfforddiant, cynyddu symudedd rhyngwladol staff a myfyrwyr, a hyrwyddo cyfnewidiadau ymchwil mewn meysydd o ddiddordeb deallusol mewn nifer o ddisgyblaethau.

Dan arweiniad yr Athro Ambreena Manji, Deon Rhyngwladol Affrica Prifysgol Caerdydd, bydd y cytundeb yn sail i geisiadau i gyllidwyr allanol, yn trafod ffyrdd o gysylltu gweithgareddau cenhadaeth ddinesig Caerdydd, ac yn dod â'i bartneriaid rhyngwladol ynghyd.

Mae cais llwyddiannus gan Gaerdydd i'r Academi Brydeinig eisoes wedi sicrhau Cymrawd Rhyngwladol o UNAM.

Llofnodwyd y bartneriaeth newydd gan Is-ganghellor Prifysgol Caerdydd, yr Athro Colin Riordan ac Is-Ganghellor UNAM, yr Athro Kenneth Matengu, mewn digwyddiad a fynychwyd gan Brif Weinidog Cymru, y Gwir Anrhydeddus Mark Drakeford AS a Mr Pinehaus Auene, a ymunodd ar ran Uchel Gomisiynydd Namibia i'r DU a Gogledd Iwerddon Linda Scott.

Meddai’r Athro Colin Riordan, Is-Ganghellor a Llywydd Prifysgol Caerdydd: “Mae heddiw yn dipyn o uchafbwynt i mi wrth inni adnewyddu ein hymrwymiad i berthynas hirsefydlog ar cyd â Phrifysgol Namibia, a ddechreuodd rhyw ddwy flynedd ar ôl i mi ymuno â Phrifysgol Caerdydd ym mis Gorffennaf 2014, gyda sefydlu Prosiect Phoenix.

“Ers hynny, mae Prosiect Phoenix, a weithiodd gyda phartneriaid yn Namibia i leihau tlodi a hybu iechyd ac amgylchedd cynaliadwy, wedi darparu bron i ddegawd o genhadaeth ddinesig a rhaglenni ymchwil o dan arweiniad yr Athro Judith Hall, gan gynnwys, wrth gwrs, brwydro yn erbyn heriau sylweddol pandemig byd-eang COVID-19, gan ddarparu brechlynnau, ocsigen a chyfarpar diogelu personol yn amserol.

“Felly, rwy’n falch iawn ein bod yn ymrwymo i bum mlynedd arall o bartneriaeth gyda’n cydweithwyr yn UNAM. Gyda’n gilydd byddwn yn trafod llwybrau newydd ar gyfer gwaith ymchwil effeithiol a deallusol ar y cyd.”

): Is-ganghellor Prifysgol Caerdydd, yr Athro Colin Riordan yn annerch cynulleidfa ym Mhrif Adeilad y Brifysgol.
: Mae Is-ganghellor Prifysgol Caerdydd, yr Athro Colin Riordan, yn myfyrio ar y berthynas bron i ddegawd o hyd ag UNAM a’i llwyddiannau mewn digwyddiad i nodi dechrau’r bartneriaeth genhadaeth ddinesig ryngwladol newydd rhwng y ddwy brifysgol.

Roedd y digwyddiad yn rhan o ymweliad pedwar diwrnod gan ddirprwyaeth UNAM. Cwrddon nhw ag ystod eang o gydweithwyr yng Nghaerdydd ym meysydd llywodraethu prifysgolion ac mewn meysydd ymchwil y mae gan Gaerdydd enw da byd-eang ynddyn nhw.

Ychwanegodd yr Athro Kenneth Matengu, Is-Ganghellor UNAM: “Mae'r cydweithio rhwng ein dwy brifysgol dros y blynyddoedd yn bwysig i mi. Mae wedi bod yn berthnasol, yn ymatebol, ac mae wedi cael effaith fyd-eang."

Dathlodd y sefydliad addysg uwch cenedlaethol blaenllaw a’r mwyaf o’i fath yn Namibia, UNAM, ei ben-blwydd yn 30 ym mis Awst 2022.

Dros dri degawd mae'r brifysgol wedi tyfu i gynnal poblogaeth myfyrwyr o dros 30,000 o 41 o wledydd ar draws pedair cyfadran ac 16 ysgol academaidd. Mae’r rhain yn cynnwys peirianneg, meddygaeth, nyrsio, iechyd y cyhoedd, fferylliaeth, deintyddiaeth, y gwyddorau cymdeithasol, y gyfraith a chyfrifiadura.

Rhannu’r stori hon

Mae gennym gysylltiadau ffurfiol â thros 35 o wledydd a phartneriaethau strategol gyda Phrifysgol Xiamen ac Unicamp.