Cyhoeddi enillwyr Gwobrau Cynfyfyrwyr (tua)30 y flwyddyn hon
25 Medi 2023
Mae Gwobrau(tua)30 y Brifysgol yn dathlu llwyddiannau cynfyfyrwyr sydd wedi gwneud cyfraniad cadarnhaol at eu cymuned, a'r cyfan cyn eu bod yn 30 oed. Wel, (tua)30 oed.
Gan osgoi’r fformat traddodiadol o gael rhestr o '30 o dan 30', roedd y Gwobrau yn agored i gynfyfyrwyr o dan 30, yn ogystal â rhai hŷn, ond sy'n teimlo eu bod (tua)30. Cafodd y Gwobrau eu creu i gydnabod cynfyfyrwyr o Brifysgol Caerdydd sydd wedi creu newid, arloesi a thorri tir newydd. Cafwyd ymateb anhygoel, gyda thros 250 o enwebiadau yn cael eu cyflwyno.
Cafodd cynfyfyrwyr o bob cwr o'r byd ac o ystod eang o ddiwydiannau eu henwebu naill ai ganddyn nhw eu hunain neu gynfyfyrwyr eraill, staff neu gydweithwyr.
Ar ôl llawer o ystyriaeth, dewiswyd enillwyr (tua)30 mewn categorïau gan gynnwys Entrepreneuriaeth, Arloesi, Effaith Gymdeithasol, Newyddiaduraeth a'r Cyfryngau, ac Iechyd a Lles. O bob categori derbyniodd un enillydd Wobr Cydnabyddiaeth Arbennig arall.
Gweld y rhestr lawn o enillwyr.
Bydd yr enillwyr yn casglu eu gwobrau mewn digwyddiad arbennig ar 5 Hydref a gynhelir yn sbarc | spark. Bydd y noson yn cael ei llywyddu gan y Llywydd a'r Is-Ganghellor, yr Athro Wendy Larner a'r cyn-fyfyriwr Matt Barbet (BA 1997, PgDip 1999). Bydd gwesteion yn bresennol o bob rhan o'r Brifysgol a chymuned Caerdydd, gan gynnwys cyn-fyfyrwraig o Gaerdydd, y Gwir Anrhydeddus Arglwydd Faer Caerdydd, y Cynghorydd Bablin Molik (BSc 2001, PhD 2008, TAR 2014). Ar y noson, bydd enillydd 'Dewis y Bobl' yn cael ei gyhoeddi, ar ôl derbyn pleidlais gan eu cyd-enillwyr.
Dywedodd Barry Sullivan, Pennaeth Cysylltiadau Cynfyfyrwyr: “Yn dilyn llwyddiant (tua)30 y llynedd, doedden ni ddim yn gallu aros i weld beth oedd gan 2023 ar y gweill. Rydym yn gwybod bod cynfyfyrwyr Caerdydd yn gwneud y byd yn lle gwell, ac rydym wedi datgelu hyd yn oed mwy o straeon anhygoel o bob cwr o'r byd.
“Rwy’n ddiolchgar i'r staff a roddodd o'u hamser i enwebu cynfyfyrwyr, ac i weddill ein panelwyr - am ein helpu i wneud penderfyniadau anodd iawn. Gydag enillwyr (tua)30 2022 hefyd yn bresennol hefyd, alla i ddim aros i weld hen ffrindiau'n aduno, a rhwydweithiau newydd yn cael eu ffurfio. Hanfod y gymuned gydol oes hon yw bod yn gynfyfyriwr o Brifysgol Caerdydd.”