Ewch i’r prif gynnwys

Dathlu ymchwil ym maes y dyniaethau

18 Hydref 2023

Being Human darluniad byd

Mae Prifysgol Caerdydd ac Amgueddfa Cymru’n dod ynghyd ar gyfer gŵyl Being Human, sy’n dathlu ymchwil ym maes y dyniaethau.

Being Human yw gŵyl genedlaethol y dyniaethau yn y DU. Mae’r ŵyl yn dathlu sut mae ymchwil ym maes y dyniaethau’n ysbrydoli ac yn cyfoethogi ein bywydau bob dydd, gan ein helpu i ddeall ein hunain, ein perthynas â phobl eraill a'r heriau sy'n ein hwynebu mewn byd sy'n gyson newid.

Bydd y digwyddiadau i’r cyhoedd, sy’n rhad ac am ddim ac ar gyfer ystod o oedrannau, yn cael eu cynnal rhwng 8 a 19 Tachwedd mewn lleoliadau ledled y ddinas. Byddan nhw’n cynnwys teithiau cerdded a theithiau dan arweiniad, arddangosiadau, sesiynau trin gwrthrychau a gweithdai celf a chrefft.

Bydd y digwyddiadau’n tynnu ar waith ymchwil amrywiol – boed yn waith cloddio archaeolegol, gwaith i warchod gweithiau celf, deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol a chasgliadau o ffyngau neu’n arddangosfa o straeon iechyd meddwl cyn-filwyr a hanes trefedigaethol a diwydiannol Castell Penrhyn.

Mae Prifysgol Caerdydd wedi’i dewis yn un o bum prif hyb yr ŵyl eleni.

Dywedodd yr Athro Claire Gorrara, Deon Ymchwil ac Arloesedd Coleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Caerdydd: “Rydyn ni’n falch iawn o gydweithio ag Amgueddfa Cymru ar ein rhaglen gyntaf ar gyfer gŵyl Being Human. Mae’r ystod o weithgareddau y byddwn ni’n eu cynnal yn tystio i fywiogrwydd yr ymchwil ym maes y celfyddydau a’r dyniaethau a’r gwaith ymgysylltu â’r cyhoedd sy’n digwydd o fewn cymuned Prifysgol Caerdydd ac ymhlith y grwpiau rydyn ni’n cydweithio â nhw. Rydyn ni’n edrych ymlaen at groesawu pobl i’r ŵyl.”

Dywedodd Dr Kath Davies, Cyfarwyddwr Casgliadau ac Ymchwil, Amgueddfa Cymru: “Rydyn ni’n falch iawn o fod yn cydweithio â Phrifysgol Caerdydd i gynnal digwyddiadau’n rhan o ŵyl Being Human. Rydyn ni’n gobeithio y bydd yr ymwelwyr ag Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd a Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru’n mwynhau’r ŵyl ac yn gweld sut rydyn ni’n cydweithio â chymunedau lleol i rannu gwybodaeth a syniadau ac i’n helpu i ddeall yr heriau rydyn ni’n eu hwynebu mewn byd sy’n gyson newid.”

Mae gŵyl Being Human yn rhan o bartneriaeth strategol ehangach rhwng Prifysgol Caerdydd ac Amgueddfa Cymru i hybu cydweithio ym maes addysg uwch a'r sector treftadaeth yng Nghymru. Mae'r bartneriaeth yn canolbwyntio ar gydweithio ar draws pum maes sy’n ceisio creu budd i'n cymunedau amrywiol: ymchwil ac arloesedd; diogelu ac adfer yr amgylchedd; diwylliannau digidol a thechnolegau addasol; sgiliau, talent a dysgu gydol oes; a sicrhau lles a chynrychiolaeth gynhwysol drwy werthfawrogi treftadaeth.

Gweler rhaglen lawn gŵyl Being Human y DU yma.

Mae gŵyl Being Human yn cael ei harwain gan yr Ysgol Astudiaethau Uwch ym Mhrifysgol Llundain mewn partneriaeth â Chyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau a’r Academi Brydeinig.

Rhannu’r stori hon