Ewch i’r prif gynnwys

Y Deon dros Affrica’n croesawu un o Gymrodyr Rhyngwladol yr Academi Brydeinig

10 Hydref 2023

Dr Mariam Kamunyu
Dr Mariam Kamunyu

Bydd cyfreithiwr hawliau dynol ffeministaidd ac arbenigwr ym maes cydraddoldeb rhywiol yn ymuno ag Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth ym mis Hydref yn un o Gymrodyr Rhyngwladol yr Academi Brydeinig.

Bydd Dr Mariam Kamunyu yn dechrau cymrodoriaeth ryngwladol 3-blynedd gan yr Academi Brydeinig a fydd yn canolbwyntio ar brosiect arloesol – Damcaniaethu Dyfarniadau Ffeministaidd yn Affrica.

Mae'r prosiect yn ceisio esbonio Dyfarniadau Ffeministaidd yn Affrica o safbwynt damcaniaethol, gan ganolbwyntio ar hawliau dynol. Mae Dyfarniad Ffeministaidd yn defnyddio beirniadaeth ffeministaidd i geisio ailddychmygu dyfarniad mewn achosion pan fo dyfarniad yn achosi gwahaniaethu neu’n methu â sicrhau cydraddoldeb gwirioneddol. Mae’r methiant hwn yn aml yn arwain at ddirywiad yn statws menywod yn y gyfraith ac yn diystyru menywod a’u profiadau bywyd. Gall Dyfarniad Ffeministaidd gynnig syniadau amgen a llwybrau eraill at gydraddoldeb sy’n ymgorffori safbwyntiau ffeministaidd. Mae ailysgrifennu’r dyfarniad, gwneud dadansoddiad ohono neu fynegi’r dyfarniad mewn ffordd greadigol ac artistig yn ffyrdd o’i ailddychmygu.

Bydd cymrodoriaeth Dr Kamunyu yn cael ei noddi gan yr Athro Ambreena Manji, Athro Cyfraith Tir yn yr Ysgol a Deon Gweithgarwch Rhyngwladol y Brifysgol dros Affrica. Mae’r Deon dros Affrica’n cynnig arweiniad academaidd pwrpasol i bartneriaethau a mentrau’r Brifysgol yn Affrica. Mae hefyd yn creu cyfleoedd newydd i ehangu proffil, cyrhaeddiad ac effaith y sefydliad yn y rhanbarth. Bydd yr Athro Manji, yn rhinwedd ei rôl yn Ddeon, yn gweithio’n agos gyda Dr Kamunyu ac yn ei mentora tra bydd yn ymgymryd â’i chymrodoriaeth.

Ar hyn o bryd, mae Dr Kamunyu yn gweithio ym Mhrifysgol Gatholig Dwyrain Affrica yn Nairobi, Kenya. Yno, mae’n ymgynghorydd ymchwil, ac mae ei gwaith yn canolbwyntio’n bennaf ar archwilio a dylanwadu ar ymatebolrwydd cyfreithiau, sefydliadau ac arferion.

Dywedodd Dr Kamunyu, "Rwyf wrth fy modd yn derbyn y gymrodoriaeth hon a fydd yn atgyfnerthu fy ymarfer a'm gweithgareddau academaidd hyd yn hyn, gan ei bod yn dwyn ynghyd fy nghefndiroedd cyfreithiol a ffeministaidd a all fod yn groes yn aml. Fel ffeminydd, rwy'n ymwybodol ac yn wyliadwrus o sut mae'r gyfraith yn cael ei defnyddio i angori gwahardd menywod; ac fel ymchwilydd, rwy'n negodi ac yn gweithio o fewn y tensiwn hwn gyda chwilfrydedd ac optimistiaeth. Credaf y gall dyfarniadau ffeministaidd gynnig dewisiadau amgen achubol i'r gwrthddywediad hwn. Yn fy ymchwil, byddaf yn ceisio dangos potensial gwaredol y gyfraith ar gyfer ymarfer barnwrol yn Affrica a gallu dyfarniadau ffeministaidd i weld gormes, stereoteipiau, dileu a thorri, a thrwy hynny wella amddiffyniad menywod."

Wrth sôn am y gymrodoriaeth, dywedodd yr Athro Manji: “Mae ysgolheigion ffeministaidd ledled y byd yn rhoi sylw i’r hyn sy’n bosibl drwy ailysgrifennu dyfarniadau cyfreithiol o safbwynt ffeministaidd. Dyma gyfnod arbennig o gyffrous i fod yn gweithio ar Ddyfarniadau Ffeministaidd a gweld eu potensial i drawsnewid cyfreitheg ac ymarfer barnwrol. Er bod Dr Kamunyu yn dal i fod ar gam cymharol gynnar yn ei gyrfa, mae ganddi record yn barod o gyhoeddi gwaith a bod yn rhan o weithgarwch ysgolheigaidd ym maes hawliau dynol menywod. Bydd y gymrodoriaeth hon yn rhoi’r cyfle iddi dreiddio’n ddyfnach i’r maes hwn ac yn rhoi cyfleoedd parhaus iddi fynd ar drywydd ei diddordeb ysgolheigaidd mewn menywod a’r gyfraith. Rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda hi yng Nghaerdydd.”

Rhannu’r stori hon